Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 15

15
Ymddadleu yn Antioch ynghylch Enwaediad: cenadaeth at yr Eglwys yn Jerusalem, 1–5.
1A rhai wedi dyfod i waered o Judea#15:1 Ni ddywedir pwy oeddent. Nid oeddent yn ddynion o bwys, ond daethant o le pwysig. Terfysgwyr oeddent, ‘gau frodyr, y rhai a ddaethant i yspio ein rhyddid’ Gal 2:4. Daethant i Antioch fel canolfan y gweithrediadau yn mysg y Cenhedloedd. a ddysgasant#15:1 Yr amser anmherffaith, hwy a ddechreuasant neu a arferasant ddysgu. y brodyr: Onid enwaedir chwi yn ol#15:1 llyth: wrth ddefod, yn ol rheol, arfer Moses. Golyga ethos arferion, defodau, seremoniau, ac y mae yn gyfystyr a'r Gyfraith. Yr oedd yr Iuddewon yn dal nad oedd iachawdwriaeth heb enwaediad. ‘Dienwaededig’ oedd yr enw mwyaf dirmygus yn eu golwg (1 Sam 17). Yr oedd yn anhawdd i'r credinwyr Iuddewig dori ffwrdd oddiwrth yr hyn oedd wedi gwreiddio yn eu henaid. Parhâodd dwy blaid yn yr eglwys hyd nes yr ymranodd y Nazaritiaid a'r Ebionitiaid oddiwrthi. defod Moses, ni ellwch eich hachub. 2A phan yr oedd ymryson#15:2 Neu, ymraniad; llyth: safiad i fyny, yna, codiad mewn gwrthwynebiad, gwrthryfel (Mat 15:7), terfysg (19:40). a dadleu#15:2 ymofyn, cwestiynu, ymddadleu. nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, hwy a drefnasant#15:2 Yr Eglwys yn mhob enghraifft yw yr awdurdod derfynol. fyned o Paul#15:2 Dywed Paul iddo fyned i fyny ‘yn ol dadguddiad’ (Gal 2:2). Nid oes gwrth‐darawiad. Y mae trefniad yr eglwys yn ol ewyllys Duw, ac yn dylyn y dadguddiad a roddodd. Rhydd Luc yr hanes allanol, Paul y profiad tufewnol. a Barnabas, a rhai eraill#15:2 Yr oedd Titus yn un o honynt (Gal 2:1). o honynt, i fyny i Jerusalem#15:2 Cawn yn yr Actau hanes am bum ymweliad o eiddo Paul a Jerusalem:— (1) pan y daeth o Damascus (9:26); (2) pan y daeth a'r casgliad o Antioch (11:30); (3) yr ymweliad hwn; (4) ar ddiwedd ei ail daith genhadol (18:22); (5) ei ymweliad olaf (21). Yr ymweliad a gofnodir yma, yn ddiamheu, oedd yr un a gyfeirir ato yn Gal 2, tra y cyfeiria Gal 1:18 at ei ymweliad cyntaf o Damascus. Yr oedd hwn 14 blynedd ar ol ei droedigaeth, ac y mae yr amser tebygol yma yn cyduno. Ceir yma y drafodaeth gyhoeddus yn yr Eglwys, tra y cofnoda Gal 2 yr hyn a gymerodd le rhwng Paul a'r Apostolion. Yr oedd Barnabas gydag ef ar y pryd, ond yr oedd wedi ymadael cyn ei bedwerydd ymweliad. at yr Apostolion a'r Henuriaid, ynghylch y cwestiwn#15:2 Yr un gair a ‘dadleu,’ gyda'r eithriad o'r terfyniad. Dynoda yma ‘bwnc y ddadl.’ hwn. 3A hwy, wedi eu hebrwng#15:3 llyth: wedi eu danfon allan. Aeth llawer o'r Eglwys gyda hwy fel arwydd o serch ac anrhydedd a chalondid (20:38; 21:5). Yr oedd yr Eglwys yn Antioch mewn cydymdeimlad hollol a Phaul a Barnabas. gan yr Eglwys a dramwyasant trwy Phœnicia a Samaria#15:3 trwy y ddwy dalaeth rhwng Antioch a Jerusalem, trwy Tyrus a Sidon, a Berytus. Efallai iddynt fyned dros y mor o Tyrus i Cesarea, ac felly ni enwir Galilea., gan adrodd yn fanwl droedigaeth y Cenhedloedd; a hwy a barasant lawenydd mawr i'r holl frodyr. 4Ac wedi cyrhaedd i Jerusalem, hwy a roesawyd gan yr Eglwys#15:4 Yr Eglwys yw y cyntaf a'r pwysicaf. Y mae yr Apostolion a'r Henuriaid yn bodoli er ei mwyn. Cysylltir yr Apostolion a'r Henuriaid bump o weithiau yn y bennod, 2, 4, 6, 22, 23. a'r Apostolion a'r Henuriaid, a hwy a fynegasant y fath bethau a wnaeth Duw gyda#15:4 Yr oeddent yn gydweithwyr a Duw. hwynt. 5Eithr cyfododd#15:5 llyth: cyfododd i fyny allan, h.y., cyfodasant i fyny yn y gynulleidfa yn mysg, neu daethant allan o fysg, eu pleidwyr, er mwyn llefaru. rhai o sect#15:5 llyth: heresi; plaid, ymraniad. y Phariseaid#15:5 Y blaid fwyaf selog dros gadw y Ddeddf seremoniol yn y manylrwydd penaf. Yr oedd y rhai hyn heb ddeall cynllun yr Iachawdwriaeth trwy yr Iesu. Yr oedd Crist iddynt yn fwy o brif Rabbi na dim arall. Iachawdwriaeth trwy weithredoedd oedd eu credo. Nid adroddiad Paul a Barnabas o'r hyn ddygwyddodd yn Antioch yw hyn, ond adroddiad Luc o'r hyn gymerodd le yn Jerusalem. Ai y rhai a'u canlynasant i Antioch neu ynte eraill o'r un farn a hwy oedd y rhai a lefarasant yn yr Eglwys yn Jerusalem, nid oes sicrwydd. y rhai oeddent wedi credu, gan ddywedyd, Y mae yn rhaid iddynt#15:5 Sef y credinwyr cenhedlig. Llefarir mewn tôn awdurdodol a dirmygus; ac y maent wedi rhagflaenu yr Eglwys a'r Apostolion yn eu dedfryd ar y mater. eu henwaedu, a gorchymyn cadw Cyfraith Moses#15:5 Nid y Ddeddf Foesol, ond y Gyfraith Seremoniol yn yr oll o honi..
Y Cyfarfod Eglwysig yn Jerusalem: yr ymdriniaeth a'r penderfyniad, 6–21.
6A'r Apostolion#15:6 Yr oedd tri o honynt o leiaf yn Jerusalem, Petr, Iago, ac Ioan (Gal 2:9). Yr oedd yr Eglwys hefyd wedi ymgasglu (ad. 23). Nid oedd hwn yn Gynghor fel y rhai a ffurfiwyd ar ol yr Oes Apostolaidd. Ni wnaeth Corph yr Apostolion a'r Henaduriaid weithredu yn annybynol ar yr Eglwys, ond yn ol ei chydsyniad a than ei chyfarwyddyd. a'r Henuriaid a ymgynullasant ynghyd i weled ynghylch y pwnc#15:6 llyth: gair; mater, cwestiwn, pwnc. hwn; 7ac wedi llawer o ymddadleu, Petr a gyfododd ac a ddywedodd wrthynt, O wyr frodyr, yr ydych yn gwybod#15:7 llyth: gosod ar, gosod eich meddwl ar, talu sylw i, bod yn gyfarwydd a. ddarfod i Dduw er y dyddiau cyntefig#15:7 dechreuol, boreuol. Cyfeiriad nid at Ddydd y Pentecost, ond at adeg troedigaeth Cornelius. Yr oedd hyn wedi cymeryd lle tua deg mlynedd cyn hyn. Yr oedd yr Eglwys wedi cyflymu yn ei gwaith, a gwrhydri wedi ei gyflawnu. Yr oedd tua 17 blynedd oddiar Pentecost. yn#15:7 yn eich plith y dewisodd Duw א A B C Brnd. Duw yn ein plith a ddewisodd E H L. eich plith ddewis#15:7 Neu, ddarfod i Dduw ddewis (iddo ei hun) yn ein plith. i'r Cenhedloedd glywed Gair yr Efengyl#15:7 Gair yr Efengyl. Yma yn unig yn y T. N. Defnyddia Luc Efengyl eto yn 20:24. Nid yw o gwbl yn ei Efengyl, nac yn eiddo Ioan. Gair: yn dangos ei hunolrwydd a'i heglurdeb. Yr oedd y gwrthwynebwyr yn hynod am amlder eu geiriau. trwy fy ngenau#15:7 Pregethu yw y moddion a ordeiniodd Duw i argyhoeddi y byd. Nid oes dim yn gyfartal mewn dylanwad i'r Gair llefaredig. Duw yn llefaru trwy ddyn sydd yn dwyn argyhoeddiad. a chredu. 8A Duw, Adnabyddwr#15:8 Gweler 1:24, yr unig ddau le y ceir y gair. Petr a'i defnyddia yn y ddau fan. Y mae Duw yn edrych i'r dyn oddifewn, ac nid ar y cnawd oddiallan. calonau, a dystiolaethodd iddynt, gan roddi#15:8 iddynt, gad. א A B Brnd. ond La. yr Yspryd Glân, megys ag i ninau; 9ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan lanhau#15:9 Y mae Petr yn cofio geiriau Duw iddo, “Y pethau a lanhaodd Duw,” &c. 10:15 trwy ffydd#15:9 Yr Yspryd Glân ar ran Duw, a ffydd ar ran dyn, yw anhebgorion a digonolion iachawdwriaeth. Llyth: trwy y ffydd (sydd yn Nghrist). eu calonau hwynt. 10Yn awr gan hyny paham yr ydych chwi yn temtio#15:10 Y mae Duw wedi gwneyd ei waith yn effeithiol, ac y maent hwy yn amheu hyny, ac felly yn ei demtio. Yr oedd prophwydoliaeth hen, dadguddiad newydd, gwyrth, a buchedd wedi llefaru yn groyw ar y pwnc, ac eto yr oedd eu culni a'u dallineb yn aros. Yr oeddent yn ddigon cenfigenus a rhagfarnllyd i droi tân yr Yspryd yn fflam i'w difa. (Gweler Ex 17:7; Deut 6:16; Mat 4:7; Heb 3:16). Duw, i osod#15:10 yn yr amcan o osod, trwy osod; yn hyn oedd y demtasiwn. iau#15:10 Nid yn unig yr Enwaediad, ond y Ddeddf Seremoniol. Saif yr un am yr oll. Galwai yr Iuddewon y Gyfraith yn iau. Gweler Gal 5:1, ‘iau caethiwed.’ Y gwahaniaeth rhwng hon ac iau Crist, Mat 11:29, 30. ar war y Dysgyblion#15:10 Yr oeddent yn ddysgyblion eisoes, ac felly beth oedd eisieu yn rhagor?, yr hon nid oedd ein Tadau#15:10 Nid Abraham, Isaac a Jacob, ond ‘eu tadau’ ar ol rhoddiad y Ddeddf. na ninau yn alluog#15:10 gan ddangos gwendid dynol. Yr oedd y Ddeddf i'r perffaith i'w chadw. ei dwyn. 11Ond#15:11 alla, ‘o'r tu arall yn hollol.’ trwy ras yr Arglwydd Iesu#15:11 Grist, gad. א A B E Brnd. yr ydym ni yn credu y'n hachubir, yr un modd a hwythau#15:11 Nid y tadau, ond y cenhedloedd crediniol. Rhad Ras yw swm gweinidogaeth Petr yn ogystal a Paul. Y mae y ddau yn hollol gytuno am Ffordd iachawdwriaeth. Dyma'r llen yn disgyn ar Petr yn yr Actau, ac y mae golwg hyfryd arno yn nghanol y brodyr, yn sefyll yn gydradd a hwy heb honi ac heb gael unrhyw uwchafiaeth Babyddol. Y mae ei galon yn dwym, ei yspryd yn dyner, ei lais yn groyw, ei athrawiaeth yn bur, yn sefyll ar y Graig, nid arno ei hun, ond ar ‘y Graig hon’ yr adeiledir yr Eglwys arni, Iesu Grist, ‘Trwy RAS yr ARGLWYDD IESU yr ydym yn credu y'n hachubir.’ Teimlwn yn hiraethus fel y disgyn y llen, ac y daw y ffarwel am dymhor, canys cyfaill i ni yw, a gwasanaethwr Iesu Grist. hefyd. 12A thawodd y lliaws#15:12 Sef yr holl Eglwys gynulledig., a gwrandawsant ar Barnabas#15:12 Barnabas yn flaenaf fel yr henaf, ac o herwydd ei berthynas agos a'r Eglwys. a Paul yn adrodd pa fath arwyddion a rhyfeddodau#15:12 Gweddiodd yr Eglwys ar i'r Arglwydd gyflawnu arwyddion a rhyfeddodau (4:30). Gwrandawyd eu gweddi. a wnaeth Duw yn mhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy. 13Ac ar ol iddynt dewi, atebodd#15:13 mewn ffordd o symio i fyny fel y llywydd. Iago#15:13 Iago, brawd yr Arglwydd, yn fwyaf tebyg. Gweler nodiad ar 12:17, gan ddywedyd, O wyr frodyr, gwrandewch arnaf fi: 14Symeon#15:14 Defnyddia Iago yr enw Hebraeg, er cryfhau ei ymresymiad. Y mae Apostol yr Enwaediad wedi dadgan o blaid derbyn y Cenedl‐ddyn. Y mae Saul wedi newid ei enw i Paul. Yr oedd galw Peter yn Symeon (y ffurf Hebreig buraf o Simon) yn naturiol i Iago, pen y cyfundeb Hebreig Cristionogol yn Jerusalem. Dyma y ffurf a ddefnyddia Petr ei hun yn ei Ail Epistol (1:1) yn ol yr awdurdodau goreu. Simon oedd y ffurf Rabbinaidd ddiweddaraf. Nid yw Iago yn cyfeirio o gwbl at eiriau yr henafgwr Symeon (Luc 2:30–32). a adroddodd y modd ar y cyntaf yr ymwelodd#15:14 llyth: yr edrychodd ar, y talodd sylw, y gofalodd am. Duw i gymeryd o'r Cenhedloedd bobl#15:14 laos, y bobl etholedig; yr Israeliaid fel pobl ddewisedig Duw. Ond yn awr y mae y gair wedi newid ei ystyr. Y mae y Cenedl‐ddyn yn lestr etholedig. Y fath gyfarfyddiad anhygoel, Y Cenhedloedd yn bobl etholedig Duw. Egregium paradoxon, Bengel. i'w enw#15:14 i ofni a gogoneddu, a bod ar ei enw, fel pobl Dduw.. 15Ac a hyn y cytuna geiriau y Prophwydi, megys y mae yn ysgrifenedig#15:15 Amos 9:11, 12, ond y mae y dyfyniad yma yn gwahaniaethu ychydig oddiwrth y LXX., yn ad. 11, a llawer iawn oddiwrth yr Hebraeg. Y mae yn amlwg fod gan gyfieithwyr y LXX. destyn gwahanol o'u blaen i'r un sydd genym ni. Darllena Amos 9:12, ‘Fel y meddiano y rhai y gelwir fy enw arnynt weddill Edom, a'r holl genhedloedd, &c.’ Yr oedd Edom yn cynnrychioli yr holl Genhedloedd.,
16Ar ol y pethau hyn y dychwelaf,
Ac yr ad‐adeiladaf babell#15:16 gan ddangos gwaelder y genedl, fel wedi syrthio a dirywio. Y mae yma gyfeiriad at y pebyll o ganghenau a dail, yn y rhai y trigai yr Israeliaid ar yr Wyl er eu hadgofio mai Duw oedd eu hamddiffynydd. Yr oedd pob peth oedd yn dda yn y grefydd Iuddewig i gael ei barhau yn Nghrefydd Crist. Dafydd, yr hon sydd wedi syrthio;
A'i hadfeilion#15:16 Yr hyn sydd wedi ei daflu i lawr, ei fylchu, ei ddinystrio. a ad‐adeiladaf,
Ac a'i gosodaf hi yn syth i fyny:
17Fel y byddo i'r gweddill#15:17 sef y Cenhedloedd, fel y gweddill o Edom wedi ei gorchfygiad gan Amaziah (2 Br 14:7). o ddynion geisio yr Arglwydd,
A'r holl#15:17 holl, E G H; gad. א A B C D Brnd. Genhedloedd ar y rhai y gelwir fy enw#15:17 Ymadrodd Hebreig, am y bobl sydd yn cydnabod Duw. llyth: ar y rhai y mae fy enw wedi ei alw arnynt.,
Medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn, 18y rhai ydynt hyspys#15:18 hyspys o'r dechreuad א B C Brnd.; hyspys i Dduw yw ei weithredoedd oll o'r dechreuad E G H; hyspys o'r dechreuad i'r Arglwydd ei waith A D La. o'r dechreuad#15:18 Neu, yr hwn sydd yn gwneuthur y pethau hyn yn hyspys o'r dechreuad; a golyga fod Duw o ddechreuad y byd wedi rhoddi gwybodaeth o honynt trwy y prophwydi. Yn ol ein darlleniad, dywedir mai o Dduw yr oedd derbyniad y Cenhedloedd i'r Eglwys, a bod y ffaith hon yn adnabyddus iddo ef, hyny yw, ei bod yn ei fwriad a'i gynllun er tragywyddoldeb, ac wedi ei dadguddio i'r oesau o'r dechreuad yn mhrophwydoliaethau ei weision. Nid yw ‘hyspys o'r dechreuad’ yn Amos. Rhai a farnant mai ychwanegiad ac esboniad Iago ydynt; ond y mae yn fwy tebygol eu bod yn rhan o'r dyfyniad yn ol y geiriad oedd ganddo ef..
19Gan hyny, fy marn#15:19 Nid yw Iago yn llefaru fel barnwr ond fel brawd; ni rydd ei adedfryd ond dywed ei farn. Ni hawlia uwchafiaeth, ond gofyna am gydsyniad. i yw: Peidio blino y rhai o'r Cenhedloedd sydd yn troi at Dduw; 20eithr ysgrifenu#15:20 Neu, gorchymyn, erchi, cyfarwyddo, danfon (trwy genad). atynt i ymgadw oddiwrth halogrwydd#15:20 alisgema [yma yn y rhif lluosog]. Ni ddefnyddir y gair mewn Groeg clasurol, ac yma yn unig yn y T. N. Defnyddir y ferf [yn y LXX] yn Dan 1:8; Mal 1:7–12, ‘A Daniel a roddes ei fryd, nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenhin.’ ‘Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig.’ Felly golyga y gair halogi trwy fwydydd. Yn fynych gwerthid yn y marchnadoedd y gweddill o fwyd a offrymid i eilunod, yr hwn ni fwyteid gan yr addolwyr neu gan yr offeiriaid. Yr oedd hyn yn ffieidd‐beth yn ngolwg yr Iuddew; ac yr oedd y credinwyr cenhedlig i ofalu na roddent dramgwydd yn y peth hwn. Gweler ymresymiad Paul, (1 Cor 8:1–10). yr eilunod a godineb#15:20 Enwir godineb am fod llacrwydd cyffredinol yn y byd Cenhedlig gyda golwg ar ddiweirdeb. Ystyrid y pechod gwarthus hwn yn rhan o addoliad i'r duwiau yn rhai o'r gwleddoedd; ac felly yr oedd anghen galw sylw neillduol y credinwyr dibrofiad at yr atgas‐beth hwn., ac oddiwrth y peth a dagwyd#15:20 Gweler Lef 17:10–16. Nid oedd gwaed i gael ei fwyta, ac felly nid oedd unrhyw greadur yn addas i'w fwyta, os na fyddai ei holl waed wedi rhedeg allan o hono. Ar y llaw arall, yfai rhai o'r Cenhedloedd waed ar adegau eu gwleddoedd., ac oddiwrth waed#15:20 Gweler Lef 17:10–16. Nid oedd gwaed i gael ei fwyta, ac felly nid oedd unrhyw greadur yn addas i'w fwyta, os na fyddai ei holl waed wedi rhedeg allan o hono. Ar y llaw arall, yfai rhai o'r Cenhedloedd waed ar adegau eu gwleddoedd.. 21Canys y mae gan Moses er Cenhedlaethau Cyntefig#15:21 O amser Ezra. yn mhob dinas rai a'i pregethant ef, gan gael ei ddarllen yn y Synagogau bob Sabbath#15:21 Yr oedd drws yr Eglwys i gael ei agor led y pen i'r Cenhedloedd, ac felly yr oeddent hwy i ymgadw rhag rhoddi tramgwydd i'r Iuddew neu y proselyt. Yr oedd yr holl gyfundrefn Foesenaidd yn nghof ac yn nghalon y blaenaf trwy wasanaeth dyddiol y Synagog, ac felly yr oedd y dysgybl cenhedlig i ymwrthod yn hollol a'r pethau a nodwyd er sicrhau brawdgarwch a chyd‐weithrediad yn yr Eglwys..
Ateb a chyfarwyddyd i'r Eglwys yn Antioch, 22–29.
22Yna y gwelwyd yn dda#15:22 edoxe, llyth: ymddangosodd (yn dda). Y gair arferol ar ddechreu cyhoeddiadau swyddogol. gan yr Apostolion a'r Henuriaid ynghyda'r holl Eglwys#15:22 Nid oedd yr Eglwys yn bresenol i wrando yn unig, ond hefyd i ddeddfu. Yr oedd ganddi lais yn newisiad y brodyr, ac yn yr hyn a benderfynwyd ei anfon fel anerchiad neu gyfarwyddyd i Antioch., wedi dewis gwyr o'u plith eu hunain, eu danfon i Antioch gyda Phaul a Barnabas, sef Judas#15:22 Rhai a farnant ei fod yn frawd i Joseph Barsabbas, yr hwn a enwyd i lanw lle Judas (1:23). yr hwn a gyfenwir Barsabbas, a Silas#15:22 Silas, ffordd fer o ysgrifenu Silvanus (fel Lucas o Lucanus, Epaphras o Epaphroditus. Silas yw yn yr Actau 13 o weithiau), Silvanus yn Epistolau Paul a Phetr (1 Thess 1:1; 2 Thess 1:1; 2 Cor 1:19; 1 Petr 5:12). Yr oedd yn Iuddew Groegaidd, ac fel Paul, yn ddinesydd Rhufeinig (16:37)., blaenoriaid#15:22 llyth: gwyr arweiniol, o safle ac awdurdod yn yr Eglwys. yn mhlith y brodyr; 23gan ysgrifenu trwy eu llaw#15:23 Eu llaw hwynt a ddyg y llythyr o Jerusalem i Antioch. hwynt#15:23 y pethau hyn, gad. א A B Brnd.:
Yr Apostolion a'r Henuriaid, brodyr#15:23 Nid oedd yr Apostolion a'r Henuriaid yn hawlio unrhyw uwchraddoldeb. Llawenhaent yn nefnyddiad y gair ‘brodyr.’ Yr oedd y brodyr Iuddewig yn danfon anerchiad o ewyllys da at y brodyr Cenhedlig.#15:23 a'r, gad. א A B C D Brnd., at y brodyr y rhai sydd o'r Cenhedloedd yn Antioch a Syria a Cilicia#15:23 Yr oedd y cythrwfl wedi ymledaenu drwy y ddau ranbarth hyn. Yr oedd yn Cilicia ddychweledigion ac, yn debygol, eglwysi, fel ffrwyth llafur Paul, yr hwn a wnaeth Tarsus yn ganol‐fan ei weinidogaeth (9:3). Ni chyfeiria Paul yn ei Epistolau at gynwysiad y llythyr hwn. Nid oedd o rwymedigaeth barhaol a chyffredinol. Bwriadwyd ef i gyfarfod ag argyfwng neillduol yn hanes yr Eglwys., yn anfon anerch#15:23 llyth: i lawenychu. Y mae berf megys, dywedyd, erchi, &c, yn ddealledig. Hwn oedd y cyfarchiad Groegaidd. Llawenydd oedd prif ddymuniad y Groegwr; Tangnefedd oedd cyfarchiad y Dwyreiniwr [shalom, salaam]. Cyfuna yr Efengyl y ddau, ‘Gras [charis, yn gysylltiedig a chairô] a thangnefedd oddiwrth Dduw’ &c. Yn Epistol Iago yn unig (1:1), y ceir y ffurf sydd yma, ac y mae hyn ynghyd ag ystyriaethau eraill yn dangos fod gan Iago law yn mharotoad yr anerchiad hwn.: 24Yn gymaint a chlywed o honom i rai a aethant allan oddiwrthym ni#15:24 Yr oeddent o Judea a Jerusalem, ac wedi bod yn aelodau yn yr Eglwys. eich cythryblu chwi â geiriau#15:24 eu dyrysu ag ymadroddion a dadleuon, gan gymeryd arnynt eu bod wedi eu danfon gan yr Awdurdodau yn Jerusalem., gan ddymchwelyd#15:24 anaskeuazô [Yma yn unig yn y T.N. a'r LXX]. llyth: symud ymaith ddodrefn, anmharu neu yspeilio ty; yna, dinystrio, dymchwelyd, tynu i lawr, anrheithio. Troisant feddyliau yr Antiochiaid o fyny i waered. eich eneidiau#15:24 gan ddywedyd fod rhaid enwaedu a chadw'r Gyfraith C E; gad. א A B D Brnd. [wedi eu dwyn i mewn o ad. 1 a 5]., i'r rhai ni roisom orchymyn#15:24 llyth: danfon ar wahan; yna, gorchymyn yn benodol, rhoddi siars.; 25ni a welsom yn dda, a dyfod o honom yn unfrydol#15:25 Bu llawer o ymddyddan, ac ymddadleu, ond daethpwyd yn ‘unfryd unfarn.’, wedi dewis gwyr, i'w danfon atoch chwi gyda'n hanwyliaid#15:25 Ychydig o ganmoliaeth o'r goreugwyr geir yn y Beibl. Ond yma y mae yn briodol ac amserol. Y mae yn ateb yr Eglwys i'r Iuddeweiddwyr. Barnabas#15:25 Naturiol i'r Eglwys yn Jerusalem oedd gosod Barnabas yn flaenaf. a Paul, 26gwyr sydd wedi rhoddi fyny#15:26 Wedi eu traddodi, eu cyflwyno, eu rhoddi fyny yn hollol, i wasanaeth a meddiant un arall. Y mae y gair yn gryfach nag anturio, mentro [S. hazzard]. Gweler 13:50; 14:2, 5, 19, &c. eu bywydau#15:26 llyth: eneidiau. ar ran enw ein Harglwydd Iesu Grist. 27Yr ydym wedi danfon, gan hyny, Judas a Silas, a hwynt‐hwy trwy leferydd#15:27 llyth: trwy air [llefaredig]. Yr oeddent i gadarnhau y Gair ysgrifenedig ag ymadroddion eu genau. ydynt yn mynegu#15:27 Yn amser presenol. Yr oeddent wedi eu penodi yn genadon, ac yr oeddent i ddwyn tystiolaeth o benderfyniad yr Eglwys pa le bynag y byddent. Nid oeddent i gyfyngu eu cenadwri i Antioch yn unig. yr un pethau. 28Canys gwelwyd yn dda gan yr Yspryd Glân#15:28 Pwysleisir yma eto Bersonoliaeth a Dwyfoldeb yr Yspryd Sanctaidd. Efe oedd Cadeirydd y Cyfarfod, a Llywydd y Brodyr. Efe oedd wedi eu hysprydoli a'u harwain. Ni wnai dim llai na'i gyfarwyddyd ef eu symud o ragfarn Iuddewaeth i'r rhyddid gogoneddus lle nad yw enwaediad na dienwaediad yn ddim. Teimlent ei fod Ef yn ei Eglwys yn Berson byw a gweithgar. Llechent yn nghysgod y Pentecost. Yr oedd ganddynt feddwl yr Yspryd. Yr oedd Crist wedi addaw y buasai yn eu harwain i bob gwirionedd (Ioan 16:13). Y mae yr ymadrodd yma yn debyg i eraill yn yr Hen Destament, ‘A'r bobl a gredasant i'r Arglwydd, ac i'w wâs Moses’ (Ex 14:31), ‘Cleddyf yr Arglwydd a Gideon’ (Barn 7:18–20), ‘A'r holl bobl a ofnodd yr Arglwydd a Samuel’ (1 Sam 12:18). Nid oedd ewyllys yr Eglwys wedi ymgolli yn eiddo'r Yspryd, ond yr oedd y ddau yn ffurfio cadwen gymhlethedig o nerth didor ac o brydferthwch digymhar. a chenym ninau, na ddodid arnoch unrhyw faich mwy na'r pethau anghenrheidiol#15:28 Nid anghenrheidiol i iachawdwriaeth ond i heddwch a chydweithrediad yn yr argyfwng hwn. hyn: 29Ymgadw oddiwrth y pethau a aberthwyd i eilunod#15:29 Yr un a ‘halogrwydd eilunod,’ ad 20. Cawn yma y pedwar peth gwaharddedig ond mewn trefn wahanol a gwell. Yr oeddent i edrych ar odineb o safbwynt Cyfraith Duw ac nid o safbwynt isel ac anfoesol y Cenhedloedd., a gwaed, a phethau a dagwyd, a godineb: os cedwch#15:29 diatêreô, cadw yn ofalus (yn bur), allan o'r, yn mhell oddiwrth y, pethau hyn. eich hunain oddiwrth y pethau hyn, da y gwnewch#15:29 Nid, ‘chwi a wnewch yr hyn sydd iawn,’ ond ‘bydd canlyniadau da yn canlyn,’ ‘bydd yn dda i chwi.’. Byddwch iach#15:29 llyth: Byddwch gryf. Hyn oedd terfyniad arferol llythyrau yn mhlith y Groegiaid. Gweler llythyr Claudius Lysias at Ffestus (23:26–30)..
