Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 11

11
Adroddiad Pedr i'r Eglwys yn Jerwsalem
1Clywodd yr apostolion a'r credinwyr yn Jwdea fod y Cenhedloedd hefyd wedi derbyn gair Duw. 2Pan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, dechreuodd plaid yr enwaediad ddadlau ag ef, 3a dweud, “Buost yn ymweld â dynion dienwaededig, ac yn cydfwyta gyda hwy.” 4Dechreuodd Pedr adrodd yr hanes wrthynt yn ei drefn. 5“Yr oeddwn i,” meddai, “yn nhref Jopa yn gweddïo, a gwelais mewn llesmair weledigaeth: yr oedd rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng o'r nef wrth bedair congl, a daeth hyd ataf. 6Syllais i mewn iddi a cheisio amgyffred; gwelais anifeiliaid y ddaear a'r bwystfilod a'r ymlusgiaid ac adar yr awyr. 7A chlywais lais yn dweud wrthyf, ‘Cod, Pedr, lladd a bwyta.’ 8Ond dywedais, ‘Na, na, Arglwydd; nid aeth dim halogedig neu aflan erioed i'm genau.’ 9Atebodd llais o'r nef eilwaith, ‘Yr hyn y mae Duw wedi ei lanhau, paid ti â'i alw'n halogedig.’ 10Digwyddodd hyn deirgwaith, ac yna tynnwyd y cyfan i fyny yn ôl i'r nef. 11Ac yn union dyma dri dyn yn dod ac yn sefyll wrth y tŷ lle'r oeddem#11:11 Yn ôl darlleniad arall, oeddwn., wedi eu hanfon ataf o Gesarea. 12A dywedodd yr Ysbryd wrthyf am fynd gyda hwy heb amau dim. Daeth y chwe brawd hyn gyda mi, ac aethom i mewn i dŷ'r dyn hwnnw. 13Mynegodd yntau i ni fel yr oedd wedi gweld yr angel yn sefyll yn ei dŷ ac yn dweud, ‘Anfon i Jopa i gyrchu Simon, a gyfenwir Pedr; 14fe lefara ef eiriau wrthyt, a thrwyddynt hwy achubir di a'th holl deulu.’ 15Ac nid cynt y dechreuais lefaru nag y syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt hwy fel yr oedd wedi syrthio arnom ninnau ar y cyntaf. 16Cofiais air yr Arglwydd, fel yr oedd wedi dweud, ‘Â dŵr y bedyddiodd Ioan, ond fe'ch bedyddir chwi â'r Ysbryd Glân.’ 17Os rhoddodd Duw, ynteu, yr un rhodd iddynt hwy ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i allu rhwystro Duw?” 18Ac wedi iddynt glywed hyn, fe dawsant, a gogoneddu Duw gan ddweud, “Felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch a rydd fywyd.”
Yr Eglwys yn Antiochia
19Yn awr yr oedd y rhai a wasgarwyd oherwydd yr erlid a gododd o achos Steffan wedi teithio cyn belled â Phoenicia a Cyprus ac Antiochia, heb lefaru'r gair wrth neb ond Iddewon yn unig. 20Ond yr oedd rhai ohonynt yn bobl o Cyprus a Cyrene a dechreusant hwy, wedi iddynt ddod i Antiochia, lefaru wrth y Groegiaid#11:20 Yn ôl darlleniad arall, yr Helenistiaid. hefyd, gan gyhoeddi'r newydd da am yr Arglwydd Iesu. 21Yr oedd llaw'r Arglwydd gyda hwy, a mawr oedd y nifer a ddaeth i gredu a throi at yr Arglwydd. 22Daeth yr hanes amdanynt i glustiau'r eglwys oedd yn Jerwsalem ac anfonasant Barnabas allan i fynd i Antiochia. 23Wedi iddo gyrraedd, a gweld gras Duw, yr oedd yn llawen, a bu'n annog pawb i lynu wrth yr Arglwydd o wir fwriad calon; 24achos yr oedd yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd. A chwanegwyd tyrfa niferus i'r Arglwydd. 25Yna fe aeth ymaith i Darsus i geisio Saul, ac wedi ei gael daeth ag ef i Antiochia. 26Am flwyddyn gyfan cawsant gydymgynnull gyda'r eglwys a dysgu tyrfa niferus; ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion yr enw Cristionogion gyntaf.
27Yn y dyddiau hynny daeth proffwydi i lawr o Jerwsalem i Antiochia, 28a chododd un ohonynt, o'r enw Agabus, a rhoi arwydd trwy'r Ysbryd fod newyn mawr ar ddod dros yr holl fyd; ac felly y bu yn amser Clawdius. 29Penderfynodd pob un o'r disgyblion gyfrannu, yn ôl fel y gallai fforddio, at gynhaliaeth eu cydgredinwyr oedd yn trigo yn Jwdea. 30Gwnaethant hynny, ac anfon eu cyfraniad at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul.

Dewis Presennol:

Actau 11: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd