Actau 11:23-24
Actau 11:23-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan gyrhaeddodd yno gwelodd yn glir fod Duw ar waith. Roedd wrth ei fodd, ac yn annog y rhai oedd wedi credu i aros yn ffyddlon i’r Arglwydd a rhoi eu hunain yn llwyr iddo. Roedd Barnabas yn ddyn da, yn llawn o’r Ysbryd Glân ac yn credu’n gryf, a chafodd nifer fawr o bobl eu harwain ganddo at yr Arglwydd.
Actau 11:23-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi iddo gyrraedd, a gweld gras Duw, yr oedd yn llawen, a bu'n annog pawb i lynu wrth yr Arglwydd o wir fwriad calon; achos yr oedd yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd. A chwanegwyd tyrfa niferus i'r Arglwydd.
Actau 11:23-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn pan ddaeth, a gweled gras Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyrfryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd. Oblegid yr oedd efe yn ŵr da, ac yn llawn o’r Ysbryd Glân, ac o ffydd: a llawer o bobl a chwanegwyd i’r Arglwydd.