Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 13

13
Neillduad Paul a Barnabas, 1–3.
1Ac#13:1 Dyma ddechreuad yr Ail Ran o'r Actau, yn yr hwn y rhoddir yn benaf teithiau Paul. yr oedd yn Antioch, yn#13:1 gyda, yn cael ei adnabod felly. yr Eglwys oedd yno, brophwydi#13:1 rai, gad. א A B D Brnd. ac athrawon#13:1 Y prophwydi oeddynt dan gyfarwyddyd neillduol ysprydoliaeth, ac a wnaent yn hyspys ewyllys Duw i'r bobl; yr athrawon a roddent eu hunain i'r gwaith o addysgu eraill yn ngwirioneddau dadguddiedig yr Efengyl. Rhai a farnant (yn ol y geiriad yn y Groeg) fod y tri cyntaf yn brophwydi, a'r ddau olaf yn athrawon; ond y mae yn fwy tebygol fod y pump yn brophwydi ac yn athrawon.: Barnabas, a Symeon yr hwn a elwir Niger#13:1 Ni wyddis dim am dano. Rhai a dybiant ei fod yr un a Simon o Cyrene, yr hwn a ddygodd Groes Crist. Niger, dyn du, enw cyffredin yn mhlith y Rhufeiniaid, ac felly nis dengys, o anghenrheidrwydd, ei fod fel Affricaniad, o liw du, er fod ‘Ethiopia yn dechreu estyn ei dwylaw at Grist.’, a Lucius#13:1 Nid oes sail i'r dybiaeth mai ‘y physigwr anwyl’ oedd hwn. Y mae yr enwau yn wahanol, Lucas (byr o Lucanus) oedd yr olaf. y Cyreniad, Manaen hefyd, brawd-maeth#13:1 suntrophos, golyga wedi ei fagu, neu, ei ddwyn i fyny, gyda, felly (1) brawd-maeth (Llad. collactaneus), hyny yw, fod Herod wedi ei fagu ar laeth mam Manaen; neu (2) cydymaith, un wedi cael ei addysg, &c., gyda Herod Antipas. Rhoddir y ddau ystyr i'r gair. Gall dau wedi eu magu ar yr un llaeth arwain bywyd hollol wahanol. Yr oedd Manaen yn brophwyd; lladdodd Herod y penaf o'r prophwydi. ‘Un a gymerir, a'r llall a adewir’ (Mat 24:40). Yr oedd Herod yn awr mewn alltudiaeth yn Lyons, ac Archelaus yn Vienne, yn Gaul. Herod y Tetrarch, a Saul#13:1 Y mae Saul eto yn mhlith y Prophwydi. Enwir ef yn olaf, am mai efe, efallai, oedd yr olaf i gael ei ychwanegu at y credinwyr.. 2Ac a hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd#13:2 leitourgeô, berf a ddefnyddir am wasanaeth y Deml a ddygid yn mlaen gan yr offeiriaid (Ex 28:31; 40:48; Heb 10:11); yma, gwasanaeth crefyddol a chydoeddus yr Eglwys. Geilw Paul ei hun yn ‘weinidog [leitourgos] Iesu Grist i'r Cenhedloedd’ (Rhuf 15:16). ac yn ymprydio#13:2 Y mae ymprydio yn awgrymu fod gweddi yn ran bwysig o'r gwasanaeth., dywedodd yr Yspryd Glân, Neillduwch#13:2 gosod ar wahan, dydoli, neillduo, ‘Paul … wedi ei neillduo i Efengyl Duw’ (Rhuf 1:1). Yr Yspryd Glân sydd yn galw, yr Eglwys sydd yn neillduo. Dangosir yn amlwg yma ei Bersonoliaeth a'i Ddwyfoldeb (‘i mi’). Ar ol hyn gelwir hwynt yn Apostolion. Y mae ‘y llestr etholedig’ o hyn allan yn ‘Apostol y Cenhedloedd.’ yn awr#13:2 dê, gyda'r modd gorchymynol, yn dangos rheidrwydd a dir‐anghen. i mi Barnabas a Saul i'r gwaith i'r hwn yr wyf wedi eu galw. 3Yna wedi ymprydio, a gweddio, a dodi eu dwylaw arnynt, hwy a'u gollyngasant ymaith#13:3 Y mae yr ail adroddiad a geir yma yn dangos pwysigrwydd y gwaith. Dyma yr ail waith i roddi dwylaw ar Paul (9:17). Drwy y cyntaf y derbyniodd yr Yspryd Glân, a thrwy yr ail ei gommissiwn. Dyma ddechreuad y Genadaeth reolaidd, wedi cael ei dechreuad yn y Nef, ac wedi ei chydnabod gan yr Eglwys..
Eu gweinidogaeth yn Cyprus, 4–12.
4Hwythau yn wir gan hyny, wedi eu danfon allan gan yr Yspryd Glân, a aethant i waered i Seleucia#13:4 Porthladd Antioch, tua 16 o filltiroedd oddiwrthi, ar yr Afon Orontes. Adeiladwyd y dref gan Seleucus Nicator, a galwodd hi ar ol ei enw ei hun, fel y galwyd Antioch ar ol enw ei dâd. Y mae dan forglawdd, gweddillion o'i phorthladd godidog, yn dwyn yr enwau Paul a Barnabas.; ac oddiyno hwy a hwyliasant ymaith i Cyprus#13:4 Lle genedigol Barnabas, 4:36. Y mae yr Ynys tua 140 o hyd a 60 o led. Citium, Salamis, a Paphos oedd ei phrif ddinasoedd. Yr oedd tua 80 i'r gorllewin o Seleucia. Yr oedd haner ei thrigolion yn Iuddewon. Yn B.H. 116 codasant yn erbyn y brodorion, a lladdasant 240,000, o honynt. Ar ol hyn cospwyd hwynt, ac ni chaniateid iddynt fyned i'r Ynys. Syrthiodd i law y Saraceniaid yn y nawfed ganrif, ac i eiddo y Tyrciaid yn yr unfed‐ar-bumtheg.. 5A phan gyrhaeddasant Salamis#13:5 Prif ddinas yr Ynys, ar yr ochr ddwyreiniol, wedi ei hadeiladu, yn ol traddodiad, gan Teucer, mab Telamon, brenhin Salamis, yr hwn y gwrthododd ei dâd ei dderbyn i'w dy ar ol marwolaeth Ajax. Dinystriwyd hi gan ddaeargryn yn amser Cystenyn Fawr, ond ail‐adeiladodd yr Amherawdwr hi, a galwodd hi Constantia. Ar ol hyn dinystriwyd hi gan y Saraceniaid., hwy a fynegasant Air Duw yn Synagogau yr Iuddewon#13:5 Yn ol eu harferiad (14:1; 17:2; 18:4–19; 19:8). ‘I'r Iuddew yn gyntaf,’ Rhuf 1:16.: ac yr oedd ganddynt Ioan hefyd fel eu cynorthwywr#13:5 hupêretês, is‐rwyfwr, yna, is‐swyddog, cydymaith, gwas.. 6Ac wedi myned trwy yr holl#13:6 holl א A B C D E Brnd. ynys hyd Paphos#13:6 Dinas yn y terfyn gorllewinol o'r Ynys, tua 100 milltir o Salamis. Hynodid hi gan addoliad Venus. Yr oedd Paphos Hen a Paphos Newydd. Hon oedd yr olaf. Yr oedd wyth milltir rhyngddynt., hwy a gawsant un Magiad#13:6 Gweler 8:9. Yn wreiddiol yr oedd y Magiaid yn urdd o ddewinwyr Persiaidd, wedi ei sylfaenu, dywedir gan Zoroaster. Yr oeddynt yn hyddysg mewn athroniaeth naturiol, yn enwedig seryddiaeth; ond llygrwyd hyn i ser‐ddewiniaeth, fel y daeth yr enw, yn lle bod yn un urddasol, i ddynodi swynwyr, hudwyr, twyllwyr., gau‐brophwyd, Iuddew, 7o'r enw Bar‐Iesu#13:7 Mab Iesu neu Josua. Amrywia y llawsgrifau yn eu ffurf. Barsuma, Barjehu, Barjoshua, &c. Rhoddant ffurf wahanol, o barch i'r enw Iesu., yr hwn oedd gyda'r Rhaglaw#13:7 Yr oedd y tiriogaethau Rhufeinig wedi eu dosranu gan Augustus i ddau ddosparth, y Seneddol a'r Amherodrol. Gelwid llywodraethwr y blaenaf yn proconsul, a'r olaf yn propraetor. Y mae y gair Groeg yma, anthupatos, yn cyfateb i'r blaenaf; antistratêgos yw y Groeg am yr olaf. Gosododd Augustus Cyprus dan yr olaf yn y dechreu; ond cyn yr adeg hon yr oedd wedi ei gwneyd yn diriogaeth Seneddol, ac felly y mae Luc yn gywir yn ei ddesgrifiad o'i llywodraethwr. Nid oes genym eiriau Cymraeg i ddynodi y gwahaniaeth os na ddefnyddiwn Rhaglaw Seneddol a Rhaglaw Amherodrol., Sergius Paulus#13:7 Nid oes dim yn wybyddus am dano; ond yr oedd yn wahanol iawn i Raglaw Achaia, Gallio (18:12–17). Nid oedd Gallio ‘yn gofalu am ddim o'r pethau hyn.’, gwr deallus#13:7 Neu, meddylgar.. Hwn wedi galw ato Barnabas a Saul, a ddeisyfodd glywed Gair Duw. 8Eithr Elymas#13:8 Enw Arabaidd yn golygu yr un peth a Magos, doeth, &c. Cymharer y gair Tyrcaidd Ulemah. y Magiad (canys felly y cyfieithir ei enw ef) a'u gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyrdroi y Rhaglaw oddiwrth y Ffydd. 9Eithr Saul, yr hwn hefyd yw Paul#13:9 Dyma y tro cyntaf i'r enw gael ei ddefnyddio, a hwn a ddefnyddir mwyach, ond pan y cyfeirir at ei fywyd blaenorol. Yr oedd yn beth arferol yn mhlith yr Iuddewon ac eraill i ddwyn dau enw, Symeon Niger, Barsabas Justus, Ioan Marc, &c. Gallai fod yr enw Paul yn perthyn iddo o'r dechreuad. Nid yw debygol iddo ei gymeryd o herwydd troedigaeth Sergius Paulus, nac am ei fod yn golygu ‘un bychan’ (Awstin); ond yn awr y mae yn Apostol i'r Cenhedloedd, o'r rhai yr oedd y Rhufeiniaid y penaf, ac felly y mae ‘yr hwn oedd bob peth i bob dyn’ yn defnyddio ei enw Rhufeinig. Yr oedd Saul yr Erlidiwr yn gas ganddo. Y mae yn awr yn arwain bywyd newydd, ac y mae am enw newydd; beth bynag y mae am dori pen yr hen enw S(aul). Y mae bellach nid i erlid ond i gael ei erlid. Y mae Paul i ddyoddef yr hyn a wnaeth Saul. Yr oedd Saul yn llabyddio, y mae Paul i gael ei labyddio; yr oedd Saul yn curo y credinwyr â gwiail, yr oedd Paul i dderbyn deugain ond un o wialenod; yr oedd Saul i orchfygu, yr oedd Paul i gael ei orchfygu, i gael ei wneyd yn gaethwas i Grist., wedi ei lanw o'r Yspryd Glân, ac wedi edrych yn graff arno#13:9 Llyth: iddo, i'w lygaid., 10a ddywedodd, O tydi, yn gyflawn o bob twyll#13:10 dolos, twyll, yn dufewnol, fel gau‐brophwyd; rhadiourgia [llyth: rhwyddineb mewn gwneuthur, ysgafnder] cyfrwystra, anfadrwydd, dyhirwaith, ystryw, yn allanol, fel swynwr. Gweler 18:14, am ffurf arall o'r gair. ac o bob ystryw#13:10 dolos, twyll, yn dufewnol, fel gau‐brophwyd; rhadiourgia [llyth: rhwyddineb mewn gwneuthur, ysgafnder] cyfrwystra, anfadrwydd, dyhirwaith, ystryw, yn allanol, fel swynwr. Gweler 18:14, am ffurf arall o'r gair., Mab Diafol#13:10 Ei enw oedd Mab Iesu, ei gymeriad oedd Mab Diafol., gelyn pob cyfiawnder, oni#13:10 Rhai a ddarllenant yn y cadarnhaol ‘Ni pheidi,’ &c. pheidi di a gŵyrdroi uniawn#13:10 Y mae yr Arglwydd ‘yn gwneyd y gwyr yn uniawn’ Es 40:4; ond y mae ‘Mab Diafol’ yn gwneyd yr uniawn yn wyrgam. ffyrdd yr Arglwydd? 11Ac yn awr, wele, y mae llaw#13:11 Brawddeg fynych yn yr Hen Destament i ddynodi cosp oddiwrth Dduw. yr Arglwydd arnat ti, a thi a fyddi ddall, heb weled yr haul#13:11 gan ddynodi dallineb hollol. am dymhor. Ac yn y man syrthiodd arno niwlen#13:11 achlus, niwlen, caddug; gair barddonol (yn Homer yn dynodi y pylni a syrthiai ar rai mewn llewyg neu yn marw), ac hefyd celfair meddygol am glefyd neillduol. Cafodd Paul ei daro yn ddall, ac y mae yntau yn offeryn i wneyd Elymas yn ddall yn y corph er iddo gael goleuni i'w feddwl. a thywyllwch, ac efe, gan fyned o amgylch, a geisiodd rai i'w arwain gerfydd ei law. 12Yna pan welodd y Rhaglaw yr hyn a wnaethid, efe a gredodd, gan ei daro a syndod at ddysgeidiaeth#13:12 hyny yw, llanwyd ef a syndod at athrawiaeth Paul am yr Arglwydd Iesu. yr Arglwydd.
Myned i Asia Leiaf, a phregethu yn Antioch, 13–43.
13Ac wedi morio#13:13 anagô, term morwrol, arwain i fyny, h.y. allan i'r môr. Defnyddir y gair 13 o weithiau yn yr Actau, ac yn Luc 8:22. ymaith o Paphos, Paul a'r rhai oedd gydag#13:13 llyth: y rhai o gylch Paul. Y mae Paul erbyn hyn yn llanw y lle blaenaf. ef a ddaethant i Perga#13:13 prif‐ddinas Pamphylia, lle yr oedd teml ardderchog Diana. Y maent yn ymosod ar baganiaeth yn ei lleoedd cryfaf. Yr oedd Pamphylia rhwng Cilicia a Lycia. Yr oedd eu harosiad yma yn fyr. yn Pamphylia: ac Ioan, gan ymadael#13:13 paham? nid yn gymaint am ei fod yn wrthwynebol i dderbyn y cenedl‐ddyn i'r Eglwys heb ei enwaedu, ond am ei fod yn amddifad o'r gwroldeb a'r brwdfrydedd oedd yn anghenrheidiol i'r gwaith pwysig a pheryglus, 15:38. Efallai i Titus gymeryd ei le (Gal 2:1). oddiwrthynt, a ddychwelodd i Jerusalem. 14Eithr hwy, wedi tramwy o Perga, a ddaethant i Antioch#13:14 Antioch yn Pisidia, i'w gwahaniaethu oddiwrth yr Antioch fwy enwog yn Syria, 11:19. Sylfaenwyd hi gan Seleucus Nicator, a galwodd hi ar ol ei dâd, Antiochus Fawr. Dywed Strabo ei bod yn Phrygia, a Ptolemi ei bod yn Pamphylia, ond nid oedd y terfynau y pryd hwn yn glir. Galwyd hi yn amser Augustus yn Cesarea. Yr oedd Pisidia i'r gogledd o Pamphylia. Yr oedd yn wlad fynyddig, ac efallai yma y bu Paul mewn ‘perygl oddiwrth yspeilwyr,’ 2 Cor 11:26. yn Pisidia; a hwy a aethant i'r Synagog ar y dydd Sabbath, ac a eisteddasant. 15Ac ar ol darllen y Gyfraith#13:15 Gwarafunodd Antiochus Epiphanes ddarlleniad o'r Gyfraith, ac felly darllenid o'r Prophwydi. Wedi'r adferiad dan y Maccabeaid darllenid o'r Gyfraith a'r Prophwydi. Casgla Bengel oddiwrth araeth Paul mai y rhanau am y Sabbath hwn oedd Deut 1 ac Es 1, gan y dygwydda rhai o'r termau a ddefnyddia Paul yn yr adranau hyn. a'r Prophwydi, Llywodraethwyr#13:15 llyth: arch‐Synagogwyr. y Synagog a anfonasant atynt, gan ddywedyd, O wyr Frodyr, os oes genych air o gynghor i'r bobl, traethwch#13:15 Yr oedd yn agored i unrhyw ddysgawdwr cydnabyddedig i lefaru. Cymharer Luc 4:16. Yr un peth oedd sylwedd araeth Paul ag eiddo Petr a Stephan, Iesu Croeshoeliedig wedi ei gyfodi gan Dduw i fod yn Iachawdwr y byd.. 16A Phaul a gyfododd, a chan amneidio a'i law a ddywedodd,
O wyr o Israeliaid, a'r rhai sydd yn ofni Duw#13:16 Anerchodd y ddau ddosparth, gan ddefnyddio termau parchus am danynt. ‘Y rhai sydd yn ofni Duw’ oeddent genedl‐ddynion oedd wedi ymadael a phaganiaeth, ac wedi dyfod i wybodaeth o Dduw, ond heb ddyfod yn Broselytiaid. Os oedd y fath urdd, yr oeddent yn Broselytiaid y Porth., gwrandewch: 17Duw y bobl hyn, Israel, a ddewisodd iddo ei hun ein Tadau, ac a ddyrchafodd#13:17 trwy ddyrchafiad Joseph, &c., ond yn benaf trwy eu hamlhau. y bobl pan yn preswylio#13:17 llyth: yn [tra] y preswyliad. yn ngwlad yr Aipht, ac â braich uchel#13:17 Arddangosir Duw fel Cadben gwrol a nerthol â braich ddyrchafedig yn arwain ei bobl. Gweler Deut 4:37, LXX; Ex 6:6. Cyfeirir yn neillduol at y gwyrthiau trwy Moses yn yr Aipht, ac yn yr Anialwch. y dygodd efe hwynt allan o honi. 18Ac ynghylch deugain mlynedd y#13:18 y meithrinodd [llyth: y dygodd efe hwynt fel tad‐maeth] A C E La. Ti. Al.; y goddefodd eu harferion א B D Tr. WH. Diw. Nid oes yn y Groeg ond gwahaniaeth o un lythyren, trophophoreô a tropophoreô. meithrinodd#13:18 Efe a'u dygodd hwynt fel eu meithrinydd, megys yn ei freichiau. Y mae yn fwy tebygol i Paul lefaru yn y modd hwn yn hytrach nag mewn dull cyhuddol. Ni wnai meistr areithyddol fel Paul ddechreu ei anerchiad trwy gythruddo neu chwerwi ei wrandawyr. Efallai fod yma gyfeiriad at y rhan, yn ol barn Bengel, a ddarllenwyd, fod Duw yn dwyn ei bobl ‘fel y dwg gwr ei fab, yn yr holl ffordd, &c., Deut 1:31. efe hwynt yn yr Anialwch. 19Ac wedi iddo ddyfetha saith#13:19 Yn Neh 9:8, chwech: Gen 15:19–21, deg, a enwir. genedl yn ngwlad Canaan, efe#13:19 efe … v20 Samuel y Prophwyd א A B C Brnd. ond Al.; Ac wedi y pethau hyn am ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain efe a roddodd Farnwyr hyd Samuel y Prophwyd, EHL. Al. a roddodd eu gwlad iddynt yn etifeddiaeth am ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain; 20ac ar ol y pethau hyn efe a roddodd Farnwyr hyd Samuel y Prophwyd#13:20 Yn ol yr hen ddarlleniad yr oedd anhawsder nas gallesid ei symud yn yr amseriad, sef fod Duw wedi rhoddi iddynt Farnwyr am 450 o flynyddau, pan y dywedir yn 1 Br 6:1, fod Teml Solomon wedi ei dechreu 480 o flynyddau ar ol y dyfodiad allan o'r Aipht; ond y mae y testyn yn ol yr hen law‐ysgrifau goreu yn gwneyd i ffwrdd a'r anhawsder hwn, ac yn awgrymu fod 450 o roddiad y wlad mewn addewid i Abraham hyd fynediad y genedl i Ganaan, neu o enedigaeth Isaac hyd y dosraniad yn amser Josua. Darllenai Luther 350 yn lle 450, gan nad oedd cyfnod y Barnwyr cyhyd â'r olaf.. 21Ac o'r amser hyny y gofynasant#13:21 1 Sam 8:5. am frenhin, a Duw a roddodd#13:21 1 Sam 9 iddynt Saul#13:21 Yr oedd y llefarwr o'r un enw a llwyth a'r brenhin cyntaf (Rhuf 11:1; Phil 3:5). Barnabas yw yr un unig Apostol arall y rhoddir ei lwyth, 4:36., mab Cis, gwr o lwyth Benjamin, ddeugain mlynedd#13:21 Ni roddir hyd teyrnasiad Saul yn yr Hen Destament. Dywed Josephus iddo deyrnasu 18 mlynedd cyn marwolaeth Samuel, a 22 ar ol hyny; ond nis gall hyn fod yn gywir. Yr oedd Dafydd yn 30 oed pan y daeth yn frenhin (2 Sam 5:4). Os oedd Samuel wedi marw 22 o flynyddau cyn hyn, nid oedd Dafydd fwy nag 8 oed pan yr eneiniwyd ef, a phan y lladdodd Goliath, ac a priododd ferch Saul! Yr oedd Samuel yn fyw ar ol hyn, oblegyd ffôdd Dafydd ato (1 Sam 19:18). Yr oedd Isboseth, mab ieuengaf Saul, yn 40 pan y bu farw ei dad. Felly rhaid ei fod wedi teyrnasu 40 mlynedd, er nad yw dosraniad Josephus yn gywir.. 22Ac wedi iddo ei symud#13:22 o'i swydd, nid trwy farwolaeth (1 Sam 15:23). Yn ol eraill, ar ol ei farwolaeth (Gloag, &c.). ef, efe a gyfododd#13:22 Ni chyfododd Duw Saul; ni wnaeth ond ei roddi. Dafydd iddynt i fod yn frenhin; i'r hwn hefyd y tystiolaethodd, ac a ddywedodd#13:22 Cyfunir Salm 89:20, ‘Cefais Dafydd (fy ngwasanaethwr’) a 1 Sam 13:14, ‘Yr Arglwydd a geisiodd iddo wr wrth fodd ei galon.’ Yr oedd rhai o ysgogiadau meddwl Saul yn well na rhai o weithredoedd Dafydd; ond edrychai Duw ar gymeriad y ddau ar ei hyd. Eithriadol oedd daioni Saul, a drygioni Dafydd., Cefais#13:22 Megys ar ol ymchwiliad manwl. Yr oedd Saul wedi ei wthio ar Dduw, ond yr oedd efe wedi chwilio am Dafydd. Dafydd mab Jesse, gwr yn ol fy nghalon, yr hwn a wna fy holl ewyllys#13:22 llyth: ewyllysiau, bwriadau, dymuniadau ei galon.. 23O hâd#13:23 Gelwid Crist yn fynych ‘Mab Dafydd.’ Y mae yr addewid neillduol yn 2 Sam 7:12, ‘mi a godaf dy hâd di ar dy ol di; Salm 132:11. hwn, Duw, yn ol addewid,#13:23 a ddygodd א A B E Brnd.; a gyfododd C D. a ddygodd#13:23 ‘Wele dygaf allan fy ngwas, y Blaguryn,’ Zech 3:8. i Israel Iachawdwr, Iesu; 24gwedi i Ioan rag‐bregethu#13:24 Yr oedd sôn am Ioan a'i weinidogaeth yn sicr o fod wedi cyrhaedd y prif leoedd lle yr oedd yr Iuddewon yn lliosog. ‘Gwedi iddo gyhoeddi yn mlaen llaw’ fel cenad a rhag‐redegydd., o flaen ei Ddyfodiad#13:24 ei Ddyfodiad yn ei fywyd cyhoeddus. Y mae yn syndod fod rhai o'r Tadau o'r farn fod y Dyfodiad yma yn gyfystyr a'r Ymgnawdoliad! Gelwir marwolaeth Crist ei Exodus, ei fynediad allan (Luc 9:31). Y mae ei ymgymeriad a'i waith cyhoeddus yn Eisodos, ‘dyfodiad i mewn’: llyth: o flaen gwyneb ei Ddyfodiad. Ymadrodd Hebreig yn dangos ei fod yn ymyl. Y mae bron dangos ei wyneb. Yr oedd Ioan yn fwy na'r Seren Fore, yr oedd ei weinidogaeth yn doriad y wawr, yn ‘ddechreu Efengyl Crist’ (Marc 1:1). Pan yr oedd Ioan yn cyhoeddi, yr oedd Haul Cyfiawnder yn codi uwch y gorwel. ef, Fedydd Edifeirwch#13:24 Yr oedd edifeirwch yn amod ei Fedydd, a'i Fedydd yn arwyddlun o edifeirwch. i holl bobl Israel. 25Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa#13:25 Yr oedd ei weinidogaeth o ran ei gwaith a'i hyd yn benodol. Rhag-redegydd ydoedd. Yr oedd Paul yn hoff o'r ffugyr. Yr oedd dromos, rhedegfa nodedig yn Tarsus. (gweler 20:24; 2 Tim 4:7)., efe a ddywedodd, Pa beth dybiwch chwi wyf fi? nid myfi yw efe#13:25 llyth: nid myfi wyf efe. Luther ac eraill a gyfieithant yn anghywir, ‘Nid myfi wyf yr hwn y tybiwch fy mod.’; ond wele y mae un yn dyfod ar fy ol i, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddatod esgidiau ei draed#13:25 Gweler Mat 3:11; Marc 1:7; Luc 3:16.. 26O wyr frodyr, meibion cenedl#13:26 Yr hon a ddechreuodd yn Isaac, mab yr addewid. Abraham, a'r rhai sydd yn eich plith yn ofni Duw, i#13:26 i ni א A B D Brnd. ond Tr.; i chwi C E L Tr. ni y mae Gair yr Iachawdwriaeth hon wedi ei anfon allan: 27canys y rhai sydd yn preswylio yn Jerusalem, a'u llywodraethwyr, heb adnabod hwn na lleisiau y Prophwydi, y rhai a ddarllenir bob Sabbath gan ei farnu a'u cyflawnasant#13:27 Hwn yw y cyfieithiad syml a naturiol. Eraill: ‘Heb wybod y gair hwn,’ &c. ‘Heb wybod hwn, gan ei farnu a gyflawnasant, leisiau y Prophwydi.’ Gweddi Crist oedd ‘Maddeu iddynt, canys ni wyddant, &c. (Luc 23:34; felly Petr yn Act 3:17). Gweler hefyd 1 Cor 2:8; 1 Tim 1:13. Yr oedd yr Iuddewon wedi colli golwg ar y Messia fel dyoddefydd. Yr oeddent yn ddall i bob peth ond i ysplander ei deyrnasiad. Eto yr oedd lleisiau y Prophwydi yn lliosog, yn glir, ac yn gydgordiol. ‘Cân yr Oen,’ a seinient allan yn un gydgan beroriaethus, yn yr hon yr oedd y lleddf a'r llon yn gymhlethedig, ond yr oedd clust yr Iuddew yn fyddar i'r blaenaf, a'r mwyaf hanfodol. Ond rhaid dysgu ‘Dirmygedig yw’ cyn y gellir uno yn yr Haleliwia Chorus.. 