Derbyniad y Genadwri a'r Cenadon yn Antioch, 30–35.
30Gan hyny yn wir, wedi eu gollwng ymaith, hwy a ddaethant i Antioch; ac wedi cynull y lliaws#15:30 Dengys yr oll, yr yspryd gwerinol, y cariad brawdol, a'r cyd‐raddoldeb hollol, a neillduolai yr Eglwys Apostolaidd. Mor wrth‐offeiriadol ydoedd! ynghyd, hwy a drosglwyddasant y llythyr; 31ac wedi ei ddarllen, hwy a lawenychasant am y calondid#15:31 Dau brif ystyr paraklêsis yw dyddanwch a chynghor. Ceir ynddo gysur a chyfarwyddyd. Cyferfydd y ddau yn y gair calondid. Llyth: ar [sail] y calondid. Yr oedd y gwrthglawdd mawr rhwng yr Iuddew a'r Cenedl‐ddyn wedi ei symud, ac yn awr y mae Eglwys Crist yn un. a gawsant. 32A Judas a Silas, a hwythau yn brophwydi#15:32 Yr oedd Prophwydi y T.N. yn ddynion goleuedig, yn gyfarwydd a gair ac ewyllys Duw, o dan arweiniad uniongyrchol yr Yspryd Glân, o yspryd tanbaid a brwdfrydig, gan fod yn alluog ar brydiau i rag‐fynegu pethau i ddyfod. Yr oedd llawer o'r rhai hyn yn yr Eglwys foreuol, er na chawn lawer o hanes am danynt. (11:27; 13:1). Esbonio meddwl Duw i'r Eglwys oedd eu prif waith., trwy lawer o ymadrodd a galonogasant y brodyr, ac a'u cadarnhasant. 33Ac wedi treulio#15:33 llyth: Ac wedi gwneyd amser, gan olygu, eu bod wedi gwneuthur defnydd da o hono. rhyw amser, hwy a ollyngwyd mewn#15:33 llyth: gyda thangnefedd, mewn cyfarfod ymadawol yn llawn o ddiolchgarwch a dymuniadau da, yn yr hwn yr oedd gweddi yn cael lle amlwg. tangnefedd oddiwrth y brodyr at y rhai a'u#15:33 a'u danfonasant א A B C D Brnd.; at yr Apostolion E G H. danfonasant. 34#15:34 Eithr gwelodd Silas yn dda i aros yno C D; gad. א A B E G H Brnd. Gosodwyd yr adnod i mewn er esbonio presenoldeb Silas yn Antioch (ad. 40); ond y mae yn amlwg iddo ddychwelyd i Jerusalem, a myned ar ol hyny i Antioch, pan y danfonwyd am dano gan Paul. 35A Paul a Barnabas oeddent yn aros yn Antioch, gan ddysgu a phregethu#15:35 llyth: efengylu. Dysgent y credinwyr, efengylent i'r rhai tu allan i'r Eglwys. Gair yr Arglwydd, gyda llawer eraill#15:35 llyth: gwahanol. Yr oedd pob math o ddysgyblion yn cynorthwyo. Y mae anghen pawb ar Eglwys Dduw. Yr adeg hon y gwrthwynebodd Paul Petr o herwydd ei ymddygiad anghyson, yr hwn a gofnodir yn Gal 2:11–16. Gadawa Luc yr hanes allan am na ddeuai o fewn cylch ei amcan, sef rhoddi hanes llwyddiant a lledaeniad yr Efengyl yn y cyfnod boreuol hwn. Ni fu i'r ymdrafodaeth hon ganlyniadau pwysig. Diamheu i Petr ddiwygio heb oedi. Ni wnaeth yr anghydwelediad hwn leihau eu cariad at eu gilydd. Cawn gyfeiriad caredig at Paul gan Petr yn ei Epistol. hefyd.
Anghydwelediad rhwng Paul a Barnabas: eu gwahaniad a'u gwaith, 36–41.
36Ac wedi rhai dyddiau dywedodd Paul#15:36 Yr oedd arno ‘ofal dros yr holl eglwysi’ (2 Cor 11:28; gweler hefyd 1 Thess 3:10; Rhuf 1:9; Eph 1:16; Phil 1:3). Yr oedd ynddo deimlad angerddol i'w gweled a'u hadeiladu. Ei fwriad oedd ymweled a'r eglwysi oedd wedi eu planu, ond y mae ‘maes ei weledigaeth’ yn ymeangu, hyd nes y daw Ewrop o fewn ei chylch. wrth Barnabas, Dychwelwn ar unwaith#15:36 Gweler 13:2. Y mae y tân sydd yn llosgi yn y galon yn tori allan yn fflam yn yr ymadrodd, ‘Dychwelwn ar unwaith, yn awr, heb golli amser,’ &c. ac ymwelwn a'r brodyr yn mhob#15:36 ar hyd pob dinas, o ddinas i ddinas. dinas yn y rhai y cyhoeddasom Air yr Arglwydd, i weled pa fodd y mae arnynt#15:36 llyth: y mae ganddynt; beth oedd eu sefyllfa ysprydol; pa fodd yr oeddent yn myned yn mlaen.. 37A Barnabas a fynai gymeryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a elwid Marc#15:37 Yr oedd Marc yn gefnder i Barnabas (Col 4:10), ac felly yr oedd Barnabas yn ffafriol i'w gymeryd ef gyda hwynt. Yr oedd Barnabas o galon dyner a charedig, ac yr oedd ei serch yn ei ddallu i ddiffygion ei gâr. Ymadawodd Marc o Pamphylia (13:13) gan adael yr Apostolion a'r gwaith, gan ofni'r anhawsderau a'r peryglon. Yr oedd wedi gosod ei law ar yr aradr, ac wedi edrych yn ol. Ond y mae yn amlwg ei fod wedi dysgu gwers ar ol hyn. Aeth i Babylon gyda Petr (1 Petr 5:13) a bu gyda Paul yn Rhufain, yr hwn a ddygodd dystiolaeth uchel iddo, ‘Canys buddiol yw efe i mi i'r weinidogaeth’ (2 Tim 4:11). Llefarodd hefyd yn barchus iawn am Barnabas, 1 Cor 9:6; Gal 2:9.. 38Eithr ni thybiai Paul yn iawn#15:38 llyth: ni thybiodd deilwng. gymeryd gyda hwynt hwnw, yr hwn a wrth‐giliodd oddiwrthynt o Pamphylia, ac nid aeth gyda hwynt i'r gwaith#15:38 Gweithwyr gwrol raid gael yn ngwinllan Duw.. 39A chyfododd cweryl#15:39 paroxusmos, enyniad, cynhyrfiad, llidiad; cynhen lem, cweryl llym; ‘anogaeth’ (‘i gariad a gweithredoedd da,’ Heb 10:24). Defnyddir ef ddwywaith yn y LXX. am ddigllonedd Duw (Deut 29:28; Jer 32:37). llym, fel yr ymwahanasant oddiwrth eu gilydd; a Barnabas#15:39 Wele'r llen yn disgyn ar hanes Barnabas, a gwelwn ef yn hwylio tua'i wlad enedigol i barhau yn ei waith da (4:36; 13:4). wedi cymeryd Marc gydag ef, a fordwyodd i Cyprus; 40a Paul wedi dewis Silas#15:40 Yn lle Barnabas, ac yn fuan ar ol hyn, Timotheus yn lle Marc., a aeth allan, wedi ei gyflwyno#15:40 Yr oedd yn fawr ei barch am ei yspryd rhyddfrydig a'i weithgarwch diflino. i ras yr Arglwydd#15:40 yr Arglwydd א A B D Brnd. gan y brodyr. 41Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia#15:41 Lleoedd yn y rhai y rhai yr oedd yr Iuddeweiddwyr yn lluosog. Cychwyna yr Apostol ar ei ail daith genadol, gan fyned trwy y ‘Pyrth Syriaidd,’ ffordd gyfyng rhwng y môr a'r creigiau uchel; yna gwynebai'r wlad, gan fyned heibio Tarsus, a thros Fynydd Taurus, trwy y ‘Pyrth Ciliciaidd.’ Y mae Yspryd Duw yn goruwch‐lywodraethu y ‘cweryl llym’ er daioni. Argymerir a dwy daeth genadol yn lle un, a gwasgerir yr hâd da. Fel yr aeth Barnabas at ei eiddo ei hun (Cyprus), felly yr aeth Paul hefyd (Cilicia). Gwnaethant hwy ddechreu eu hail daith yn eu ‘Jerusalem’ ei hun., gan gadarnhâu yr eglwysi.

Dewis Presennol:

Actau 15: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda