Os rhoddodd Duw, gan hyny, y gyffelyb rodd iddynt hwy ag i ninau hefyd y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, Myfi, pwy oeddwn i? A oeddwn alluog i luddias Duw? Ac wedi clywed y pethau hyn, hwy a ymdawelasant, ac a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Ac felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch i fywyd.