28Ac heb gael ynddo achos angeu, hwy a ddeisyfasant ar Pilat ar iddo gael ei ladd#13:28 llyth: ei gymeryd ymaith. Nid ‘er na chawsant,’ ond yn hytrach ‘am na chawsant’, &c.. 29A phan orphenasant bob peth oedd wedi ei ysgrifenu am dano, hwy a'i cymerasant#13:29 Joseph a Nicodemus, dau o'u llywodraethwyr, a wnaeth hyn. Nid oedd anghenrhaid i wneuthur gwahaniaeth rhwng gweithred cyfeillion a gelynion yr Iesu; y ffeithiau fod Crist wedi ei gladdu, &c., i ddangos ei fod wedi marw yn wirioneddol, oedd yn bwysig yn ngolwg Paul. Hefyd, er i Joseph roddi yr Iesu yn ei fedd, eto cymerodd yr Iuddewon feddiant o'r bedd, a mynasant filwyr i'w wylio, Mat 27:66. ef i lawr oddiar y pren, ac a'i dodasant ef mewn bedd. 30Eithr Duw a'i cyfododd ef o feirw; 31ac efe a welwyd am ddyddiau lawer#13:31 Deugain niwrnod, 1:4. gan y rhai a ddaethant i fyny gydag ef o Galilea i Jerusalem#13:31 Yr Un a'r Ddeg Apostolion, a'r cant ac ugain brodyr. Nid oedd yr Adgyfodiad, &c., yn ymddybynu ar draddodiad, ond yr oedd tystion ffyddlon a gonest yn fyw., y rhai#13:31 yn awr א A C D Brnd.; gad. B E H L. yn awr ydynt ei dystion ef wrth y bobl. 32Ac yr ydym ni yn pregethu#13:32 llyth: efengylu, dwyn newyddion da. i chwi yr Addewid a wnaethpwyd i'r Tadau, 33fod Duw wedi ei chyflawni i'n#13:33 i'n plant א A B C D Brnd.; i ni eu plant E Al. plant#13:33 i'n plant, ymadrodd anarferol. Llefara yr Apostol am lawn gyflawniad yr Addewid; ond ni chymerodd hyn le i gyd‐oeswyr Crist, ond i'w plant. Yr oedd Crist wedi esgyn, yr Yspryd wedi disgyn, yr Eglwys wedi ei sefydlu, ei chyfluniad yn berffaith, a'i gwaith yn myned yn mlaen., gan gyfodi#13:33 ei gyfodi o'r bedd, ac nid ei ddanfon i'r byd. (Rhuf 1:4). Ei adgyfodiad yw sylfaen fawr yr holl adeilad. Dwg yn ei gol bob ffaith bwysig arall yn ei hanes. yr Iesu; fel y mae yn ysgrifenedig yn yr ail#13:33 Fel y gwelwn y mae D yn darllen ‘Y Salm gyntaf,’ a dyma ddarlleniad tri o'r prif feirniaid. Hwn yw yr anhawddaf, ac felly, yn ol canon (rheol) Griesbach, i'w ddewis. Yn yr hen gopïau, unid y Salm gyntaf a'r ail, neu ystyrid y gyntaf fel Rhag‐arweiniad i'r oll, ac felly yr ail fel y Salm gyntaf. Dyma yr unig fan lle yr enwir y rhan neillduol o'r llyfr o'r hwn a dyfynir.#13:33 ail א A B C WH. Al. Diw.; gyntaf D La. Ti. Tr. Salm,
Fy Mab ydwyt ti, Myfi heddyw wyf wedi dy genhedlu#13:33 Yr oedd Crist yn Fab Tragywyddol. Yr oedd y fath wahaniaeth anghenrheidiol yn y Duwdod fel ag i gyfansoddi yr Ail Berson yn Fab; ond y mae Duw yn llefaru am dano yma yn ei gysylltiad a Threfn yr Iachawdwriaeth. Ni chyfeiria y geiriau gymaint at yr Ymgnawdoliad ag at yr Adgyfodiad. Trwyddo ‘yr eglurwyd ef yn Fab Duw mewn gallu.’ Yr oedd y bedd fel bru y ddaear, o'r hon y daeth allan i fywyd newydd. Yr Adgyfodiad yw ‘boreu braf’ y Greadigaeth Newydd. Crist yw y ‘Cyntaf‐anedig oddiwrth y meirw’ (Col 1:18; Dad 1:5). Gwneir yr un cymhwysiad yn Heb 1:5; 5:5. (2:7).
34A'i fod wedi ei gyfodi ef o feirw, ddim mwyach i#13:34 llyth: ar fedr. ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y mae wedi ddywedyd,
Rhoddaf i chwi y pethau sanctaidd a wnaed yn sicr i Dafydd#13:34 o Es 55:3, ‘Mi a wnaf gyfamod tragywyddol a chwi, sef sicr drugareddau Dafydd.’ Cyfieithia y LXX. y gair Hebraeg am ‘drugareddau’ yma, yn ‘bethau sanctaidd,’ yn 2 Cr 6:42. Saif y gair yma am ymrwymiadau (cyfamod) cysegredig, arbenig, annhoredig Duw. ‘Mi a gyflawnaf i chwi yr addewidion a roddais yn ddifrif‐ddwys i Dafydd; y maent yn sicr, (llyth: ffyddlawn) ac felly y mae rhaid eu cyflawni. Enwir hwynt 2 Sam 7:8–16. Yr addewid oedd na byddai diwedd ar ei frenhiniaeth, y byddai ei hâd yn eistedd ar ei orsedd. Yr oedd ei olyniaeth i fod yn ddiddarfod ac yn anfarwol. Cyflawnwyd hyn yn Adgyfodiad Crist, yr hwn nid yw i farw mwy. Y mae ei Adgyfodiad yn ddechreuad bywyd annherfyniol a theyrnasiad tragywyddol.,
35Oherwydd hefyd y mae yn dywedyd#13:35 sef Duw. mewn un arall,
Ni roddi dy Sanct i weled llygredigaeth#13:35 Cymharer ymresymiad Petr, Act 2:25–31. Dywed Petr fod yn rhaid i Grist gyfodi er cyflawni y Brophwydoliaeth; dywed Paul fod Crist wedi cyfodi, ac felly ei fod wedi ei chyflawni. (Salm 16:10).
36Canys Dafydd yn wir, wedi gwasanaethu ei genhedlaeth ei hun yn ol Cynghor Duw, a hunodd#13:36 Mewn amryw ffyrdd y gellir cyfieithu yr adnod, megys (1) fel y mae uchod; (2) ‘Canys Dafydd yn wir yn ei genhedlaeth ei hun wedi gwasanaethu cynghor Duw, a hunodd.’ (3) ‘Canys Dafydd yn wir wedi gwasanaethu ei genhedlaeth ei hun, a hunodd yn ol Cynghor Duw.’ Y mae Luther, Bengel, Meyer, &c., yn ffafriol i (2); Calfin, Erasmus, &c., i (3); ond y mae fel yn y testyn yn fwy llyfn a naturiol, ac yn pwysleisio y gwahaniaeth rhwng Dafydd a Christ. Ni allasai Dafydd ond gwasanaethu ei genhedlaeth ei hun, y mae Crist yn ‘offeiriad yn dragywydd’ (Salm 110:4), y mae efe yn ‘byw bob amser i eiriol’ (Heb 7:25). Y mae efe felly yn gwasanaethu pob cenhedlaeth., ac a ddodwyd#13:36 Neu, a ychwanegwyd. Gweler Gen 15:15; Barn 2:10; 1 Br 2:10; 2 Br 22:20. at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth. 37Eithr yr hwn a gyfododd Duw ni welodd lygredigaeth. 38Am hyny, bydded hyspys i chwi, O wyr frodyr, mai trwy hwn y dadgenir i chwi faddeuant pechodau. 39Ac oddiwrth yr holl bethau oddiwrth y rhai ni allech yn Nghyfraith Moses gael eich cyfiawnhau, yn hwn, pob un sydd yn credu, a gyfiawnheir#13:39 Cawn yn mhregeth gyntaf Paul ddadganiad o'i saf‐bwynt cryf trwy ei holl weinidogaeth, a chnewullyn ei ddau Epistol godidog ar Gyfiawnhâd, Rhufeiniaid a Galatiaid. Ni cheir yma awgrymiad fod y Ddeddf yn cyfiawnhau yn rhanol a Christ yn hollol. Cawn yma ddadganiad cyffredinol. Rhydd yr Apostol y Cynsail Mwyaf: O'r holl bethau oddiwrth y rhai ni all dyn gael ei gyfiawnhau gan y Ddeddf, y cyfiawnheir ef trwy gredu yn Nghrist; y Cynsail Lleiaf fyddai: Ond yn y Ddeddf ni cha dyn ei gyfiawnhau o gwbl; Canlyniad: Yn Nghrist yn unig y ceir cyfiawnhad. Dyna y ddadl, mewn termau cyffredinol, yn yr adnod. Dikaioô, cyhoeddi yn gyfiawn, rhyddhâu oddiwrth gosp. Y mae y credadyn yn derbyn ‘maddeuant pechodau,’ ac felly ystyrir a chyhoeddir ef yn gyfiawn.,
40Edrychwch gan hyny na ddel#13:40 arnoch A C E; gad. א B D Ti. WH. Diw. Rhwng cromfachau Tr. Al. yr hyn a ddywedwyd yn y Prophwydi#13:40 Hab 1:5 LXX. Yr oedd y Prophwydi Byrion yn ffurfio un rhol neu gyfrol. Hebraeg: ‘Gwyliwch yn mysg y Cenhedloedd, &c. Llefarai Habacuc am oresgyniad y wlad gan y Caldeaid. Rhoddodd ei rybudd 20 mlynedd cyn Dinystr y Deml; dyfyna Paul ef yn awr 20 mlynedd cyn Dinystr Teml Herod a Dinas Jerusalem. Yr oedd cwpan digofaint Duw bron yn llawn.,
41Gwelwch, O ddirmygwyr a rhyfeddwch#13:41 Y mae yr annuwiol yn rhyfeddu, ond nid yn diwygio., a diflanwch#13:41 diflanu (fel tarth), mynea o'r golwg, i'r dim, darfod. o'r golwg;
Canys yr wyf fi yn gweithredu gweithred yn eich dyddiau;
Gweithred#13:41 sef ymweled a'r anufydd mewn barn ofnadwy. Y mae cwmwl ei ddigofaint ar dori uwchben y bobl gollfarnedig. na chredwch o gwbl er i un ei dadgan#13:41 ekdiegeomai, adrodd yr oll, mynegi yn drwyadl, dadgan y cyfan. Gwireddwyd hyn yn hollol yn hanes yr Iuddewon cyn eu dinystr olaf. yn llawn i chwi.
Awydd y Cenhedloedd, a chenfigen yr Iuddewon, 42–52.
42Ac#13:42 Ac fel yr oeddent yn myned allan, hwy א A B C D E Brnd.; Ac fel yr oedd yr Iuddewon yn myned allan, y Cenhedloedd G. fel yr oeddent#13:42 Paul a Barnabas. Ni arosasant i ddiwedd y cyfarfod, efallai am eu bod yn ddyeithriaid. yn myned allan, hwy#13:42 Y gynulleidfa, neu lywodraethwyr y Synagog. Nid oeddent eto wedi eu cyffroi i ddigllonedd. a atolygasant am i'r geiriau hyn gael eu llefaru wrthynt ar y Sabbath dylynol#13:42 metaxu, rhwng, yn y canol, yn y cyfamser; mewn ychydig iawn o enghreifftiau mewn Groeg diweddarach (Josephus, Barnabas, Clement, &c.,) ar ol, nesaf, dylynol. Yn ol rhai, y Sabbath rhwng y Sabbath hwn ac ymadawiad yr Apostolion; eraill, y dyddiau yn yr wythnos, gan gymeryd Sabbaton yn yr ystyr o wythnos. Darllenid y Gyfraith yn y Synagog ar ddyddiau Llun ac Iau; ond y mae ad. 44 yn erbyn y syniad hwn.. 43A phan ollyngwyd y gynulleidfa#13:43 llyth: y Synagog., llawer o'r Iuddewon ac o'r Proselytiaid duwiol‐frydig#13:43 neu, addolgar, crefyddol, y rhai, efallai, a gyd‐ymffurfient a'r arferiadau Iuddewig. a ganlynasant Paul a Barnabas, y rhai, gan lefaru wrthynt, a'u cymhellasant#13:43 llyth: darbwyllasant. i barhâu yn ngras Duw.
44A'r Sabbath dyfodol bron yr holl ddinas a gasglwyd ynghyd i wrandaw Gair yr#13:44 yr Arglwydd א A Ti. Tr. Duw CE. Al. WH. Diw. Arglwydd. 45Eithr yr Iuddewon yn gweled y torfeydd, a lanwyd o eiddigedd, ac a wrth‐ddywedasant y pethau a leferid gan Paul, ac#13:45 gan wrth‐ddywedyd D Ti.; gad. א A B C Brnd. ond Ti. a gablasant#13:45 gan ddefnyddio ymadroddion yn fwy diraddiol i'r Meistr nag hyd y nod i'r gweision. Paul oedd y prif lefarwr (14:12).. 46Eithr Paul a Barnabas a lefarasant yn hyf, ac a ddywedasant, Yr oedd anghenrhaid i lefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf#13:46 Yn ol cynllun Duw, yn ol gorchymyn Iesu Grist, yn ol tueddiad eu calonau eu hunain.. Hefyd, gan eich bod yn ei wthio#13:46 Y fath wahaniaeth rhwng yr Iuddewon yn ei wthio oddiwrthynt, a'r Cenhedloedd yn ei ogoneddu (ad. 48). oddiwrthych, ac yn barnu#13:46 Yn eu hymddygiad yr oeddent yn ‘dedfrydu’ eu hunain i golledigaeth. Hwy eu hunain oedd yn dwyn y farn a'r gosp arnynt, ac yn gwrthod y rhodd werthfawrocaf, bywyd tragywyddol. eich hun yn anheilwng o fywyd tragywyddol, wele, yr ydym ni yn troi at y Cenhedloedd#13:46 Y mae Duw yn goruwch‐lywodraethu gelyniaeth dyn i ddybenion gogoneddus. Y mae yr Iuddewon yn cyfodi gwrthglawdd yn erbyn ‘afon y bywyd tragywyddol’ i lifo yn eu cyfeiriad, ac wele y mae yn tori allan yn raiadrau grisialaidd gan ddyfrhau tiriogaethau helaeth y Cenhedloedd. Y mae yr Efengyl yn awr a'i gwyneb ar bedwar ban y byd, ac yn mhob talaeth y mae i udganu yn udgorn rhyddid.; 47canys felly y mae yr Arglwydd wedi gorchymyn i ni,
Yr wyf wedi dy osod i fod yn oleuni'r Cenhedloedd,
Fel y byddit yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear#13:47 Llefarwyd y geiriau am Grist yn arbenig, ond y maent yn gymhwys i'r rhai a weithredant dan ei gyfarwyddiadau, ac yn ei waith. Y maent yn gallu iachau yn ei enw, a thrwy ei Yspryd. Nid peth newydd, wedi'r cwbl, oedd derbyniad y Cenhedloedd, ond yr oedd yr Iuddewon yn ddall i Gynghor Duw a'i fwriadau grasol.. (Es 49:6).
48A'r Cenhedloedd yn clywed hyn a lawenychasant, ac a ogoneddasant Air yr Arglwydd: a chynifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragywyddol a gredasant#13:48 Yn adnod 46 pwysleisir y ffaith fod dyn yn rhydd‐ewyllysydd. Gwthiodd yr Iuddewon y Gair oddiwrthynt. Yma pwysleisir yr ochr Ddwyfol, fod iachawdwriaeth o ras penarglwyddiaethol Duw. Ysgrifena Luc fel hanesydd ac nid Duwinydd. Y mae yr adnod wedi bod yn ganolfan brwydrau poethlym, ac nid yw yr ymladdwyr yn wastad wedi canlyn esiampl dda yr Antiochiaid, sef ‘gogoneddu Gair Duw.’. 49A Gair yr Arglwydd a ledaenwyd trwy yr holl wlad. 50A'r Iuddewon a gymhellasant#13:50 parotrunô, cynhyrfu, cyffroi, anog, cymhell yn mlaen. Yma yn unig yn y T. N. yn mlaen y gwragedd defosiynol o safle anrhydeddus#13:50 prydferth, hardd yr olwg, yna, anrhydeddus, pendefigaidd, o sefyllfa uchel. Ni rydd Luc eu cymeriad personol ond eu safle gymdeithasol. a phrif ddynion y ddinas a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a'u bwriasant hwynt allan o'u terfynau. 51Ond hwy, wedi ysgwyd ymaith lwch#13:51 Yn ol gorchymyn Crist, Luc 9:5. Nid oedd yn arwydd o ddirmyg, ond o'u rhoddiad i fyny ar ol ymdrech deg i'w henill i'r iawn. eu traed yn eu herbyn hwynt, a ddaethant i Iconium#13:51 prif‐ddinas Lycaonia. Yn ol Xenophon, yr oedd yn Phrygia; yn ol Ammon, yn Pisidia. Yr oedd 90 milltir i'r deheu‐ddwyrain o Antioch yn Pisidia, a 40 i'r gogledd‐orllewin o Derbe. Yr oedd yn ganolbwynt i lawer o leoedd, ac felly yn ffafriol i waith cenhadol. Y mae yn debygol i'r Apostol aros yma rai misoedd. Deallwn fod Timotheus gydag ef (2 Tim 3:10, 11). I Iconium y perthyn y chwedl brydferth o droedigaeth y dywysoges Thecla, yr hon oedd wedi ei dyweddio i Thamyris. Carcharwyd Paul. Gwnaeth Thecla ei ffordd i'r carchar. Llwyddodd gan y ceidwad i'w ryddhau. Gwrthododd briodi Thamyris. Condemniwyd hi i farwolaeth. Achubwyd hi trwy wyrth. Gwnaeth ei ffordd at Paul, a bu farw yn Seleucia, pan yn 90 oed. Y mae Iconium yn awr yn dref flodeuog, ei henw ydyw Konieh.. 52A'r dysgyblion a lanwyd o lawenydd ac o'r Yspryd Glân#13:52 Dyma ddiwedd‐glo hyfryd i bennod bwysig. Y mae swn gorfoledd yn mhebyll y Saint. Y mae y golofn dân uwch y gwersyll. Y mae tawelwch y Nef yn dyfod ar ol ystorm erledigaeth..

Dewis Presennol:

Actau 13: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda