A dywedodd yr Yspryd wrth Philip, Dos at a glyn wrth y cerbyd hwn. A Philip a redodd ato, ac a'i clywodd ef yn darllen Esaiah y Prophwyd, ac a ddywedodd, A wyt ti o gwbl yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen? Ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddi eithr i rywun fy nghyfarwyddo i? ac efe a wahoddodd Philip i fyned i fyny ac eistedd gydag ef.