Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 16

16
Parhâd o'r Ail Daith Genadol, 1–11.
1Ac efe a gyrhaeddodd i Derbe#16:1 Gweler 14:6. Yr oedd Paul yn awr yn myned mewn cyfeiriad gwahanol, felly newidir trefn yr enwau. Elai yn awr o'r dwyrain tua'r gorllewin. a Lystra#16:1 Gweler 14:6. Yr oedd Paul yn awr yn myned mewn cyfeiriad gwahanol, felly newidir trefn yr enwau. Elai yn awr o'r dwyrain tua'r gorllewin., ac wele, yr oedd rhyw ddysgybl yno#16:1 Sef yn Lystra., o'r enw Timotheus#16:1 Dyn ieuainc a argyhoeddwyd gan Paul, ond a addysgwyd yn ofalus gan ei fam Eunice a'i nain Lois yn Ysgrythyrau yr Hen Destament (2 Tim 3:15). Tebygol mai brodor o Lystra ydoedd. Tebygol iddo gael ei ddwyn at Grist pan yr ymwelodd Paul a'r lle y tro cyntaf, tua chwe' mlynedd cyn hyn (1 Tim 1:2; 1 Cor 4:17). Meddianai yni a zel Cristionogol, a llafuriodd gydag egni yn yr Eglwys. Neillduwyd ef i'r gwaith gan yr Henuriaid (1 Tim 4:14). Yn awr cymhellodd Paul ef i fod yn gydymaith iddo, a gwasanaethodd ef a'r Eglwys yn ffyddlon. Bu yn genad pwysig i'r Eglwys yn Corinth (1 Cor 4:17), ac yn Thessalonica (1 Thess 3:2, 6). Yr oedd gyda Paul yn Rhufain, gan fod ei enw fel cydymaith yr Apostol yn yr Epistolau at y Philippiaid (1:1; 2:19), Colossiaid (1:1), a Philemon (1). Dyoddefodd dros y gwirionedd (Heb 13:23)., mab i#16:1 ryw, gad. א A B C D E Brnd. wraig Iuddewig grediniol, ond i dâd o Roegwr#16:1 llyth: Groegaidd. Ni ddywedir fod ei dad yn broselyt. Tebygol iddo aros yn Roegwr o ran ei grefydd. Yr oedd yn anghyfreithlon i Iuddewon briodi Cenhedloedd (Ex 34:16; Deut 7:3; 1 Br 11:2; Ezra 9, 10; Neh 13:3). Dywedir fod gan y gwragedd hawl i briodi y cyfryw (ond nid gan y gwyr), fel Esther, Drusilla, &c., ond ni chydnabyddir hyn gan yr awdurdodau Iuddewig., 2i'r hwn y tystiolaethid#16:2 Er ei fod yn ieuanc iawn. Yr oedd yn ieuanc 12 mlynedd ar ol hyn (1 Tim 4:12). gan y brodyr yn Lystra ac Iconium. 3Paul a ewyllysiai hwn i fyned allan gydag ef; ac efe a'i cymerodd ac a'i henwaedodd#16:3 Cyfrifid plentyn Iuddewes yn Iuddew, er fod ei dâd yn genedl‐ddyn, ac felly buasai Paul yn rhoddi tramgwydd i'r Iuddewon trwy benodi Iuddew dienwaededig yn gyd‐weithiwr ag ef. At Iuddewon anghrediniol y cyfeirir yma. Pe delsai cais o tu fewn yr Eglwys, tebygol y gweithredasai Paul yn wahanol. Person o ddisgyniad cymysg oedd Timotheus, cenedl‐ddyn oedd Titus, ac felly yr oeddent mewn sefyllfa hollol wahanol. Gweithred ewyllysgar ar ran Paul oedd enwaedu Timotheus, er mwyn symud maen tramgwydd o'r ffordd, gan ‘wneuthur pob peth er mwyn yr Efengyl’ (1 Cor 9:19–22), gan nad oedd un egwyddor mewn perygl; ond yr oedd yn wahanol yn achos Titus. Yr oedd efe yn Roegwr; daeth cais o tu fewn yr Eglwys i'w enwaedu, ac yr oedd hyn yn wrthwynebol i egwyddorion sylfaenol Cristionogaeth, yn ogystal a phenderfyniad pendant yr Eglwys yn Jerusalem; ystyrid enwaediad gan y Cristionogion Iuddewig hyn yn amod iachawdwriaeth, ac felly gwrthwynebwyd hwy yn y modd mwyaf penderfynol gan yr Apostol. Yn achos Timotheus dengys ei hoffder o rydd‐frydedd, yn achos Titus ei gariad at egwyddor (gweler Gal 2:3). Enwaedodd Paul Timotheus ‘er dyddimu yr enwaediad’ Chrysostom. ef o achos yr Iuddewon y rhai oedd yn y lleoedd hyny, canys yr oeddent oll yn gwybod mai Groegwr oedd ei dad ef. 4Ac fel yr ymdeithient trwy y dinasoedd#16:4 Yn Pisidia, tiriogaeth gymydogaethol i Cilicia., traddodent#16:4 Neu, trosglwyddent iddynt y gorchymynion#16:4 dogmata, gosodiadau, ordeiniadau, athrawiaethau, gorchymynion. i'w cadw, ar y rhai y penderfynwyd gan yr Apostolion a'r Henuriaid y rhai oedd yn Jerusalem. 5Gan hyny#16:5 Yr oedd Gair Duw yn awr yn rhydd, yn rhedeg, ac yn cael gogonedd. Yr oedd canol‐fur y gwahaniaeth wedi ei dynu i lawr. yn wir yr eglwysi a gadarnhawyd#16:5 Hoff‐air yr ysgrifenydd. yn y Ffydd, ac a amlhasant mewn rhifedi yn ddyddiol. 6A hwy a dramwyasant trwy Phrygia#16:6 Rhan ganolog o Asia Leiaf. Yr oedd Colosse, Laodicea, a Hierapolis yn perthyn iddi. Yr oedd llawer o Iuddewon yn y dinasoedd hyn. a gwlad Galatia#16:6 Yr oedd Galatia yn diriogaeth eang, yn cynwys Isauria, Lycaonia, rhan ddwyreiniol o Phrygia, a rhan o Pisidia. Nid oes genym sicrwydd am derfynau Phrygia a Galatia. Yr oeddent yn rhanol, beth bynag, yn dynodi yr un wlad. Meddianid hon ar y cyntaf gan y Phrygiaid; ond gwnaeth lluaws o'r Celtiaid a'r Gauliaid oresgyn Groeg yn y drydedd ganrif cyn Crist; hefyd croesasant yr Hellespont (Môr Groeg) i Asia, ac ymsefydlasant o'r diwedd yn y wlad a elwid ar eu henw, Galatia. Gwnaed hi yn dalaeth Rufeinig yn B.H. 25. Yr adeg hon y ffurfiwyd yr eglwys neu yr eglwysi at y rhai yr ysgrifenodd Paul ei lythyr., wedi iddynt gael eu rhwystro#16:6 Nid ydym yn gwybod pa fodd; efallai trwy gymhelliad tufewnol. gan yr Yspryd Glân i lefaru y Gair yn Asia#16:6 Nid y cyfandir mawr, o gwrs, o Asia Raglawiol, yn cynwys Mysia, Caria, a Lydia. Ephesus oedd y brif‐ddinas. Mysia oedd y rhan ogleddol. Yr oedd Saith Eglwys y Dadguddiad yn Asia. Yr oedd Bithynia i'r dwyrain o Mysia, ar derfynau gogleddol Asia Leiaf, ar lanau y Môr Du a Môr Marmora. Nid oes genym hanes i Paul fod yn Bithynia.; 7a phan ddaethant gyferbyn a Mysia, hwy a gynygiasant fyned i Bithynia, ond ni oddefodd Yspryd yr#16:7 yr Iesu, א A B C D E Brnd. Iesu#16:7 Yma yn unig yn y T.N.; ond cawn ymadroddion cyffelyb, ‘Cynorthwy Yspryd Iesu Grist’ (Phil 1:19); ‘Yspryd Crist’ (Rhuf 8:9). Barna rhai fod y geiriau ‘yr Iesu’ wedi eu gadael allan yn rhai o'r prif law‐ysgrifau o herwydd daliadau Duwinyddol, gan y byddai y geiriau yn ffafrio ‘deilliad’ neu ‘ddyfodiad allan’ yr Yspryd oddiwrth y Mab yn ogystal a'r Tad. iddynt. 8Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Troas#16:8 Porthladd enwog, tua phum' milltir o hen dref enwog Caerdroia. Adeiladwyd Troas gan ddau o gad‐fridogion Alexander Fawr, Antigonus, a Lysimachus, ac enwasant hi ar ol eu harwr, Alexandria Troas. Galwai y Rhufeiniaid hi, Caerdroia Newydd. Yr oedd yn le cyfleus a chanolog. Meddyliodd Julius Cesar ei gwneyd yn brif‐ddinas yr Amherodraeth, a dylynwyd ef 300 mlynedd ar ol hyny gan Cystenyn Fawr, cyn y gwnaeth Byzantium ei brif‐ddinas.. 9A gweledigaeth yn ystod y nos#16:9 ‘Y nos yw'r dydd sydd yn dwyn y Nef i'r golwg.’ Nid breuddwyd oedd er ei bod yn nos. Joseph a gwraig Pilat oedd yr unig rai a gawsant freuddwydion yn y T.N. a ymddangosodd i Paul: Rhyw wr#16:9 Ofer yw yr ymdrech i esbonio natur y weledigaeth. Rhai a farnant mai Angel Gwarcheidwol Macedonia a ymddangosodd i Paul, eraill mai ffurf Ceidwad y Carchar, &c. Yr oedd y weledigaeth hon yn fwy pendant a gwrthrychol na'r cyfarwyddyd a gafodd i beidio pregethu yn Asia, &c. o Macedonia oedd yn sefyll, ac yn deisyfu arno ac yn dywedyd, Tyred trosodd i Macedonia, a chymhorth ni. 10A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Macedonia#16:10 Macedonia, yr enw Rhufeinig ar ran ogleddol Groeg; y rhan arall a elwid Achaia. Yr oedd Illyricum, Epirus, a Thessalia yn Macedonia. Thessalonica oedd y brif‐ddinas; yr oedd yno hefyd drefydd pwysig, megys Philippi, Amphipolis, Berea, Apollonia, &c., gan gasglu#16:10 Gweler 9:22, ‘Casglu trwy osod pethau ochr yn ochr.’ yn sicr alw o Dduw#16:10 Duw א A B C D E Brnd. nyni#16:10 Efallai i Paul fethu pregethu yn Asia o herwydd afiechyd; os hyny, yr oedd yn naturiol iddo ef a Luc ‘y physigwr anwyl’ ddyfod i gyfarfyddiad. Bu Luc yn gymdeithydd iddo hyd ei ymadawiad o Philippi. i efengylu iddynt hwy.
Paul yn Philippi: troedigaeth Lydia, 12–15.
11Wedi hwylio gan hyny o Troas, ni a redasom yn syth i Samothracia#16:11 Ynys fechan, wyth milltir wrth chwech, gyferbyn a Thrace, wedi ei phoblogi gan rai o'r ynys gymydogaethol, Samos., a thranoeth i Neapolis#16:11 Neu, Nea Polis, ‘Dinas Newydd,’ wrth enau yr afon Strymon, porthladd Philippi, tua 10 milltir oddiwrthi. Yr oedd gyferbyn a Thasos; ar y pryd hwn yn perthyn i Thrace, ond ar ol amser Vespasian, i Macedonia.; 12ac oddiyno i Philippi#16:12 Ei henw gwreiddiol oedd Krenides, Y Ffynonau, o herwydd y tarddelloedd lawer oedd yno. Gelwid hi Philippi ar ol Philip o Macedonia, tad Alexander Fawr, yr hwn a'i gwnaeth yn dref bwysig. Gerllaw Philippi yr ymladdwyd y frwydr derfynol rhwng Brutus a Cassius ar un llaw, ac Augustus ac Anthoni ar y llaw arall, pan y cafodd y blaenaf eu llwyr orchfygu., dinas o Macedonia, y gyntaf#16:12 Nid prif‐ddinas Macedonia, oblegyd Thessalonica oedd hono; nac o'r rhanbarth neillduol hwn, canys Amphipolis oedd hi. Yr oedd Neapolis yn perthyn i Thrace, ac felly Philippi oedd y ddinas Macedonaidd gyntaf y daethant iddi. o'r rhan‐barth, ac yn drefedigaeth#16:12 Sef, Trefedigaeth Rufeinig. Augustus a'i gwnaeth felly. Danfonid nifer o ddinasyddion o Rufain, &c., i gymeryd meddiant o leoedd o ddefnydd i'r Amherodraeth, y rhai a feddianent yr un hawliau a dinasyddion Rhufain. Yr oedd ‘trefedigaeth’ yn Rhufain ar raddfa fechan.: ac ni a fuom yn y ddinas hon yn treulio rhai dyddiau. 13Ac ar y Dydd Sabbath ni a aethom tu allan i'r porth#16:13 porth א A B C D Brnd.; dinas E., at lan afon#16:13 Y Gangites, afon fechan yr hon a arllwysai i'r Strymon rai milltiroedd o Philippi., lle y#16:13 tybiem א A B C Brnd. tybiem yr oedd Lle Gweddi#16:13 Proseuchê, gweddi, hefyd lle gweddi. Yr oedd gan yr Iuddewon lawer o'r Proseuchai hyn mewn gwledydd tramor, yn enwedig lle nad oedd ganddynt Synagogau. Weithiau yr oedd y lle gweddi yn adeilad, brydiau eraill yn le neillduol yn yr awyr agored, ac yn fynych ar lan y mor neu afon, oherwydd y golchiadau mynych er puredigaeth. Rhai a gyfieithant yma, lle yr arferid gweddi.; ac wedi eistedd#16:13 Yn ol arfer dysgawdwyr. ni a lefarasom wrth y gwragedd#16:13 Y mae yn amlwg nad oedd llawer o Iuddewon yn Philippi, ac yr oedd llawer o'r gwragedd yn mhlith y Cenhedloedd wedi dyfod yn broselytiaid. Yr oedd paganiaeth wedi diystyru y gwragedd, yr oedd Iuddewaeth i raddau helaeth wedi eu hanwybyddu; ond y mae Cristionogaeth wedi eu dyrchafu. Nid oes gwryw na benyw yn Nghrist Iesu. Mor amlwg yw y gwragedd yn hanes crefydd y Testament Newydd! oedd wedi dyfod ynghyd. 14A rhyw wraig o'r enw Lydia#16:14 Yr oedd o Lydia yn Asia Leiaf, ac efallai iddi gael ei henw o herwydd ei gwlad., un yn gwerthu porphor, o ddinas Thyatira#16:14 Yn Lydia, yn Asia Leiaf, heb fod yn mhell o derfynau Mysia, yr hon oedd yn enwog am ei marsiandiaeth mewn lliwiau, neu wisgoedd ac addurniadau amryliw. Y mae rhai darnau o fetel wedi eu darganfod ac arnynt argraff yn cyfeirio at urdd o liw‐wyr. Yr oedd y wlad hon yn enwog am ei lliwiau mor foreu ag amser Homer (Iliad, 4:141). Yr oedd Thyatira yn drefedigaeth Facedonaidd wedi ei sylfaenu gan Alexander Fawr. Gwna hyn gyfrif i raddau am bresenoldeb Lydia., un yn addoli Duw#16:14 ac felly yn broselyt., a wrandawodd; yr hon yr agorodd#16:14 Gair a ddefnyddir yn briodol am y llygaid, ac y mae Paul yn llefaru am ‘lygaid y galon,’ Eph 1:18. Gweled a'r galon yw y gweled rhagoraf. Yr Arglwydd sydd yn agor. Galwodd efe Paul i Philippi, a bendithiodd ei eiriau. Talodd Lydia sylw, agorodd Duw ei chalon. yr Arglwydd ei chalon, i ddal sylw ar y pethau a leferid gan Paul. 15A phan fedyddiwyd hi a'i thy#16:15 Neu, ei theulu. Ni ddywedir gair am ei gwr. Os bu yn briod, y mae yn debygol ei fod wedi marw. Ei ‘theulu,’ yn ddiameu, oedd ei chynorthwywyr a'i gwasanaethyddion. Yr oedd Thyatira ganoedd o filltiroedd o Philippi., hi a ddeisyfodd, gan ddywedyd, Os ydych wedi barnu fy mod i yn gredadyn#16:15 Llyth: yn grediniol i'r Arglwydd. Yn awr y daeth i wybod am Grist ac y credodd ynddo fel ei Harglwydd. Ni feddyliai gymaint am ffyddlondeb â ffydd. yn yr Arglwydd, deuwch i mewn i'm tŷ, ac aroswch. A hi a'n cymhellodd#16:15 Felly yn Luc 24:29; 1 Sam 28:23. Y mae yma ‘orfodaeth caredigrwydd.’ yn daer.
Paul a'r ddewines, 16–18.
16A bu, fel yr oeddem yn myned i'r Lle Gweddi, i ryw lances, a chanddi yspryd dewiniaeth#16:16 llyth: yspryd Python. Mewn chwedloniaeth Roegaidd, Python oedd enw y Sarph oedd yn Pytho, wrth droed Parnassus, yn Phocis, yr hon a warcheidwodd yr Oracl yn Delphi, ac yn y diwedd a laddwyd gan Apollo. Aeth yspryd y Sarph i Apollo, a gelwid yr Oracl ar ol hyn yn Oracl Apollo. Yr oedd y lle hwn yn fyd‐enwog, a gwnai brenhinoedd a chadfridogion ymgynghori a'r Oracl cyn ymgymeryd a gorchwylion pwysig. Yr oedd atebion yr offeiriades, fel yr eisteddai ar yr ystol deir‐troed, yn amwys, ac felly yr oedd yn anhawdd profi eu bod yn anghywir, pa beth bynag oedd y canlyniadau. Y mae ‘yspryd aflan’ yr Efengylau wedi myned yn ‘Yspryd Python’ (‘dewiniaeth’) yn yr Actau. Yr oedd y lances druenus wedi ei meddianu. Yr oedd Sarph Delphi yr un a hen Sarph Eden, ac wrth yr un gwaith o dwyllo; ac nid addoli eilunod (‘nid oes eilun yn y byd,’ Paul) oedd y cenhedloedd, ond addoli Cythreuliaid, 1 Cor 10:20. Felly nid yw Apollo yn well nag Apollyon (Dad 9:11). Yn Philippi, y mae Paul wyneb yn wyneb a gelyniaeth yr Hen Sarph yn Ewrop. Y mae y Diafol yn Feistr ar ‘feistriaid’ y llances, ac y mae yn cynhyrfu y Cenhedl‐ddyn i erlid ‘Had y wraig’ a'i weision. Y mae yr hanes hwn ar diriad Paul yn Ewrop yn hynod o arwyddocâol. Dywedir fod y llances yn folebwraig (ventriloquist). Defnyddir y gair puthón weithiau am folebrwr., gyfarfod a ni; yr hon a ddygai elw mawr i'w meistriaid trwy ddewinio#16:16 manteuomai, y gair paganaidd am brophwydo, llefaru oraclau. Daw o mainomai, bod yn gynddeiriog, allan o gof, bod yn ynfyd, fel y tybid yr effeithiai y tarth a gyfodai o'r hollt yn Delphi ar feddwl y Pythones.. 17Hon, gan ddylyn Paul a ninau, a lefodd allan, gan ddywedyd#16:17 Hyn oedd gwaith yr yspryd drwg ynddi. Adgofir ni o eiriau y Cythreulig yn Marc 5:7; Luc 8:28, ‘Iesu, Mab y Duw Goruchaf.’ Gweler hefyd Marc 1:24; 3:11. Y mae y Diafol yn dyfod yn rhith Angel Goleuni. Y mae yn dywedyd y gwir er mwyn parotoi y ffordd i dderbyn ei gelwydd. Rhagrithia am foment er mwyn dinystrio am byth., Y dynion hyn ydynt weision y Duw Goruchaf, y rhai sydd yn mynegu i chwi#16:17 chwi א B D E Brnd. ond La. Al.; i mi A La. Al. ffordd Iachawdwriaeth. 18A hyn hi a wnaeth dros ddyddiau lawer. Ond Paul, wedi ei flino#16:18 Yr un ferf ag yn 4:2. Yr oedd y Saduceaid wedi eu ‘blino allan’ gan ddysgeidiaeth yr Apostolion; felly yr oedd Paul mewn poen a blinder meddwl wrth weled y llances druenus, ac yn enwedig wrth glywed yr yspryd drwg yn llefaru pethau da. Y Diafol yn ceryddu pechod ac yn canmol Duw a'i Saint yw y weithred atgasaf yn ngolwg yr ystyriol. Y mae y Diafol yn canmol yr Eglwys er iddo gael ei ffordd ei hun yn y byd. Yr oedd wedi canmol y gweision a chanmol Duw, ond wedi anwybyddu Iesu Grist; ond dyg Paul ei Feistr i'r amlwg, a llefara yn awdurdodol yn ei enw. allan, a drodd, ac a ddywedodd wrth yr yspryd, Yr wyf yn gorchymyn i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan o honi. Ac efe a ddaeth allan yr awr hono.
Y Carchar a'r Canu: Y Daeargryn a'r Droedigaeth, 19–34.
19A'i meistriaid hi yn gweled fyned gobaith eu helw#16:19 elw, enill, yr hyn a geir trwy gyfrwystra neu dwyll, trwy foddion anonest. hwynt ymaith#16:19 llyth: a aeth allan; pan aeth yr yspryd drwg allan o'r ferch, aeth eu helw hwythau allan. Y Diafol oedd eu ffortiwn., a ddaliasant Paul a Silas, ac a'u llusgasant i'r farchnadfa#16:19 y Fforum, fel yn Rhufain, lle yr oedd y llysoedd. o flaen penaethiaid#16:19 Sef y llywodraethwyr lleol, ynadon.; 20a phan ddygasant hwynt at y llywodraethwyr#16:20 stratêgoi, yr enw Groegaidd am y Lladin Praetor. Yma, y ddau bri swyddog neu lywodraethwr Rhufeinig, y duumviri, fel y ddau Gonsul yn Rhufain. Yr oedd y rhai hyn yn hoff o alw eu hunain yn Pretoriaid. Yr oeddent yn meddu gallu milwrol. milwrol, hwy a ddywedasant, Y dynion hyn sydd yn llwyr‐gythryblu ein dinas, a hwy yn Iuddewon#16:20 Yr oedd yr Iuddewon yr amser hyn yn anmhoblogaidd iawn. Yr oeddent wedi eu halltudio o Rufain gan Tiberius, ac ychydig amser cyn hyny gan Claudius. Felly erlidiwyd Paul a'i gymdeithion gan yr Iuddewon am eu bod yn Gristionogion, a chan y Cenhedloedd am eu bod yn Iuddewon., 21a chyhoeddasant ddefodau#16:21 Neu, arferiadau., y rhai nid yw gyfreithlon i ni eu derbyn a'u gwneuthur, a ni yn Rufeinwyr#16:21 gan fod Philippi yn drefedigaeth Rufeinig. Yr oedd Rhufain gynt yn erbyn Paul, felly y mae Rhufain heddyw.. 22A'r dyrfa a safodd#16:22 gan ddynodi sydynrwydd. i fyny ynghyd yn eu herbyn: a'r llywodraethwyr milwrol, gan rwygo#16:22 llyth: rhwygo oddiamgylch. Yr oedd yn arferiad cyn fflangellu i'r ynadon i roddi gorchymyn i'r rhingyllwyr (lictors) i rwygo dillad y cyhuddedig, er mwyn dynoethi y cnawd, fel y byddai y fflangelliad yn fwy effeithiol. eu dillad hwynt, a orchymynasant eu curo hwy â gwiâil#16:22 Dywed Paul, 2 Cor 11:25 ‘Tair gwaith y'm curwyd â gwiail.’ Ni chawn hanes am y ddau dro arall.. 23Ac wedi rhoddi arnynt lawer#16:23 Yr oedd Cyfraith Moses yn fwy ystyriol (Deut 25:3). Nid oedd rhif penodedig yn neddf‐lyfr y Rhufeiniwr. o wialenodiau hwy a'u bwriasant i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwynt yn ddyogel: 24yr hwn wedi derbyn y fath orchymyn, a'u bwriodd i'r carchar nesaf i mewn#16:24 Rhyw ddyfngell neu ffau dywyll ac afiach. Yr oedd carcharau y Rhufeiniaid yn ddiarebol am eu haflaneiddiwch a'u hechryslonedd., ac a wnaeth eu traed yn sicr yn y cyffion#16:24 a wnaed o bren gyda phum twll, i'r pen, a'r dwylaw, a'r traed. Defnyddid y cyffion nid yn unig er mwyn cadw y carcharorion yn ddyogel, ond hefyd fel offeryn poenydiaeth. Gweler cyfeiriad Paul at ei ddyoddefiadau, Phil 1:29–30. Gosodwyd yr enwog Origen yn y cyffion am ddyddiau (Eusebius 6, 39).. 25A thua haner nos#16:25 Y mae haner nos trallod yn haner dydd gorfoledd. Y maent yn llawenhau mewn gorthrymderau (Rhuf 5:3; 2 Cor 12:10). Y mae y carchar nesaf i mewn yn gysegr sancteiddiolaf. ‘Y mae y traed yn y cyffion, ond y galon yn y nefoedd.’ Y mae y traed yn rhwym, ond y tafod yn rhydd. Y mae y carchar, a'r cyffion, a'r cleisiau, yn dri tant yn nhelyn deir‐res gweision Duw. Y maent yn gorwedd, fel y galwodd y llances hwynt, ‘yn gaethweision Duw,’ ond ar yr un pryd y maent yn sefyll yn rhyddid gogoniant plant Duw. Y mae gan Dduw amrywiol ffyrdd i gysuro ei weision. Y mae Petr yn gallu cysgu (12:6), a Paul a Silas yn gallu canu. Yn achos un, ‘efe a rydd gwsg i'w anwylyd,’ yn y llall ‘Efe a rydd ganiadau yn y nos.’ Nid oeddent yn gweddio yn gyntaf ac yna yn canu; ond yr oedd eu gweddi yn gân; ‘tra yn gweddio yr oeddent yn canu!’ Gweddi ar gân yw y ffurf aruchelaf. Deisyfiad yn tanio yn fawl yw miwsig penaf y ddaear, ac a wna sodlau muriau'r carchar i guro [encoro] am ragor. Ond y mae gweddi yn eangach na deisyfiad. Cynwysa yr oll o addoliad. Y mae llawer o weddïau heb air o ddeisyfiad; megys rhai o weddïau Dafydd, mab Jesse, gweddi aruchel Habacuc, &c., Paul a Silas pan yn gweddio a ganent hymnau i Dduw, a'r carcharorion oeddent yn gwrando#16:25 epakraomai [yma yn unig yn y T.N.], gwrando yn astud a chyda phleser. Yr oeddent yn llawn syndod ac edmygedd. Ni chlywyd y fath beth o fewn y muriau. Yr oedd y carchar wedi myned yn gyngherddfa. Efallai mai un o Salmau Dafydd oeddent yn ei ganu (17eg neu 86ain?). Yr oedd Deuawd Philippi mor beroriaethus ag Anthem ‘y Cor Mawr’ uwch maesydd Bethlehem. arnynt; 26ac yn ddisymwth#16:26 aphnô, annisgwyliadwy, sydyn, (gweler Luc 21:34; 1 Thess 5:3)., y bu daear‐gryn#16:26 llyth: ysgydwad, (tymhestl, Mat 8:24). Siglwyd y lle yr oedd yr Apostolion yn gweddio (4:31), felly yma y mae swn cerbyd Duw i'w glywed fel y mae yn dyfod i ryddhau ei weision. Bu daeargryn yn B.H. 53, a dyoddefodd Apamea yn ddirfawr. mawr, fel y siglwyd sylfaeni y carchardy#16:26 phulakê (ad 24), gwyliadwriaeth, yna, carchar; yma desmotêrion, carchardy., ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a ryddhawyd#16:26 aniêmi, danfon yn ol, llaesu. Yr oedd cadwyni yn sicr yn y muriau, wrth y rhai y rhwymid y carcharorion. Ni wna dim siglo a gwaghau carcharau fel Cristionogaeth. Un o amcanion mawr Crist oedd gollwng y caeth yn rhydd. Gwlad Gristionogol yw gwlad ‘y menyg gwynion.’. 27A cheidwad y carchar wedi deffro#16:27 llyth: wedi dyfod. o gwsg, a gweled drysau y carchar wedi eu hagoryd, wedi tynu ei gleddyf#16:27 Mewn Trefedigaethau Rhufeinig o'r fath, hen filwr fel rheol oedd ceidwad y carchar. Os diangai y carcharorion, yr oedd cosp y ceidwad yn llym, sef yr hon oedd yn aros y condemniedig. Lladdodd Herod geidwaid neu wylwyr Petr, 12:19. Gweler hefyd 27:42. Ni ystyrid hunan‐laddiad gan y Rhufeiniaid yn drosedd. Yr oedd Cato fawr wedi ei argymhell, mewn rhai achosion, fel dyledswydd. Yn nghymydogaeth Philippi yr oedd Brutus a Cassius enwog wedi cyflawni hunan‐laddiad ar ol eu gorchfygiad. Cristionogaeth sydd wedi dysgu y wers o werthfawredd, cyfrifoldeb, a chysegredigrwydd bywyd. Yr oedd y ceidwad wedi cysgu trwy y weddi a'r mawl; ac y mae yn rhaid i droed yr Arglwydd ddisgyn yn drwm cyn ei ddihuno., yr oedd efe ar fedr lladd ei hun, gan dybied fod y carcharorion wedi ffoi. 28Eithr Paul a lefodd â llef uchel#16:28 Daeth Paul rywfodd i wybod ei fwriad. Gwaeddai gan ddychryn, ac efallai iddo wneyd yn hysbys, yn ei anobaith, beth oedd ar fedr ei wneyd., gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed#16:28 Y mae Cristionogaeth y mwyaf gofalus o'r bywyd sydd yr awrhon, gan ei bod wedi taflu goleuni llachar ar y bywyd sydd i ddyfod. Ei dymuniad ar bawb ydyw, ‘Na wna i ti dy hun ddim niwed’ (llyth: drwg). Ni all neb niweidio dyn ond efe ei hun.; canys yr ydym ni oll yma#16:28 Yr oedd y ffaith fod y carcharorion oll wedi aros yn gymaint o syndod i'r ceidwad a bod y carchar wedi crynu, a'r drysau wedi agoryd.. 29Ac wedi galw am oleu#16:29 llyth: oleuadau, megys llusernau, ffaglau. Yr oedd am wneyd archwiliad trwyadl trwy gymhorth eraill., efe a neidiodd i mewn#16:29 Gwel 14:14, a than grynu#16:29 llyth: a than fyned yn grynedig. Gweler 7:32 efe a syrthiodd#16:29 fel un dinerth ‘efe a syrthiodd ar draws, at,’ gymaint oedd ei ddychryn. Aeth i grynu yn fwy na'r carchar. i lawr gerbron Paul a Silas, 30ac a'u harweiniodd hwynt y tu allan#16:30 i'r carchar nesaf i mewn., ac a ddywedodd, O Feistriaid#16:30 llyth: O Arglwyddi, teitl o barch. Yr oedd y ‘Carchar nesaf i mewn’ yn ‘Dy yr Arglwyddi.’, beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig#16:30 Yr oedd Paul a Silas wedi bod am amryw ddyddiau yn Philippi, ac wedi gwneyd defnydd da o'u hamser, gan draethu am ‘Ffordd Iachawdwriaeth’ yn mhob man. Syrthiodd peth o'r hâd da ar fîn y ffordd, lle yr oedd y tir yn galed ond yn dda. Yr oedd y Ceidwad wedi clywed am eu gwaith a'u cenadwri, neu, a gafodd ei wybodaeth oddiwrth y llances, yr hon oedd yn cyhoeddi eu bod yn mynegu ‘ffordd iachawdwriaeth.’? 31A hwy a ddywedasant#16:31 Yr oeddent wedi canu gyda'u gilydd, y maent yn awr yn cyd‐lefaru, ac amy cyntaf. Y mae y gair yn wir yn ngenau dau o dystion., Cred yn#16:31 llyth: ar, gan bwyso arno. Yr oedd sylfaeni ei garchar wedi eu siglo. Rhaid iddo ef orphwys ar y sylfaen ansigledig. yr Arglwydd#16:31 Nid oeddent hwy yn Arglwyddiaid, ond yr oedd un. Cawn yma Un Arglwydd, Iesu; un ffydd, Cred; un bedydd; yr Efengyl dragywyddol mewn ychydig o eiriau. Iesu#16:31 Grist: gad. א A B Brnd., a chadwedig fyddi di a'th dŷ#16:31 Nid oedd ei ffydd ef yn achub ei deulu; ond yr oedd cadwedigaeth i'w sicrhau ganddynt oll ar yr un amod. Yr oedd iachawdwriaeth iddynt drwy ymarfer ffydd yn yr un Gwaredwr. Ond y mae cael y pen‐teulu i gredu yn Nghrist yn gymhorth trwy fod yn esiampl i'r lleill. Bu bron a dinystrio ei hun, ond yn awr achubir ef a'i deulu.. 32A hwy a lefarasant wrtho Air yr Arglwydd, ynghyd#16:32 ynghyd א A B C D Brnd. a phawb oedd yn ei dŷ#16:32 Yr oeddent oll yn wrandawyr ewyllysgar ac astud.. 33Ac efe a'u cymerodd hwy gydag#16:33 Gwnaeth eu gyru i fewn, ond arweinia hwynt allan. ef yr awr hono#16:33 Canol nos, yn gwahanu dau ddiwrnod, yn gorphen yr hen fywyd paganaidd ac anystyriol, ac yn dechreu boreu ‘cyfiawnhâd’ trwy ffydd. o'r nos, ac a olchodd#16:33 llyth: ac a'u golchodd oddiwrth eu briwiau. Golyga louô olchi yr holl gorph (9:37; Heb 10:23; 2 Petr 2:22), a niptô olchi rhan o hono (Mat 6:17; Marc 7:3; Ioan 13:5). Yr oedd digon o gyfleusterau yn nghynteddoedd y carchar iddynt gael eu baddo yn gyfangwbl. Y mae yma ddau olchi. Golchodd efe y gwaed o'u briwiau, a chafodd yntau olchi ei bechodau trwy y Gwaed. Y mae yn naturiol i gredu i'r ddwy weithred gael eu cyflawnu yn yr un man. Gwnaeth efe gymwynas a'u cyrph, a hwythau a'i enaid. Golchodd ef y ddau, bedyddiasant hwythau yr oll, canys yr oeddent oll wedi gwrandaw a chredu (ad 34). eu briwiau hwynt; ac efe a fedyddiwyd, a'r eiddo oll, yn ebrwydd. 34Hefyd, efe a'u harweiniodd hwy i fyny i'w dŷ, ac a osododd fwyd#16:34 llyth: fwrdd. ger eu bron, ac a orfoleddodd#16:34 agalliaomai, llyth: dawnsio yn egniol, y llawenydd tufewnol yn tori allan mewn gorfoledd. gyda'i holl dŷ, gan eu bod wedi credu yn Nuw.
Paul a Silas yn hawlio eu hiawnderau fel dinasyddion Rhufeinig, ac yn ymadael o Philippi, 35–40.
35A'r dydd wedi dyfod, y llywodraethwyr milwrol a anfonasant y rhingyllwyr#16:35 Swyddogion y Pretoriaid, y rhai a gyflawnent eu gorchymynion, gan ddwyn gwiail fel arwyddlun o'i swydd, ac fel yn anghenrheidiol i'w swydd, felly gelwid hwy yn y Groeg, rabdouchoi, dygwyr gwiail, ac yn Lladin, lictores. Yr oeddent yn gyffelyb i'r rhai sydd yn gweinu ar ein barnwyr ar yr adeg y cynhelir y llysoedd., gan ddywedyd, Gollwng yn rhyddion y dynion hyn#16:35 Efallai eu bod wedi clywed am y daeargryn a'i ganlyniadau, neu yn teimlo eu bod wedi ymddwyn yn anghyfiawn. Y mae yn amlwg eu bod yn ofnus, er y defnyddiant iaith ddirmygus.. 36A Cheidwad y Carchar a fynegodd y geiriau wrth#16:36 hyn א A E Ti. Al.; gad. B C D Brnd. eraill. Paul, Danfonodd y Llywodraethwyr milwrol am eich gollwng yn rhyddion: yn awr gan hyny, wedi myned allan, ewch mewn heddwch. 37Eithr Paul a ddywedodd wrthynt#16:37 wrth y rhingyllwyr., Y maent wedi ein fflangellu#16:37 Derô, curo yn llym, codi'r croen, blingo. yn gyhoeddus, heb ein heuog‐farnu, a ninau yn Rufeinwyr#16:37 Y mae y Pretoriaid wedi methu yn eu dyledswydd, (1) trwy eu curo cyn eu profi yn euog, (2) trwy guro Rhufeinwyr, yr hyn oedd anghyfreithlon. Yr oedd Paul wedi meddianu ei iawnderau oddiwrth ei henafgwyr (22:29; cymharer 21:39; a 22:24) efallai Silas yn yr un modd. Yr oedd y Lex Valeria (500 cyn Crist) yn deddfu nad oedd unrhyw ddinesydd Iuddewig i gael ei guro â gwiail, neu ei fflangellu; ac yr oedd y Lex Porcia (248 cyn Crist) nad oedd hyn i gymeryd lle o flaen unrhyw lys Rhufeinig. Y mae gan Paul dri cyhuddiad yn eu herbyn, (1) eu cospi cyn eu profi, (2) eu fflangellu yn groes i'r gyfraith, (3) eu bwrw allan yn ddirmygus., a bwriasant ni i garchar; ac yn awr, a ydynt yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond bydded iddynt ddyfod eu hunain, a'n dwyn ni allan. 38A'r rhingyllwyr a fynegasant i'r Llywodraethwyr milwrol y geiriau hyn, a hwy a ofnasant pan glywsant, Rhufeinwyr ydynt#16:38 Geiriau y rhingyllwyr wrth y Llywodraethwyr.; 39a hwy a ddaethant ac a ddeisyfasant#16:39 Y mae gormeswyr yn ddynion llwfr. arnynt; ac wedi eu harwain allan, gofynasant iddynt fyned#16:39 fyned ymaith א A B Brnd.; fyned allan E. ymaith o'r ddinas. 40Ac wedi myned allan o'r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia#16:40 Nid oeddent mewn brys i ymadael. Yr oeddent am gyflawnu eu gwaith yn drylwyr. Gwarafunodd yr Yspryd i Paul bregethu yn Asia, ond un oddiyno oedd y dysgybl cyntaf a enillodd, ac yn ei throedigaeth cyfunodd Ewrop ac Asia.; ac wedi iddynt weled y brodyr#16:40 blaenffrwyth y ffydd ar y Cyfandir; a pharhasant yn ffyddlon. Teimlai Paul ar ol hyn ei fod yn fwy dan rwymedigaeth i'r Philippiaid nag i neb eraill (2 Cor 11:9; Phil 4:10–18). Yr oeddent yn llawn o ffydd a chariad (Phil 1:5, 6, 7)., hwy a'u calonogasant, ac a aethant allan#16:40 Y mae yn debygol i Luc aros yma, ‘hwy a aethant allan.’ Cyfarfu a Paul ar ol hyn yn Troas (20:6) yn mhen tua chwe' blynedd ar ol hyn. Aeth Timotheus gyda hwynt..

Dewis Presennol:

Actau 16: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda