Actau 16:25-26
Actau 16:25-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Tua hanner nos roedd Paul a Silas wrthi’n gweddïo ac yn canu emynau o fawl, ac roedd y carcharorion eraill i gyd yn gwrando. Yna’n sydyn dyma ddaeargryn mawr yn ysgwyd y carchar i’w sylfeini. Dyma’r drysau i gyd yn agor, a’r cadwyni yn disgyn i ffwrdd oddi ar bawb!
Rhanna
Darllen Actau 16Actau 16:25-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Tua hanner nos, yr oedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, a'r carcharorion yn gwrando arnynt. Ac yn sydyn bu daeargryn mawr, nes siglo seiliau'r carchar. Agorwyd yr holl ddrysau ar unwaith, a datodwyd rhwymau pawb.
Rhanna
Darllen Actau 16Actau 16:25-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ar hanner nos Paul a Silas oedd yn gweddïo, ac yn canu mawl i Dduw: a’r carcharorion a’u clywsant hwy. Ac yn ddisymwth y bu daeargryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau’r carchar: ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion.
Rhanna
Darllen Actau 16