Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 14

14
Yr Apostolion yn pregethu a'r dysgyblion yn cael eu herlid yn Iconium, 1–7
1A dygwyddodd yn Iconium iddynt fyned yr un pryd#14:1 kato to auto. Yma yn unig yn y T.N.; epi to auto, 2:1; 3:1, ‘ynghyd.’ i Synagog yr Iuddewon, a llefaru yn y fath fodd fel y credodd lliaws mawr o'r Iuddewon ac o'r Groegiaid#14:1 Nid yr Iuddewon Groegaidd, ond y Cenedl‐ddynion, y rhai a at‐dynwyd gan bregethu Paul. Yr oedd rhai o'r rhai hyn yn arfer mynychu y Synagogau, fel y gwelwn yn rhai o'r awduron clasurol. Efallai fod rhai o honynt yn ‘Broselytiaid y Porth.’ Bu Paul a Barnabas yn llafurio yn Iconium am gryn amser, a phregethasant i'r Cenhedloedd yn ogystal ag i'r Iuddewon. Ni elwesid hwy yn ‘Groegiaid’ pe wedi eu henwaedu.. 2Ond yr Iuddewon nad ufyddasant#14:2 apeitheô, anufyddhau (Ioan 3:16), apisteô, anghredu. Anufydd‐dod yw anghrediniaeth mewn ymarferiad. Nid peth i'w chredu yn unig yw crefydd, ond hefyd i'w gweithio allan. Yr oedd yr Iuddewon yn gyson a dyfal‐barhaol yn eu hymddygiad yn erlid Crist a'i ganlynwyr. Ni sonir yn yr Actau ond am ddwy erledigaeth nad achlysurwyd gan yr Iuddewon. a gyffroisant ac a gynhyrfasant i ddrwg#14:2 kakoô, defnyddir y ferf chwech o weithiau yn y T. N.; y mae pump o'r cyfryw yn yr Actau. Ei hystyr, arfer, gwneuthur drwg, drygu (12:1), yma cynhyrfu i ddrwg. Cyflea y gair hefyd y syniad fod drwg yn cael ei wneyd i eneidiau'r Cenhedloedd. eneidiau y Cenhedloedd yn erbyn y Brodyr. 3Am hyny#14:3 Yr oedd erledigaeth yn reswm iddynt, nid i ffoi, ond i aros a dal eu tir. Yr oedd erledigaeth yn ysprydoliaeth. Yr oeddent wedi gweddio am yr hyfdra hwn., yn wir, hwy a dreuliasant yno amser hir#14:3 llyth: digonol., gan lefaru yn hyf yn#14:3 llyth: ar; efe oedd sylfaen eu hyfdra a'u dewrder. Ymorphwysent yn gwbl arno. yr Arglwydd, yr hwn oedd yn tystiolaethu i Air ei Ras#14:3 Gair ei Ras, Un Dadguddiad bendigedig (Gair) o gariad anfesurol Duw (Gras) yw yr Efengyl., gan genhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau#14:3 Y mae Duw yn cadarnhau ffydd ac yn gwobrwyo ffyddlondeb. trwy eu dwylaw hwynt. 4A rhanwyd lliaws y ddinas; a rhai oedd gyda yr Iuddewon, a rhai oedd gyda yr Apostolion#14:4 Gelwir Paul a Barnabas yma yn Apostolion am y tro cyntaf. (gweler ad. 14). Ni elwir Barnabas yn Apostol ar wahan a Paul. Efallai y gelwir ef yma am ei fod yn gydymaith i Paul, ac am fod y ddau wedi eu danfon allan ar genadaeth arbenig.. 5A phan wnaethpwyd rhuthr#14:5 sef, bwriad i wneyd ymosodiad. Yr oedd cynhyrfiad eu meddwl yn barod i dori allan mewn rhuthr nwyd‐wyllt. Yr oedd yr Apostolion yn gweled y cymylau yn ymgasglu ac arwyddion ystorm erledigaethus yn agos (Iago 3:4). o'r Cenhedloedd ac o'r Iuddewon ynghyd a'u llywodraethwyr#14:5 sef, yn benaf, llywodraethwyr yr Iuddewon, prif ddynion y Synagog. Fel yr ymddygasant at yr Iesu, felly y gwnaethant at ei ganlynwyr. i'w sarhau#14:5 Neu, anmharchu, cam‐drin, difenwi. (gweler Luc 18:32). Desgrifia ymddygiad Paul, pan yn erlidiwr, at y credinwyr (1 Tim 1:13). Ergydiai yr Iuddewon ar eu cymeriad, ac amcanent at eu bywyd. a'u llabyddio#14:5 Y mae Paul mewn perygl o ddyoddef yr hyn a wnaeth efe i eraill. ‘Unwaith y'm llabyddiwyd’ (2 Cor 11:25), sef yn Lystra. Hon oedd y gosp am gabledd (Deut 7:57–59)., 6a hwy yn ymwybodol o hyn, ffoisant i ddinasoedd#14:6 sef prif ddinasoedd. Lycaonia, sef Lystra#14:6 Yr oedd Lystra 30 milltir i'r deheu o Iconium, wrth droed mynydd uchel a elwir Y Mynydd Du. Hon oedd lle genedigol Timotheus (16:1). a Derbe#14:6 Yr oedd Derbe i'r dwyrain o Lystra, efallai tuag 20 milltir. Yma y ganwyd Gaius, 20:4. Nid oes sicrwydd hollol pa fan oedd y dinasoedd hyn. Yr oedd Lycaonia yn wlad wyllt, i'r gogledd o Fynydd Taurus. Ychydig o Iuddewon a drigent yno, ac yr oedd yn amheuthyn i'r Apostolion i gael myned o gyrhaedd eu brad a'u gelyniaeth., a'r wlad oddi amgylch: 7ac yno y buont yn efengylu.
Gwellhâd y cloff: gwneuthur duwiau o'r Apostolion, 8–18
8A rhyw wr yn Lystra, yn ddiffrwyth#14:8 llyth: dinerth. ei draed, a eisteddai#14:8 Yn debygol mewn lle cyhoeddus, fel y cloff wrth borth y Deml., yn gloff o groth ei fam, yr hwn ni cherddodd erioed. 9Hwn a glywodd Paul yn llefaru: yr hwn, gan edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i'w iachau#14:9 Neu, i'w achub. Yr oedd wedi gwrando ar Paul, ac wedi clywed am yr Achubwr. Dynoda y frawddeg yma ganlyniad ffydd, ‘fel yr achubid ef.’ Noder y tebygrwydd rhwng yr hanes yma ac yn nechreu 3, ac hefyd y pwyntiau gwahanol. Petr oedd dyn amlwg y rhan gyntaf o'r Actau, Paul, yr ail ran. Yr oedd gan y dyn hwn ffydd, ni ddywedir fod gan y llall; ni ddefnyddiodd Paul enw'r Iesu, fel Petr; neidiodd hwn i fyny o hono ei hun, ond ymaflodd Petr yn llaw y cloff wrth borth y Deml., 10a ddywedodd a llais uchel, Saf#14:10 Yr wyf yn dywedyd i ti yn enw yr Arglwydd Iesu Grist, C D. La.; gad. א A B Brnd. i fyny ar dy draed yn syth. Ac efe a neidiodd i fyny ac a ddechreuodd rodio#14:10 Neidiodd i fyny ar unwaith, a dechreuodd, neu a barhaodd i rodio (amser anmherffaith). Gwaeddodd Paul a llais uchel oblegyd yr oedd y wyrth i fod yn arwydd i'r lliaws; felly yr oedd eisieu tynu eu sylw ati.. 11A'r torfeydd, wedi gweled yr hyn a wnaeth Paul, a godasant eu llais, yn iaith Lycaonia#14:11 Pa fath iaith ydoedd nid oes sicrwydd. Dywed rhai, ei bod yn barthiaith yn perthyn i dafodiaith Lycia; yn ol eraill, ei bod wedi deilliaw o'r Assyriaeg; yn ol eraill, ei bod yn gymysgfa o Roeg. Yn eu syndod yr oedd yn naturiol iawn iddynt i lefain allan yn eu priodiaith eu hunain. Tebygol i'r Apostol lefaru wrthynt mewn Groeg, yr hon oedd iaith Marsiandiaeth, &c. Cymharer Cymraeg a Saesneg yn Nghymru. Nid yw yn debyg fod Paul yn deall y barthiaith hon. Nid oes genym brawf ei fod wedi pregethu mewn iaith nad ydoedd wedi ei dysgu. Ni ddywedir fod dawn y Pentecost wedi ei roddi iddo, gan ddywedyd, Y mae y duwiau yn nghyffelybiaeth#14:11 llyth: wedi ei gwneyd yn debyg i ddynion. Yr oedd traddodiad paganaidd fod Philemon a Baucis wedi croesawu Jupiter a Mercurius yn Phrygia, sef mewn lle heb fod yn mhell o Lystra. Gelwid Lycaonia ar ol Lycaon, yr hwn a ddaeth i ddiwedd truenus pan yn rhoddi gwledd i Jupiter. Gwel Chwedl Ovid: Metamosphoses, 8:626. Gweler hefyd Homer; Odyssey, 13:221, &c.; 17:485, &c. dynion wedi disgyn atom ni. 12A galwasant Barnabas Jupiter#14:12 Gr. Zeus, ac yn gyntefig, Dis. Efe oedd y prif‐dduw Groegaidd, gan eistedd mewn mawredd ar sedd o fewn y cylch dwyfol ar Olympus. Yr oedd Zeus y Groegiaid yn dduw mwy aruchel ac anrhydeddus na Jupiter y Lladiniaid, er fod y ddau enw yn cael eu defnyddio i ddynodi yr un bod., a Paul Mercurius#14:12 Gr. Hermes, cenad y duwiau, yn ieuanc, hardd, a llawn hoewder. Efe a gynlluniodd neu a ddarganfyddodd ymadrodd, ac yr oedd yn feistr ar hyawdledd. Geilw Horace ef yn wyr hyawdl Atlas. Offrymid iddo dafodau yr anifeiliaid a aberthid. Danfonid ef ar negeseuau pwysig, megys at Calypso, i gael Ulysses yn rhydd (Odyssey 1:84), ac at Priam, i'w rybuddio (Iliad 24:390). Yr oedd Barnabas yn hyn na Phaul, ac efallai o ymddangosiad mwy myg a hybarchus., gan mai efe oedd yr arweinydd mewn ymadrodd. 13Ac offeiriad Jupiter, teml#14:13 llyth: yr hwn oedd o flaen, &c., sef Jupiter. Yr oedd y bobl yn credu fod Jupiter yn trigo yn ei deml. Efe oedd duw gwarcheidwol Lystra. yr hwn oedd o flaen y ddinas, a ddyg deirw a dail‐blethau#14:13 i'w rhoddi am gyrn y teirw pan ar eu haberthu. Hefyd, gwisgid garlantau ar brydiau gan yr aberthwyr. hyd at y pyrth#14:13 Neu, cynteddau; nid pyrth y ty lle yr oedd Paul a Barnabas yn aros, na phyrth y deml, ond pyrth y ddinas., ac a fynasai gyda'r torfeydd aberthu. 14Ond yr Apostolion, Barnabas a Paul, pan glywsant, a rwygasant eu dillad#14:14 fel arwydd o ofid ac o arswyd. Mor wahanol i ymddygiad Herod pan y cyfarchwyd ef gan y bobl fel duw., ac#14:14 a neidiasant allan [ruthrasant] א A B C D Brnd. a neidiasant allan i blith y dyrfa, gan waeddi a dywedyd, 15O wyr, paham y gwnewch y pethau hyn? ninau hefyd ydym o gyffelyb naturiaeth#14:15 Yma ac yn Iago 5:17. llyth: ‘yn gyffelyb ddyoddefus,’ yn agored i'r un gwendidau, nwydau, yn farwolion, yn fodau meidrol a gwael. Yn nhyb y paganiaid, y gwahaniaeth mawr rhwng y duwiau a dynion oedd, nid nad oedd y cyntaf yn cael eu llywodraethu gan nwydau a chwantau, ond eu bod yn anfarwol. a chwithau, yn ddynion, gan bregethu ar i chwi droi oddiwrth y pethau gweigion#14:15 Yr eilunod, yr aberthau, &c., gan gyfeirio atynt ar y pryd. ‘Nid yw eilun ddim yn y byd’ 1 Cor 8:4, neu yn hytrach ‘Nid oes eilun yn y byd.’ Nid yw yr Apostol yn ymddarostwng i alw Jupiter a Mercurius yn dduwiau. Defnyddir ‘pethau gweigion, ofer,’ yn fynych am eilunod. (Lef 17:7; 2 Br 17:15; Jer 2:5). hyn at Dduw byw, yr hwn a wnaeth y nefoedd a'r ddaear a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt: 16yr hwn yn y cenhedlaethau a aethant heibio#14:16 myned heibio yn ddieffaith, diflanu. a oddefodd i'r holl Genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain#14:16 er fod ganddynt oleuni ‘crefydd naturiol.’ Goddefodd Duw iddynt rodio yn eu ffyrdd eu hunain heb eu cospi fel y teilyngent.. 17Er hyny, ni adawodd efe ei hun yn ddidyst#14:17 Y mae Duw yn llefaru yn eglur am dano ei hun yn ei Greadigaeth a'i Ragluniaeth ddaionus i bob un sydd ganddo glustiau i wrando. Y mae araeth Paul yma ar yr un llinellau a'i bregeth yn Athen (17:27, &c.). Hefyd cymharer ei ymresymiad yn Rhuf 1:19, 20., gan wneuthur daioni#14:17 gair cryf yn pwysleisio gweithgarwch a dyddordeb Duw yn ei ofal am ei greaduriaid. Y mae ‘gan roddi,’ &c., a ‘gan lenwi,’ &c., yn esboniad arno., gan roddi i#14:17 i chwi א B C D E Brnd. ond Al.; i ni A Al. chwi wlawogydd#14:17 y rhif lluosog, gan ddynodi y cynar a'r diweddar wlaw, neu gyflawnder o hono. Yn marn y paganiaid, Jupiter oedd yn rhoddi gwlaw (Jupiter Pluvius) a thymhorau ffrwythlawn. Yr oedd Lycaonia yn hynod am ei sychder, ac yr oedd dwfr mewn rhai manau yn fwy drudfawr na llaeth. Gwlaw yw rhodd Duw (1 Br 8:35, 36; Salm 65:9–12; Jer 5:24). Y mae y nef, y mor, a'r tir, y rhai a wnaeth Duw, yma yn cydgyfarfod. Cyfyd Duw y gwlaw o'r mor i'r nen, ac yna danfona ef yn gawodydd maethlawn ar y ddaear. Mercurius oedd duw Marsiandiaeth, ac felly yn ddarparwr bwyd. a thymhorau ffrwythlawn, gan lenwi eich#14:17 eich א B C D E Brnd. calonau#14:17 y galon oedd sedd y chwant (at fwyd, &c.). â lluniaeth a llawenydd#14:17 meddwl llawen, fel yn amser gwleddoedd. Rhai a farnant fod hon yn adeg cynhauaf a gwledd yn Lystra.. 18A chan ddywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y torfeydd rhag aberthu iddynt.
Y dyrfa wamal: llabyddio Paul: y dychweliad i Antioch, 19–28
19Ond daeth#14:19 Llyth: daeth arnynt, yn sydyn, yn ddichellgar. Iuddewon o Antioch ac Iconium; ac wedi darbwyllo y torfeydd a llabyddio#14:19 Tebygol mai yr Iuddewon a'i llabyddiasant, gyda chaniatad y dyrfa. O anwadalwch y llawer! Cymharer ‘Hosanna … Croeshoelir ef’; ymddygiad y paganiaid at Paul yn Melita (28:6, &c.). Un awr aberthir i Paul fel duw; un arall aberthir ei fywyd, fel un anheilwng i fyw. At yr achlysur hwn y cyfeirir yn 2 Cor 11:25. Ni anghofiodd ef byth (2 Tim 3:11). ‘Yr hwn a laddo a leddir.’ Cymerodd Paul ran yn llabyddiad Stephan. Paul, hwy a'i llusgasant ef allan o'r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw#14:19 a'r gwirionedd a bregethai. Ffordd i gadw'r gwirionedd yn fyw i'w lladd y prophwydi.. 20A'r dysgyblion#14:20 Nid oedd y weinidogaeth yn Lystra heb ffrwyth. Safasant o'i amgylch (1) i'w gladdu, (2) i wylo, (3) i wylio. Tebygol fod Timotheus, Lois, ac Eunice yno. yn ei amgylchynu, efe a gyfododd#14:20 mewn modd gwyrthiol. Ai y pryd hwn y cyfodwyd ef i'r drydedd nef (2 Cor 12:1–4)?, ac a aeth i'r ddinas: a thranoeth efe a aeth allan gyda Barnabas i Derbe#14:20 Ar draed, taith ychydig o oriau; felly yr oedd yn ei lawn nerth, ‘Yn ol dy ddydd y bydd dy nerth.’. 21A chan efengylu i'r ddinas hono, a gwneuthur dysgyblion#14:21 llyth: a dysgyblu digon. Mwyaf i gyd oedd yr erledigaeth mwyaf i gyd oedd y cynydd. lawer, dychwelasant i Lystra#14:21 Yr oedd angnen gofalu am a chadarnhau y dysgyblion yn y lleoedd hyn. ac i Iconium ac i Antioch, 22gan gadarnhau#14:22 trwy addysgu, rhybuddio, calonogi. Yr un gair a ddefnyddia Crist am Petr, ‘Cadarnhâ dy frodyr’ (Luc 22:32). Y mae hon yn weithred barhaol, ac nid oes ynddi unrhyw sail i'r ddefod o Gonffirmasiwn yn Eglwys Loegr. Yr oedd yma ddau bregethwr mawr, Paul yn fawr mewn addysgu a chadarnhau, a Barnabas yn enwog am gynghori. eneidiau y dysgyblion, gan eu cynghori i aros yn y ffydd, a dywedyd, Trwy#14:22 Dyfyniad uniongyrchol o'u hymadroddion. Ni chynwysir Luc yn ‘ni.’ Cawn ef gyntaf yn Troas (16:10). lawer o orthrymderau#14:22 ‘Ffordd y Groes yw Ffordd y Bywyd.’ Saif ‘Teyrnas Dduw’ yma am ei pherffeithiad a'i hucheddiad gogoneddus yn y Nefoedd. y mae yn rhaid i ni fyned i mewn i Deyrnas Dduw. 23Ac wedi penodi#14:23 Cheirotoneô (gweler 10:41), estyn y llaw allan, pleidleisio â dwylaw estynedig: yna, dewis, penodi. Yma ac yn 2 Cor 8:19. Nid oes yma gyfeiriad at osodiad dwylaw gan yr Apostolion. Yr Eglwys ddewisodd y Diaconiaid (6:1–6), a'r Apostolion a'i cydnabyddasant yn gyhoeddus trwy weddi a gosodiad dwylaw. Gweithrediad yr Eglwys oedd dewis yn 2 Cor 8:19, a rhaid fod hyny yn ddealledig yma pan y mae yr un gair yn cael ei ddefnyddio. Yr Apostolion oedd yn cyfarwyddo ac yn cydnabod yn gyhoeddus ar ol dewisiad yr Eglwys. iddynt henuriaid#14:23 Yr oedd Henuriaid yn yr Eglwys yn Jerusalem (11:30). Y maent yr un a'r Arolygwyr neu ‘Esgobion.’ Defnyddir gwahanol enwau am yr un dosparth, megys bugeiliaid, llywodraethwyr neu arweinwyr, esgobion, henuriaid, &c. Defnyddir arolygwyr (episkopoi) yn benaf yn y Cyfundebau Cenhedlig, a henuriaid yn y rhai Iuddewig; neu, y blaenaf o herwydd eu swydd, a'r olaf o herwydd eu safle anrhydeddus, eu hoedran, &c. Yr oedd amryw o honynt, yn fynych, yn perthyn i'r un eglwys (20:17). Ni wyddai yr Oes Apostolaidd ddim am dri dosparth o swyddogion, megys esgob (yn ystyr ddiweddar y gair, sef esgob ar ran‐barth), henuriaid neu arolygwyr, a diaconiaid. Ni chafodd y blaenaf fodolaeth hyd lawer o flynyddoedd ar ol hyn. Y ddau ddosparth olaf yn unig geir yn y T. N. yn mhob eglwys, ac wedi gweddïo ynghyd ag ymprydiau, hwy a'u cyflwynasant#14:23 ymddiriedasant, cyflwynasant i ofal. hwy i'r Arglwydd yn yr hwn yr oeddent wedi credu. 24A hwy a dramwyasant trwy Pisidia, ac a ddaethant i Pamphylia. 25Ac wedi llefaru y Gair yn Perga#14:25 Gweler 13:13. Yr oedd y ddwy dref yn Pamphylia. hwy a aethant i waered i Attalia#14:25 Tref arforol wrth enau yr afon Catarrhactes, wedi ei hadeiladu gan Attalus Philadelphus, brenhin Pergamus. Y mae 16 milltir i'r deheu‐orllewin o Perga. Yr oedd yn borthladd cyfleus er dwyn yn mlaen farsiandiaeth a Syria a'r Aipht. Gelwir hi yn awr Adalia.. 26Ac oddiyno hwy a fordwyasant i Antioch#14:26 sef Antioch yn Syria, o'r lle y cychwynasant. Yma yr oedd mam‐eglwys y credinwyr cenhedlig. Yr oedd Paul a Barnabas wedi gweithredu dan ei chyfarwyddyd. Nid oedd hyd y nod Apostolion yn annybynol. Eu pleserwaith hwy yn ogystal a'u dyledswydd oedd gwrando ar lais yr eglwysi. Dyma drefn y T. N. Mor bell y mae y Pab a llawer eraill wedi myned o'r olyniaeth Apostolaidd yn y mater hwn! Gweler 12:2; 13:13., o'r lle yr oeddent wedi eu cymeradwyo i ras Duw ar gyfer y gwaith a gyflawnasant. 27Ac wedi iddynt gyrhaedd, a chasglu yr Eglwys ynghyd, hwy a fynegasant y fath bethau a wnaeth Duw gyda hwynt, ac iddo agoryd i'r Cenhedloedd ddrws#14:27 Felly nid gan Petr yn unig yr oedd yr allweddau. Gweler 1 Cor 16:9; 2 Cor 2:12; Col 4:3. y ffydd. 28A hwy a dreuliasant amser#14:28 [dim nodyn.] nid ychydig gyda'r dysgyblion#14:28 Y mae amser‐gyfrif yr Actau yn ansicr. Yr oedd Paul a Barnabas wedi bod yn llwyddianus. Yr oedd yr Yspryd wedi bendithio eu llafur. Yr oeddent wedi sefydlu eglwysi yn Antioch (Pisidia), Iconium, Lystra, Derbe, a lleoedd eraill. Tebygol i'r Daith Genhadol Gyntaf gymeryd iddynt tua phedair blynedd, ac iddynt ddychwelyd i Antioch tua B H. 48. Nis gwyddis faint o amser yr arosasant yma ar ol eu dychweliad, efallai blwyddyn neu ddwy..

Dewis Presennol:

Actau 14: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda