A cheidwad y carchar wedi deffro o gwsg, a gweled drysau y carchar wedi eu hagoryd, wedi tynu ei gleddyf, yr oedd efe ar fedr lladd ei hun, gan dybied fod y carcharorion wedi ffoi. Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni oll yma.