Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 8

8
Erledigaeth yn gwasgaru yr Hâd, 1–4.
1A#8:1 Dylai y frawddeg hon gael ei chyplysu ag adnod olaf, 7. Saul oedd yn cydsynio#8:1 suneudokeô, teimlo boddineb ynghyd, cymeradwyo, cytuno. i'w ladd ef#8:1 anairesis, y weithred o gymeryd ymaith, llaad, llofruddio. ‘A phan dywalltwyd gwaed Stephan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll ger llaw ac yn cydsynio i'w ladd ef’ 22:20.. A bu y dydd#8:1 Nid ‘yn y tymhor hwnw,’ ond torodd allan erledigaeth y diwrnod y llabyddiwyd Stephan. Defnyddir ‘y dydd hwnw’ am gyfnod yn yr Hen Destament, ond ni cheir enghraifft o hyny yn y T. N. Yr oedd y bobl wedi ymgynddeiriogi, ac wedi dechreu tywallt gwaed rhuthrasant yn ynfyd yn mlaen. hwnw erlid mawr ar yr Eglwys oedd yn Jerusalem; a phawb#8:1 Iaith gyffredin am ‘lawer,’ ‘y mwyrif.’ a wasgarwyd ar hyd gwledydd Judea a Samaria, oddi gerth yr Apostolion#8:1 Fel yr arosasant yn Jerusalem ar ol Esgyniad Crist, teimlasant eu bod yn ddyledswydd arnynt i aros ar ol tywalltiad yr Yspryd. Rhaid oedd iddynt ddal yn gryf, a pheidio gollwng gafael ar ganol‐fan yr Eglwys ieuanc. Yn ol hen draddodiad yr oedd yr Apostolion, yn ol gorchymyn Crist, i aros yn Jerusalem am ddeuddeg mlynedd. Rhaid i'r cadben oedd aros yn y llong, er gofalu am y llyw.. 2A gwyr duwiol‐frydig#8:2 Gwel 2:5 Efallai Iuddewon duwiol yn ogystal a Christionogion. a hebryngasant#8:2 sunkomizô, dwyn ynghyd, casglu [megys yr yd yn amser cynhauaf], dwyn gydag eraill. Cynorthwyo i ddwyn allan [y meirw i'w claddu]. Yr oedd y Cristionogion cyntefig yn rhoddi pwys mawr ar gladdu ac ar dalu parch i'r marw, e.g. Ananias, Dorcas (9:37). Yn yr Amherodraeth Rufeinig, cyn dyfodiad Cristionogaeth llosgid y corph, a chedwid ychydig o'r lludw mewn celwrn. Y mae cysegredigrwydd mynwentydd yn ddyledus iddi. Y mae y waedd am losgi y corph yn lle ei gladdu yn groes i'w hyspryd. Cysegrodd a phurodd Iesu'r bedd. Gofaler na ddiystyrer y corph. Stephan i'w fedd, ac a wnaethant alar mawr#8:2 llyth: curo dwyfron. am dano ef. 3Eithr Saul oedd yn anrheithio#8:3 lumainomai, gosod sarhâd ar, llygru; trin yn gywilyddus, dystrywio, anrheithio [fel badd gwyllt yn anrheithio gwinllan, Salm 53:13]. yr Eglwys, gan fyned i mewn i bob ty, a chan lusgo#8:3 Nid yn unig yn ffugyrol ond yn llythyrenol. allan wyr a gwragedd#8:3 Y mae gwragedd yn mhob oes wedi bod yn flaenllaw mewn gwroldeb a dyoddefgarwch gyda chrefydd., efe a'u traddododd i garchar. 4Y rhai a wasgarwyd, gan hyny, a dramwyasant, gan bregethu y Gair.
Llwyddiant yn Samaria: Philip a Simon, 5–13.
5A Philip#8:5 Nid Philip yr Apostol, ond Philip y Diacon neu Efengylydd (21:8). Yr oedd yr Apostol yn Jerusalem. Pe Philip yr Apostol oedd hwn, ni fuasai angen i Petr ac Ioan fyned i waered i Samaria i gadarnhau y credinwyr fel y derbynient yr Yspryd Glân. a aeth i waered i Ddinas Samaria#8:5 Gesyd א A B tên, i'r, o flaen dinas, a gadewir y gair allan gan CD. Golyga rhai mai ‘i ddinas yn perthyn i Samaria’ yw yr ystyr, tra y golygai Dinas Samaria, sef prif‐ddinas tiriogaeth Samaria, yn ol eraill. Rhai a ddywedant mai Sichem oedd (neu Sychar) lle y bu Crist (Ioan 4) ac y credodd lliaws ynddo. Ond tebygol mai Dinas Samaria a olygir. Yr oedd y Samariaid yn disgwyl y Messia, nid fel brenhin tymhorol fel yr Iuddewon, ond fel arweinydd ysbrydol, fel prophwyd (Ioan 4:25). Aeth Philip yn ol cyfarwyddid Crist: dywedodd y byddai yr Efengyl gael ei phregethu yn Judea a Samaria, &c., ac a bregethodd#8:5 Yn ad 4 cawn euanggelizomai, pregethu y Gair fel newydd da, sylwedd yr Efengyl; yma kérussô, cyhoeddi, gan gyfeirio at y pregethwr fel cenad i gyhoeddi yn uchel ac ar led. iddynt y Crist. 6A'r tyrfaoedd yn unfryd a dalasant sylw i'r pethau a ddywedid gan Philip, pan yn clywed a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur. 7Canys llawer o'r rhai a berchenogid gan#8:7 Llyth: a chanddynt ysprydion, &c. ysprydion aflan#8:7 Defnyddia Luc daimonia, cythreuliaid, yn fwy mynych yn ei Efengyl nag un o'r Efengylwyr eraill; ond ni ddefnyddia'r gair yn yr Actau. Meddylia Bengel fod gallu y rhai hyn yn llai wedi marwolaeth Crist. (y rhai gan waeddu â llef uchel, a ddaethant allan), a llawer o'r rhai oedd wedi eu parlysu#8:7 paralelumenoi. Defnyddia Mathew paralutikoi yn yr un ystyr., ac o'r cloffion, a iachawyd. 8Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas hono.
9Eithr rhyw wr o'r enw Simon#8:9 Barna rhai mai yr un oedd hwn a'r Simon a enwir gan Josephus, yr hwn a ddarbwyllodd Drusilla i adael ei gwr Azizus, brenhin Emesa, ac ymbriodi a Ffelix. Ond yr oedd yspaid o ugain mlynedd rhwng yr hanes hwn a'r dygwyddiad hyny. Gelwir ef yn gyffredin Simon Magus. Dywed Justin Ferthyr iddo fyned i Rufain lle y cyflawnodd lawer o wyrthiau. Nid oes sail i'r traddodiadau hyn. oedd o'r blaen yn y ddinas yn swyno#8:9 mageuon [yma yn unig yn y T. N.] Yr oedd llawer o swyn‐gyfareddwyr a thwyllwyr yn y Dwyrain yn yr Oes Apostolaidd, a chefnogid hwy gan y disgwyliad cyffredinol am ddyfodiad rhyw Un Mawr. Yr oedd y dynion hyn yn ddysgedig yn y cudd‐wybodau (occult arts) ac yn gallu twyllo y werinos. Yr oedd rhai yn deall fferylliaeth; eraill a ddarostyngent seryddiaeth i ser‐ddewiniaeth. ac yn synu#8:9 existôn (nid hudo), creu syndod, dyrysu, dychrynu. pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhyw Un Mawr; 10i'r hwn yr oedd pawb, o fychan hyd fawr, yn talu sylw, gan ddywedyd, Hwn yw Gallu Duw yr#8:10 a elwir א A B C D Brnd. hwn a elwir Mawr#8:10 Yr oedd ar led grediniaeth fod rhai o'r priodoleddau neu Alluoedd Dwyfol yn ymgorphoredig mewn personau. Yr oedd y bobl yn credu fod Mawredd Duw yn ymgartrefu yn Simon. Fel y daeth y Gair yn gnawd, y Mawredd Dwyfol a ymddangosodd yn Simon. Dywed rhai ysgrifenwyr boreuol ei fod yn honi mai efe oedd y Logos, y Messia, Archangel, &c.. 11A hwy a dalasant sylw iddo, o herwydd ei fod am gryn amser wedi eu synu hwy â'i swynion: 12ond pan gredasant Philip yn pregethu#8:12 y pethau; gad. א A B C D E Brnd. ynghylch Teyrnas Dduw#8:12 Ei hanes, athrawiaethau, dyledswyddau, ordinhadau, gobeithion, &c. ac enw Iesu Grist#8:12 Yr hyn oedd ac a wnaeth, fel gwaredwr (Iesu) ac fel y Messia addawedig i'r holl genhedloedd., hwy a fedyddiwyd yn wyr ac yn wragedd. 13A Simon, yntau hefyd a gredodd#8:13 Yr oedd argraffiadau dyfnion wedi eu gadael arno; ond nid oedd ei ffydd yn ffydd achubol. Gwybyddodd fod Philip yn fwy ‘o swynwr’ nag efe ei hun. Un o ddysgyblion y cyflawnwr gwyrthiau oedd efe, ac nid yr hwn a bregethid. Cafodd gipolwg ar ymylon y gwirionedd, ond nid ar ei ganolbwynt bendigedig. Creodd pregethu a gwyrthiau Philip yr un effaith arno ef ag a gynyrchodd ei swynion ef ar y Samariaid, ‘efe a synodd.’, ac, wedi ei fedyddio a ddyfalbarhaodd gyda Philip: ac wrth weled yr arwyddion a'r galluoedd mawrion a wnelid, efe a synodd.
Petr ac Ioan yn cael eu hanfon i Samaria: Rhyfyg Simon y Swynwr, 14–25.
14A phan glybu yr Apostolion oedd yn Jerusalem fod Samaria wedi derbyn Gair Duw#8:14 Dyma ddygwyddiad pwysig yn hanes yr Eglwys. Yr oedd hyd yn hyn wedi ei chyfyngu i'r Iuddewon a'r Proselytiaid, ond y mae yn awr wedi cymeryd meddiant o Samaria. Y mae ei gwyneb yn awr at y cenhedloedd. Samaria yma yw enw y wlad ac nid y dref., hwy a anfonasant atynt Petr ac Ioan#8:14 Nid am mai Diacon neu Efengylydd oedd Philip, neu am fod yr Apostolion yn ddrwgdybus o'r Samariaid, ond yr Apostolion oedd wedi arolygu trefniad yr Eglwys yn Jerusalem, ac yr oeddent i wneyd yr un peth yn Samaria. Petr ac Ioan, dau o wahanol deithi, ond o'r un yspryd. Danfonodd Crist yr Apostolion ‘dau a dau’ (Marc 6:7), ac hefyd y Deg‐a‐thriugain (Luc 10:1). Felly Barnabas a Saul, 13:2; Judas a Silas, 15:22; Paul a Silas; Barnabas ac Ioan Marc. Yn Samaria y gwnaeth dau o'r Deuddeg Patriarch, Simeon a Lefi, ddarbwyllo y preswylwyr, trwy dwyll, i fod mewn cymundeb a hwy trwy Enwaediad y Cnawd (Gen 34:15–30) ond yn awr y mae Simon Petr ac Ioan, dau o'r Deuddeg Apostol, yn ffurfio cymdeithas ysprydol trwy enwaediad yr Yspryd. Nid oedd llawer o amser wedi myned heibio er pan y ceisiodd Iago ac Ioan i gael gofyn am dân o'r nef i ddyfetha y Samariaid, ond yn awr y mae Petr ac Ioan yn myned atynt er mwyn iddynt dderbyn y tân Dwyfol, dawn yr Yspryd Glân. Y fath wahaniaeth y mae Efengyl Crist yn ei gynyrchu! Nid oedd Petr ac Ioan ond yn gyd‐radd a'r Deuddeg. Danfonwyd hwy gan y Coleg Apostolaidd.: 15y cyfryw rai, wedi dyfod i waered, a weddiasant#8:15 Yr oeddent mor nodedig mewn gweddio ac mewn pregethu. Gweddio oedd yn cael eu sylw blaenaf (6:4). Gosododd dynion eu materion o'u blaen hwy, a gosodasant hwythau hwynt o flaen Duw. drostynt, fel y derbynient yr Yspryd Glân: 16canys hyd yn hyn nid oedd wedi syrthio ar neb o honynt#8:16 Yr oeddent wedi derbyn o'i ddylanwadau achubol a sancteiddiol; ac y mae ‘y syrthio’ yn golygu ei weithrediadau anarferol a gwyrthiol. Yr oedd troedigaeth y Samariaid yn gychwyniad newydd, ac yr oedd y canlyniadau yn rhyw ail Bentecost yn hanes yr Eglwys. Credasant yn wirioneddol a bedyddiwyd hwy i Grist, a gwnaethant hyn trwy yr Yspryd Glân. Ond yr oedd hyn i gael ei ddylyn gan amlygiadau allanol o'i allu Dwyfol. Bu Simon Magus yn dyst o'r rhai hyn, ac felly chwenychodd y gallu i gynyrchu yr un effeithiau. Nid oedd efe yn hidio gymaint am allu achubol â gallu gwyrthiol yr Yspryd. Yr oedd cyfleu yr olaf, hyd yn hyn, yn gyfyngedig i'r Apostolion. Nid yw gweithred Ananias yn profi yn wahanol (9:17). Yr oedd yn ei achos ef yn enghraifft eithriadol., ond yn unig yr oeddent wedi eu bedyddio i#8:16 i undeb ag ef ac i ufudd‐dod iddo. Gwel Mat 28:19. enw yr Arglwydd Iesu. 17Yna hwy a ddodasant eu dwylaw arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Yspryd Glân#8:17 Yn ei ddylanwadau anarferol a gwyrthiol. Ni ddefnyddir y fanod yma o'i flaen, ac felly pwysleisir ei ddylanwad ac nid ei Berson.. 18A Simon, yn gweled mai trwy osodiad dwylaw yr Apostolion y rhoddid yr Yspryd Glân#8:18 Glân. A C D. La. Tr. Diw.; gad. א B Ti. Al. WH., a ddygodd#8:18 Neu, a gynygiodd. ‘Yr oedd wedi ei fedyddio ond heb ei oleuo,’ Cyril. O'i ymddygiad ef y deilliodd y gair Simoniaeth, cysegr‐fasnach, ceisio bywoliaeth eglwysig er gwobr a gwerth. Yr oedd Simon am fod yn gydradd a'r Apostolion. Yr oedd am wneuthur yr Yspryd Glân yn gynorthwywr yn ei swyn‐gyfaredd. arian iddynt, 19gan ddywedyd, Rhoddwch i minau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynag y gosodwyf ddwylaw, y derbynio yr Yspryd Glân. 20Eithr Petr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian#8:20 argurion, darn arian, arian (yn wahanol i aur, pres, &c.). Yn adn. 18 cawn chremata, pethau, pethau sydd o ddefnydd, felly arian, cyfoeth (term mwy cyffredinol). gyda thydi i ddystryw#8:20 Rhai a farnant fod y melldithiad hwn yn anghydweddol ag yspryd yr Efengyl. Ond y mae hi yn lladd yn ogystal a bywhau. Gwae y dyn ar yr hwn y syrth. Hi a'i chwal yn fân‐ddarnau. Tymherir y dywediad gan y cynghor i edifarhau. Pechodd Ananias a Sapphira yn erbyn pob goleuni; ond y mae yn amlwg fod Simon eto yn nghanol y tywyllwch. Yr ystyr yw, ‘Yr wyt ti ar y ffordd i ddystryw, bydded dy arian fyned gyda thi.’, am i ti dybied y meddienid#8:20 Neu, ‘am i ti feddwl meddianu Rhodd Duw trwy arian,’ ond tebygol fod ktasthai yn y goddefol. Rhai a ddarllenant y frawddeg fel gofyniad, A ddarfu i ti feddwl y meddienid Rhodd Duw trwy arian? Rhodd Duw trwy arian. 21Nid oes i ti na rhan#8:21 Meris, rhan, yn fynych rhan trwy bryniad; klêros, coel‐bren, yna yr hyn a geir trwy fwrw coel‐bren, cyfran, etifeddiaeth. nac etifeddiaeth yn y mater#8:21 Llyth: gair. Rhai a ddywedant mai yr Efengyl yw y gair; eraill, athrawiaeth; eraill, ymadrodd, gan gyfeirio at lefaru â thafodau. Ond defnyddir logos, gair, yn fynych am ‘y pwnc dan sylw,’ ‘y peth y sonir am dano.’ hwn: canys nid yw dy galon yn uniawn gyda Duw. 22Edifarhâ gan hyny am dy ddrygioni#8:22 kakia, y gair mwyaf cyffredinol am ddrygioni. Weithiau defnyddir ef i ddynodi malais, cenfigen. Yma defnyddir ef yn ei ystyr eangaf, llygredd dyfnaf y natur ddynol. hwn, a deisyf ar yr#8:22 yr Arglwydd א A B C Brnd. Arglwydd, os o bosibl#8:22 ei ara, os ysgatfydd, os dichon. Y mae y frawddeg yn awgrymu yr anhebygolrwydd i'r fath bechod i gael ei faddeu. Gweler Mat 12:31., y maddeuir i ti feddyl‐fryd#8:22 epinoia [yma yn unig yn y T. N.]. Yr hyn sydd ar, yn uchaf yn, y meddwl; amcan, bwriad, cynllun. dy galon. 23Canys yr wyf yn gweled dy fod yn#8:23 Llyth i [eis]. Rhai a gyfieithant eis, fel, yn. ‘Gwelaf dy fod fel bustl,’ &c. Ond yma dengys symudiad i, ac arosiad mewn sefyllfa: ‘Gwelaf dy fod wedi syrthio i, ac yn aros yn, mustl chwerwder.’ Credai yr henafiaid fod gwenwyn seirph yn eu bustl. Yr oedd Simon yn llawn o wenwyn marwol ac yr oedd hwn yn fustl chwerwder. Yr oedd yn llawn chwerwder yn erbyn crefydd Crist. Efallai fod yr ymadrodd yma o Deut 29:18, ‘Wreiddyn dwyn gwenwyn [bustl] a wermod.’ ‘Rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu’ (Heb 12:15). mustl chwerwder ac yn rhwymyn anghyfiawnder#8:23 Yn Es 58:6. Yr oedd Simon mewn cyffion. Yr oedd pechod wedi chwerwi ei enaid ac wedi cadwyno ei galon. Yr oedd dan awdurdod ac yn rhwym yn ngwasanaeth y Diafol.. 24A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Deisyfwch#8:24 Y mae Simon wedi ei ddychryni, ond heb ei argyhoeddi. Ei iaith yw geiriau llwfrddyn ac nid pechadur edifeiriol. Y mae Simon Petr wedi gyru ofn ar Simon Magus. Y mae y Graig wedi syrthio arno ac wedi chwilfriwio ei honiadau, ond eto heb dori ei galon. Ofni y canlyniadau a wnaeth, ac nid cashau ei euogrwydd. Syrth y gorchudd arno ar ei liniau, ond o flaen dynion, ac nid o flaen Duw. Traddodiad a ddywed iddo barhau yn ei anwiredd. chwi drosof fi ar yr Arglwydd, fel na ddel dim arnaf o'r pethau yr ydych wedi eu dywedyd. 25Hwythau yn wir gan hyny, wedi iddynt dystiolaethu#8:25 diamarturomai, tystiolaethu yn ddifrifol, o ddifrif, o galon. a llefaru Gair yr Arglwydd, a ddychwelasant i Jerusalem, ac a bregethasant#8:25 Neu, efengylasant, bregethasant yr Efengyl. Defnyddir yr amser anmherffaith, ‘ac yr oeddent yn dychwelyd … pregethu, yn yr hen lawysgrifau. Awgryma hyn i'r Apostolion dreulio cryn amser i bregethu i'r pentrefi. Cafodd y pentrefi lawer o sylw yr Apostolion fel y cawsant sylw y Meistr. Gweler 1:8. Pregethasant i'r miloedd yn y brif‐ddinas, i'r degau yn y pentrefi, yn awr y mae Philip yn myned i bregethu i un. i lawer o bentrefi y Samariaid.
Philip a'r Eunuch, 26–40.
26Ond angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip#8:26 Y mae Duw yn cyfaddasu rhai o'i weision i ddechreu gwaith Cristionogol, ac eraill i gadarnhau y credinwyr. Argyhoeddodd Philip lawer yn Samaria, ac yna daeth Petr ac Ioan i gryfhau y ‘dyn newydd.’ Y mae Philip yn awr, trwy agor deall a chalon yr Eunuch i agor drws newydd i'r Efengyl i bellafoedd y cenhedloedd, ‘eithaf y ddaear’ 1:8., gan ddywedyd, Cyfod, a dos tua'r Deheu#8:26 mesêmbria, canol dydd, lle y mae yr Haul ganol dydd, yna, y Deheu. i'r ffordd sydd yn myned i waered o Jerusalem i Gaza#8:26 Gaza, un o ddinasoedd henaf y byd (Gen 10:19). Rhoddwyd hi i Judah (Jos 15:47), ond ni chymerasant feddiant o honi. Yr oedd yn un o bum prif ddinas y Philistiaid, 1 Sam 6:17. Gwarchaeodd Alexander Fawr hi am bum mis, ac ni lwyddodd ei dystrywio. Gelwir hi Azzah yn Deut 2:23; 1 Br 4:24. Yr oedd tua thri ugain milldir o Jerusalem. Dyma ddechreuad cyflawniad y brophwydoliaeth, ‘Wele Philistia a Thyrus ac Ethiopia. Yno y ganwyd hwn’ Salm 87:4.: yr hon sydd anial#8:26 Nid y ddinas, ond y ffordd, sef drwy anialwch, nid yr un drwy Ramleh, y ffordd ogleddol, lle yr oedd pobl lawer yn trigo. Y mae Duw yn cyfeirio ei weision ar brydiau i leoedd rhyfedd o anaddawol, ond y mae y canlyniadau yn profi ei allu a'i ddoethineb.. 27Ac efe a gyfododd ac a aeth: ac wele gwr o Ethiop#8:27 Ethiopia [Cush yn yr H. Dest.] oedd wlad a gynwysai Abyssinia a Nubia. Iddi hefyd y perthynai Ynys Meröe, lle yr oedd y brif‐ddinas., Eunuch#8:27 Rhai a gyfieithant, Ystafellydd. Yr oedd yn broselyt, a bernir fod Deut 23:1 yn erbyn yr ystyr cyffredin a roddir i'r gair. Ond gwell rhoddi iddo ei ystyr arferol. Nid oedd y ffaith ei fod felly yn milwrio yn ei erbyn i lanw y swyddi uchaf yn y frenhiniaeth. Gwel Es 56:3–5., swyddog uchel#8:27 Dunastês, penadur, tywysog; yna, llywydd, swyddwr uchel. i Candace#8:27 Enw teyrn‐linell, fel Pharaoh, Ptolemi, Cesar., brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl drysor#8:27 gaza, gair Persiaidd wedi ei fabwysiadu gan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid i ddynodi trysor brenhinol, cyfoeth. Cafodd ef gaza yn yr anial dir, yn ymyl Gaza ag oedd yn fwy gwerthfawr na holl drysor Candace. hi, oedd#8:27 yr hwn B E [Tr.] A [WH.] Diw.; gad. א A C D Ti. wedi dyfod i addoli i Jerusalem; 28ac yr oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, ac yn darllen yn hyglyw#8:28 Anaginoskô, darllen, darllen allan, yn uchel (13:27; 15:21). Diameu mai y LXX. yr oedd yn ei ddarllen, yr hwn oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr Aipht. y Prophwyd Esaiah. 29A dywedodd#8:29 Y mae yr Yspryd yn Berson Dwyfol. Nid oes unrhyw ran o'r T. N. yn dangos hyn yn fwy eglur na'r Actau. yr Yspryd wrth Philip, Dos at a glyn wrth y cerbyd hwn. 30A Philip a redodd ato, ac a'i clywodd ef yn darllen Esaiah y Prophwyd, ac a ddywedodd, A wyt ti o gwbl#8:30 ara ge a ddisgwylia ateb yn y nacaol. yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen#8:30 Y mae tebygrwydd rhwng y geiriau yn y gwreiddiol nas gellir ei gyfleu yn y Gymraeg, ginôskeis ha anaginoskeis.? 31Ac efe a ddywedodd, Pa fodd#8:31 Yn y gwreiddiol ceir gar, ‘canys,’ ‘Canys pa fodd y gallaf.’ Yr ystyr yw ‘Nid oes eisieu i ti ofyn, canys pa fodd,’ &c. Y mae y rhan flaenaf o'r adnod yn nos dywyll, ond y mae gwawr gobaith yn yr ail. y gallaf, oddi eithr i rywun fy nghyfarwyddo#8:31 Llyth: arwain yn y ffordd, addysgu. i? ac efe a wahoddodd Philip i fyned i fyny ac eistedd gydag ef. 32A'r adran#8:32 periochê [yr hyn a gynwysir], cynwysiad. Y llawn synwyr yw, A chynwysiad [yr adran] o'r Ysgrythyr. o'r Ysgrythyr yr oedd yn ei darllen oedd hon:
Fel#8:32 Y mae y dyfyniad bron yn hollol fel cyfieithiad y LXX. dafad i'r lladdfa yr arweiniwyd ef;
Ac fel oen gerbron ei gneifiwr yn fud,
Felly nid yw yn agor ei enau:
33Yn ei Ddarostyngiad ei farn#8:33 (1) Trwy ymostwng i ewyllys Duw, hyd y nod i angeu ei hun, tynwyd barn angeu ymaith, a dyrchafwyd ef i ddeheulaw y Tad (Phil 2:8, 9; Heb 2:9). (2) Efe a gymerwyd ymaith trwy farn orthrymus ac anghyfiawn. (3) Tynwyd ymaith y ddedfryd a gyhoeddwyd arno gan ei elynion gan Dduw ei hun. Duw a'i tra‐dyrchafodd. (4) Y farn, y gosp i'r hon y collfarnwyd ef gan ei elynion, a dynwyd ymaith, a symudwyd yn hollol yn a thrwy ei farwolaeth. (5) Amddifadwyd ef o'i farn, o'i iawnderau, o'r hyn oedd ddyledus iddo, gan ei elynion. a dynwyd ymaith:
Pwy a ddesgrifia ei genedlaeth#8:33 (1) Pwy a draetha ddrygioni ei gyd‐oeswyr, y rhai a roddasant yr Un Cyfiawn i farwolaeth? (2) Pwy a ddadgan barhad ei oes? Er ei dori ymaith oddiar y ddaear, y mae efe yn Dduw, ac felly ei oes yn dragywyddol. (3) Pwy a rydd gyfrif o'i genedlaeth, o'i hiliogaeth, o'i had. Pwy all ddadgan nifer y cadwedigion a brynwyd trwy ei Farwolaeth. ‘Tyrfa na ddichon neb ei rhifo,’ a bydd efe yn Ben ac yn Frenhin ar yr oll. (4) Ei Deyrnas a bery byth. Ar ei lywodraeth ni bydd diwedd. (5) Pwy a ddadgan pa fath fywyd oedd ei eiddo Ef? Dywed Lowth ei bod yn arferiad yn mhlith yr Iuddewon, cyn rhoddi neb i farwolaeth i gyhoeddi fel hyn: ‘Pwy bynag a wyr unrhyw beth am ddiniweidrwydd y dyn hwn, deued yn mlaen a myneged hyny.’ Ni ddaeth neb yn mlaen i amddiffyn Crist. Y mae y cyntaf a enwyd yn gydweddol a'r cyd‐destyn, ‘Canys dygir ymaith oddiar y ddaear ei fywyd ef.’ Felly diêgeomai, rhoddi hanes neu gyfrif am, adrodd, desgrifio, gosod allan. ef?
Canys dygir ymaith oddiar y ddaear ei fywyd ef#Es 53:7, 8 LXX.
34A'r Eunuch a atebodd Philip ac a ddywedodd, Atolwg i ti, am bwy y mae y Prophwyd yn dywedyd hyn? am dano ei hun, neu am ryw un arall#8:34 Gr. gwahanol. Yr oedd y Rabbiniaid Iuddewig fel rheol yn deongli, Es 53 am y genedl, ac nid am berson neillduol. Y mae yn rhyfedd eu bod wedi colli golwg bron yn hollol ar y Messia fel y Dyoddefydd. Yr oedd y meddylddrych o allu a gogoniant tymhorol wedi dallu eu llygaid. Rhai o'r Iuddewon diweddaraf a'i priodolant i Hezeciah, eraill i Esaiah ei hun, eraill i Jeremiah.? 35A Philip a agorodd ei enau, a chan ddechreu o'r Ysgrythyr hon, efe a bregethodd iddo yr Iesu#8:35 Dangosodd y modd y cyfarfyddai yr holl brophwydoliaethau yn Nghrist, a'r modd y cyflawnwyd hwy ynddo. Hefyd, rhoddodd fraslun o hanes ei fywyd ynghyd a'i eiriau a'i Ordinhadau fel y mae yr adnod nesaf yn profi yn amlwg. Rhoddodd iddo grynodeb o Athrawiaeth ac Ymarferiad Cristionogol.. 36-37Ac fel yr oeddent yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaethant at ryw ddwfr; a'r Eunuch a ddywed, Wele ddwfr, beth#8:36–37 Neu, ‘beth sydd yn rhwystr i mi gael fy medyddio’? sydd yn lluddias fy medyddio#8:36 ‘A Philip a ddywedodd, Os wyt ti yn credu â'th holl galon, fe a ellir. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn Fab Duw.’ Gadewir yr adnod hon allan gan y canlynol א A B C G H, &c. Y Peshito, Y Coptaeg, Yr Aethiopaeg, &c. Yn ngwyneb hyn, cytuna Lachmann, Tischendorf, Alford, Tregelles, Westcott a Hort, a'r Diwygwyr Saesneg, ei gadael allan. Eto daeth y geiriau hyn i fewn yn foreu. Diamheu eu bod yn cyfansoddi y ffurf‐reol a ddefnyddid yn yr Eglwys gyntefig wrth fedyddio. Lled debyg iddynt gael eu gosod ar y cyntaf ar ymyl y ddalen. Terfynai yr hanes yma yn dra disymwth, ac ymddangosai y fan hon yn lle naturiol a chyfleus i gatecism syml ac ysgrythyrol yr eglwys. Er na cha yr adnod hon le mewn Cyfieithiad diwygiedig, eto y mae o werth mawr trwy y goleuni a dafla ar arferiadau a chred canlynwyr Crist yn y dyddiau gynt. Dangosa yn eglur pwy ydyw deiliaid yr ordinhad, sef y rhai a gyffesant fod eu Gwaredwr hwy yn wir Fab Duw. Y mae Irenaeus (gweithiau yr hwn ydynt henach o ddwy ganrif na'r Llawysgrifau henaf) yn ei dyfynu. Felly hefyd Cyprian. Ni alwodd Awstin i gyfrif ei dilysrwydd.? 38Ac efe a orchymynodd sefyll o'r cerbyd#8:38 Rhaid i gyfleusderau dyn weini ar Ordinhadau Duw. a hwy a aethant i waered ill dâu i'r dwfr, Philip#8:38 Enwir y bedyddiwr yn gyntaf, yna y bedyddiedig Cymerodd yr Eunuch afael yn y cyfle i dalu ufudd‐dod yn ngwyneb rhwystrau ymddangosiadol. Cafodd ei fedyddio gan ddyn o swydd is‐raddol ond o ysprydolrwydd uwchraddol. Y mae y dyn yn fwy na'r swydd. ‘Gall un gwas fod o aur ac arall o haiarn, ond y mae y ddau fel modrwyau, ac arnynt sel Crist. Bydded iddynt dy selio di, yr hwn wyt gwyr, a delw y Brenhin. Y mae gwahaniaeth yn y mettel, ond nid yn y sel.’ Gregori Nazianzum. a'r Eunuch, ac efe a'i bedyddiodd ef. 39A phan ddaethant i fyny allan o'r dwfr, Yspryd yr Arglwydd a gipiodd Philip ymaith#8:39 Mewn ffordd wyrthiol. Darllener am Elias (1 Br 18:12; 2 Br 2:16), Paul (2 Cor 12:2, 4). Yr oedd hyn yn brawf i'r Eunuch fod y genadwri a dderbyniodd o'r nef., ac ni welodd yr Eunuch ef mwyach#8:39 Yn ei lawenydd ni welodd, ac ni ofalodd am weled, Philip mwyach. Y mae'r ser yn myned o'r golwg pan y mae yr haul yn codi. Gwelodd yr Oen, am yr hwn y darllenodd, ‘yn nghanol yr Orseddfa.’ Yr oedd yn awr gyda'r ‘Iesu yn unig.’ Gall yr hwn sydd ag Ysgrythyr yn ei law a Christ yn ei galon, wneuthur heb arweinwyr dynol. Aeth yr Ethiop du ei groen adref yn ngwisg wen llawenydd. Darllena y Lawysgrif Alexandriaidd, ‘A'r Yspryd Glân a ddisgynodd ar yr Eunuch,’ ac y mae hyn mewn amryw o'r Llawysgrifau Rhedegog. Y mae traddodiad yn dweyd iddo bregethu yr Efengyl i'w gydwladwyr, a bod y Frenhines wedi ei bedyddio ganddo., canys efe a aeth ei ffordd gan lawenychu. 40A Philip a gaed yn Azotus#8:40 yn Azotus. Y mae eis yn dynodi mudiad i, ac arosiad yn, Azotus, sef Ashdod, un o brif ddinasoedd y Philistiaid, tua 30 o filldiroedd o Gaza. Yn ddiweddarach, perthynai i Herod Fawr, yr hwn a'i rhoddodd i Salome.; a chan fyned trwodd, efe a bregethodd yr Efengyl i'r holl ddinasoedd hyd nes dyfod i Cesarea#8:40 Gan fyned ar hyd glanau y Mor, efe a dramwyai trwy Ddyffryn Saron, ac a bregethai yn Lydda, Joppa, a dinasoedd eraill, nes dyfod i Cesarea, sef Cesarea Palestina, i'w gwahaniaethu oddiwrth Cesarea Philippi. Hi oedd trigle swyddogol y Rhaglaw Rhufeinig, a gorsaf filwrol y dalaeth. Yr oedd tua 70 milltir o Jerusalem. Yr oedd yn hynod am ei phorthladd. A Philip yn awr o'r golwg am 20 mlynedd (21:8)..

Dewis Presennol:

Actau 8: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda