Ac Ananias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i'r ty, a chan ddodi ei ddwylaw arno, a ddywedodd, Frawd Saul, y mae yr Arglwydd wedi fy anfon i, sef Iesu, yr hwn a ymddangosodd i ti yn y ffordd y daethost, fel y gweli drachefn, ac y'th lanwer â'r Yspryd Glân. Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddiwrth ei lygaid ef megys cèn, ac efe a welodd drachefn; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd