Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 7

7
Amddiffyniad Stephan, 1–53.
1A dywedodd yr Arch‐offeiriad, A#7:1 Llyth: Os, ‘Os yw y pethau hyn felly, dywed.’ ydyw y pethau hyn felly? 2Ac efe a ddywedodd, O Wyr Frodyr#7:2 Frodyr, y cynulliad yn gyffredinol; Tadau, aelodau y Sanhedrin. Y mae yn llawn moesgarwch. Defnyddia Paul yr un ffurf o Anerchiad, 22:1. Gellir olrhain argraffiadau ar feddwl Paul o ymadroddion Stephan mewn amryw leoedd yn anerchiadau ac ysgrifeniadau yr Apostol. Diamheu iddo glywed a gweled yr oll. a Thadau, gwrandewch. Duw y Gogoniant#7:2 Fel yr amlygodd ei hun dan yr Hen Oruchwyliaeth, yn enwedig yn y Golofn Dân ac yn y Shecinah yn y Deml (Ex 24:16; Es 6:3; Salm 24:7–10). ‘Y Gogoniant’ (Rhuf 9:4) oedd eiddo yr Israeliaid. a ymddangosodd i'n Tad Abraham pan yn Mesopotamia#7:2 Mesopotamia (rhwng y ddwy afon, Tigris ac Euphrates), yma yn benaf am y diriogaeth y tu hwnt i'r Euphrates, gan gynwys Caldea., cyn iddo drigo yn Haran#7:2 Haran, Gr. Charran, Llad. Carrae (lle y gorchfygwyd Crassus). Nid oes sicrwydd pa le yr oedd., 3ac a ddywedodd wrtho#7:3 Y mae ychydig wahaniaeth ymddangosiadol rhwng Stephan a Genesis. Yn ol Stephan, galwyd Abraham yn Ur, yn ol Moses yn Haran. Ond nid oes gwrth‐ddywediad. Y mae yn ymddangos fod Abraham wedi derbyn dau alwad. Y mae Gen 15:7 yn awgrymu hyny: ‘A'i dygaist ef allan o Ur y Caldeaid’ (Neh 9:7). Rhoddodd Duw yr addewid fwy nag unwaith, paham na allasai roddi yr alwad hefyd?, Dos allan o'th wlad, ac oddiwrth dy dylwyth, a dos ymaith i wlad#7:3 Llyth: pa un bynag. ‘Ac a aeth allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned.’ (Heb 11:8). a ddangoswyf i ti#Gen 12:1 LXX. 4Yna y daeth efe allan o wlad y Caldeaid, ac a breswyliodd yn Haran: ac oddi yno, wedi marw ei dad#7:4 Y mae gwrth‐darawiad ymddangosiadol rhwng y rhan hon a'r cyfrif a geir yn Genesis. Dywedir yno (11:26) fod Terah yn 70 mlwydd oedd pan y cenedlodd Abraham; fod Abraham yn 75 oed pan yr ymadawodd o Haran (12:4); a bod Terah yn 205 oed pan y bu farw (11:32). Yn ol hyn, bu Terah fyw 60 mlynedd ar ol ymadawiad Abraham o Haran. Rhai a ymdrechant symud yr anhawsder (1) trwy ddarllen 145 yn Gen 11:32 yn lle 205, (2) trwy ddweyd fod ‘marw’ yma yn golygu marwolaeth ysbrydol Terah pan y dychwelodd i eilunaddoliaeth. Ond gwell yw cymeryd Gen 11:26, ‘A Terah hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thri ugain, ac a genedlodd Abram, Nachor, a Haran’ yn yr ystyr hyn: Nad Abraham oedd mab henaf Terah, ond enwir ef yn gyntaf o herwydd ei enwogrwydd. Ni anwyd tri i Terah pan yn 70 oed. Enwir Sem yn nghyfres disgynyddion Noah yn gyntaf, er ei fod yn ieuengach na Japheth. Y mae traddodiad Iuddewig mai mab ieuengaf Terah oedd Abraham. Ag ystyried oes y byd nid oes dim yn annhebygol i Abraham gael ei eni pan yr oedd Terah yn 130 oed. Yr oedd felly yn fab ei henaint fel yr oedd Isaac yn fab henaint Abraham., perodd Duw iddo ymfudo i'r wlad hon, yn yr hon yr ydych chwi yn awr yn trigo#7:4 Llyth: i'r hon [y daethoch] ac yn yr hon yr ydych yn awr yn trigo.: 5ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddi, naddo, led troed#7:5 Gorfu iddo brynu y tir a enwir yn ad. 16, sef Maes ac ogof Machpelah yn Hebron (Gen 23:20). Ond nid yw beddrod yn llawer o etifeddiaeth. Ni chafodd efe a'i deulu ond bedd yno.: ac efe a addawodd#7:5 Gen 17:8; 48:4. ei rhoddi iddo i'w meddianu#7:5 Llyth: er meddiant, kataschesis, daliad tyn, cydiad gafael sicr. Gair a ddefnyddir yn fynych yn y LXX. am feddianu Gwlad yr Addewid (Gen 17:8; Num 32:5; Deut 32:49)., ac i'w Hâd ar ei ol, pan nad oedd plentyn iddo#7:5 Amser maith cyn hyd y nod i Ismael gael ei eni.. 6A llefarodd Duw fel hyn: Y byddai ei Had ef yn ymdeithydd#7:6 Paroikos (gair Beiblaidd), byw yn agos neu gyda rhyw un; felly un dyeithr, heb hawliau dinasyddiaeth, trigianydd am amser, gan symud ei babell o le i le. mewn gwlad ddyeithr#7:6 allotrios, yn perthyn i arall, nid yn eiddo i'r Had. Nid yn yr ystyr o anadnabyddus., a hwy a'i caethiwant ef#7:6 Yr Hâd., ac a'i drygant bedwar can mlynedd#7:6 Y rhif cywir, a roddir mewn manau eraill, yw 430 (Ex 12:40; Gal 3:17). Rhoddir yma y nifer crwn, 400. Ar yr olwg gyntaf yr oedd amser arosiad plant Israel yn yr Aipht yn 430 ‘A phreswyliad meibion Israel, tra y trigasant yn yr Aipht, oedd ddeng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd’ (Ex 12:40). Ond rhaid nad yw hyn ond byr‐ddywediad am yr amser a dreuliwyd yn Nghanaan hefyd. Cyfrifai Paul y 430 o roddiad yr Addewid i Abraham hyd roddiad y Ddeddf ar Sinai. Y mae nodau yn yr hanes yn yr Hen Dest. mai hyn oedd y cyfrif iawn. Yr oedd mam Moses yn ferch i Lefi (Ex 6:20). Ac nis gallasai hyn fod os bu plant Israel 430 yn yr Aipht. Ond rhanwyd yr yspaid hirfaith hwn i ddau gyfnod cyfartal, sef yr ymdeithio yn Nghanaan, a'r trigo yn yr Aipht, yn 215 o flynyddau yr un. O fynediad Jacob i'r Aipht hyd yr Exodus, cyfrifodd Josephus 215 mlynedd. Ganwyd Isaac 25 mlynedd wedi i Abraham gyrhaedd Canaan; yr oedd Isaac yn 60 oed pan y ganwyd Jacob, yr oedd Jacob yn 130 oed pan yr aeth i'r Aipht, yr oll yn 215 mlynedd. Eto, o fynediad Jacob i'r Aipht hyd farwolaeth Joseph, 71 mlynedd; o farwolaeth Joseph hyd enedigaeth Moses, 64 mlynedd; o hyny hyd yr Exodus, 80 mlynedd, yr oll yn 215 mlynedd.. 7A'r genedl i'r hon y byddant gaeth‐weision, a farnaf Fi, medd Duw: ac wedi y pethau hyn y deuant allan, ac a'm gwasanaethant I yn y lle hwn#7:7 Y mae y ddwy adnod hon yn rhydd ddyfyniad o Gen 15:13, 14, LXX. ‘A hwy a ddeuant allan a chyfoeth mawr’ ad 14. Y mae ‘A'm gwasanaethant yn y mynydd hwn’ yn rhyw fath o adgof o Ex 3:12, ‘Chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn,’ sef Mynydd Horeb. Nid oes dim yn fwy cyffredin yn mhlith yr Hebreaid na chyfuno dwy brophwydoliaeth wahanol. Gwnaeth ein Harglwydd hyn fwy nag unwaith. Gwel Luc 4:17; Mat 2:23. Golyga gwasanaethu (latreuô), gwasanaethu mewn addoliad cyhoeddus.. 8Ac efe a roddodd iddo Gyfamod yr Enwaediad#7:8 Y cyfamod, yr hwn a wnaed o'r blaen, ond o'r hwn y daeth yr Enwaediad (neu Amdoriad) yn arwydd. Gen 17:11; Rhuf 4:11. Galwyd a chyfiawnhawyd Abraham cyn gosodiad yr Enwaediad. Felly rhoddwyd hwn fel sel y Cyfamod. Rhoddwyd y Cyfamod hwn flwyddyn cyn genedigaeth Isaac. (Gen 17:21). Diathêkê, trefniad, gosodiad. Yn yr awduron clasurol golyga yn fynych, y trefniad a wna dyn ynghylch ei feddianau, ewyllys, testament; ond cyfamod, cytundeb gwirfoddol o'r ddau tu, yw yr ystyr yn y T. N. Efallai na ddylid eithrio Heb 9:16–17. Sunthêkê yw y gair clasurol am ‘cyfamod.’: ac felly efe a genedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd; ac Isaac#7:8 Nid yn unig a genedlodd Jacob sydd ddealledig ond hefyd a enwaedodd arno yr wythfed dydd, ac felly mewn cysylltiad â'r Deuddeg Patriarch, oblegyd hyn yw prif bwynt y ddadl yma., Jacob; a Jacob y Deuddeg Patriarch#7:8 Gelwir hwy yn Batriarchiaid, oblegyd eu bod yn benau patriai, teuluoedd neu lwythau.. 9A'r Patriarchiaid gan genfigenu wrth Joseph, a'i gwerthasant i'r Aipht#7:9 Neu, gan genfigenu, a werthasant Joseph, i'r Midianiaid ar eu ffordd i'r Aipht. Gwerthasant, y gair yn Gen 37:28 LXX.: a Duw oedd gydag ef#7:9 Gwel Gen 39:2, 21, 23, ‘A'r Arglwydd oedd gyda Joseph.’, 10ac a'i dygodd allan o'i holl orthrymderau#7:10 Cystuddiau, gwasgfeuon, cyfyngderau., ac a roddodd iddo ffafr a doethineb yn ngolwg Pharaoh#7:10 Nid enw personol, ond enw llinach o frenhinoedd, fel Cesar yn Rhufain., brenhin yr Aipht: ac efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr#7:10 Hêgêmon, arweinydd, prif ddyn, prif‐weinidog. ar yr Aipht, ac ar ei holl dy. 11A daeth newyn dros yr#7:11 yr holl Aipht א A B C Brnd. Holl dir yr Aipht E. holl Aipht a Chanaan, a gorthrymder#7:11 Cystuddiau, gwasgfeuon, cyfyngderau. mawr: a'n Tadau ni chawsant luniaeth#7:11 Chortasma, esborth anifeiliaid, yna bwyd, yn enwedig gwenith, am yr hwn yr oedd yr Aipht yn nodedig. Hi ydoedd ystordy mawr yr Ymherodraeth Rufeinig. Gwel Gen 24:25, 32.. 12Ond pan glybu Jacob fod yd i'w gael yno, efe a anfonodd allan ein Tadau i'r#7:12 eis Aigupton, i'r Aipht [i'w gysylltu, ag anfon] א A B C D E. yn DH. Aipht y waith gyntaf#7:12 Neu, yn gyntaf, h.y. cyn iddo ef ei hun fyned.. 13A'r ail waith#7:13 Llyth: Ac yn yr ail [ymweliad]. y gwnaed Joseph yn#7:13 egnôristhê, [y gwnaed yn adnabyddus] A B Tr. WH.; anegnoristhê, yr adnabuwyd א C D E Al. Ti. Diw. adnabyddus i'w frodyr#7:13 Neu, yr adnabuwyd Joseph gan ei frodyr.: a theulu#7:13 Genos, hiliogaeth, yna, teulu, tylwyth, yna, cenedl. Joseph#7:13 Joseph B C D; ef א A E. a wnaed yn hyspys i Pharaoh. 14A Joseph a anfonodd, ac a gyrchodd#7:14 A anfonodd am, a alwodd ato. Jacob ei dad, a'i holl dylwyth, yn#7:14 en, yn, fel yr Hebraeg be: yn, i fyny, yn cyrhaedd y nifer o. bymtheg enaid a thri ugain#7:14 Yn y Beibl Hebraeg, Gen 46:26, y mae y rhifedi yn cael ei roddi yn 66; yn yr adnod nesaf, rhoddir hwynt yn 70, gan gyfrif Jacob ei hun, Joseph a'i ddau fab, yn ychwanegol. Yn yr adnod hon (27) y mae y LXX. yn rhoddi 75, gan gyfrif wyrion Joseph, neu, efallai, Machir, mab Manasseh; Galaad, mab Machir; Sutalaim a Taam, meibion Ephraim; Edom, mab Sutalaim. Rhydd Josephus yr un cyfrif. Cynyddodd y rhai hyn cyn ymadael i dros 600,000, heblaw gwragedd a phlant. Yr oedd gan Stephan reswm dros enwi 75. Ei ddadl fawr oedd nad oedd lle neu ffurf neillduol yn anghenrheidiol er bod o fewn cylch yr addewid, fod y rhai a aned yn yr Aipht yn blant yr addewid yn ogystal a'r rhai a aned yn Nghanaan.. 15A Jacob a aeth i waered i'r Aipht#7:15 Enwir yr Aipht yn fynych i ddangos fod Duw gyda'i bobl pan yr oeddynt yn mhell o Wlad yr Addewid., ac a fu farw#7:15 Llyth: a ddarfyddodd., efe, a'n Tadau, 16a hwy a ddygwyd trosodd i Sichem#7:16 Y mae anhawsderau pwysig yn yr adnod hon. (1) Claddwyd Jacob gydag Abraham ac Isaac yn Hebron, yn ‘Maes Macpelah,’ Gen 23:29. Ond nid rhaid cynwys Jacob yn ‘a hwy a ddygwyd trosodd i Sichem,’ ond gellir cyfyngu ‘hwy’ i'r Deuddeg Patriarch. Yr oedd pawb yn gwybod fod Jacob wedi ei gladdu yn Hebron. Pwnc Stephan oedd profi nad oedd cael eu claddu mewn man neillduol yn fwy na byw yn anghenrheidiol er mwyn mwynhau ffafr Duw. Dywedir i esgyrn Joseph i gael eu dwyn o'r Aipht, a'u claddu yn Sichem (Jos 24:32). Ni chawn hanes yn yr Hen Dest. am gladdedigaeth y lleill; ond y mae yn naturiol i gredu na chawsant eu gadael i bydru yn yr Aipht. Nis gellir gwneyd gwrth‐ddywediad o ddystawrwydd yr Ysgrythyr. (2) Yr anhawsder mwyaf yw y dywediad fod ‘Abraham wedi prynu lle beddrod oddiwrth feibion Hamor yn Sichem.’ Prynodd Abraham le i gladdu yn Hebron oddiwrth Ephron (Gen 23:3–20). Jacob a brynodd ran o faes yn Sichem oddiwrth feibion Hamor (Gen 33:19). Ni ddywedir gair i Abraham brynu oddiwrthynt. Y mae yr adnod hon wedi dyrysu yr esponwyr. Y mae yr hanes yn fyr, ac y mae Stephan yn dirwasgu llawer i ychydig. Ond gormod yw dweyd fod Stephan wedi gwneyd camsyniad, neu fod Luc yn annghywir. Ar y llaw arall, nid gwiw ymyraeth a'r testyn gwreiddiol er mwyn cyssoni yr adroddiadau. Gallasai Abraham fod wedi prynu tir yn Sichem, er na chofnodir hyny. Y mae yr ystyriaethau canlynol yn ffafr hyny: (1) Sichem oedd y lle cyntaf y daeth Abram iddo wedi ei alw; (2) yma yr ymddangosodd yr Arglwydd iddo; (3) adeiladodd yma allor. Yr oedd efe yn un na chymerai ‘o edau hyd garai esgid’ neb (14:23). Felly nid yw debygol ei fod wedi adeiladu allor ar feddiant dyn arall; (4) Hwn yw y lle cyntaf y daeth Jacob iddo ar ol dychwelyd o Padan‐aram. Yr oedd rhywbeth ynddo yn gysegredig. Prynodd ran o faes a chyfododd allor yno. Os prynodd Jacob, y mae yn dra thebyg i Abraham wneyd hyny. (5) Os prynodd Abraham dir yno, y mae hyny yn rhoddi rheswm cryfach i Joseph a'r Patriarchiaid gael eu claddu yno. Nid oes gwrthuni yn y syniad fod Jacob wedi ail‐brynu yr hyn a werthwyd i Abraham, ond yr hyn lawer o amser cyn hyn oedd wedi myned i ddwylaw eraill. [Gwel Wordsworth yn ei Dest.: Groeg]. Gyda golwg ar Hamor (neu Hemor) bernir ei fod yn enw fel Pharaoh, nid personol ond teyrnlinol. Hamor oedd tywysog Sichem (Gen 34:2), ac felly yr oedd mwy nag un., ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er gwerth arian oddiwrth feibion Hamor yn#7:16 yn א B C Brnd. ond Al. Hamor [tad neu fab] Sichem D Al. Sichem. 17Ond fel yr oedd amser yr addewid yn agoshau, yr hon a#7:17 a addawodd [homologeô, cytuno, cydsynio, cyffesu, addaw (Mat 14:7) dadgan] א A B C Brnd.; dyngodd Test. Derb. addawodd Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aipht, 18hyd nes y cyfododd brenhin gwahanol ar#7:18 Ar yr Aipht א A B C Brnd. ond Al. yr Aipht, yr hwn nid adnabu Joseph#7:18 Naill ai (1) ddim yn ei barchu, ‘adnabod y rhai sydd yn llafurio, &c.’ (1 Thess 5:12) neu (2) nad oedd yn gwybod dim am dano na'i wasanaeth. Dywed Josephus fod y brenhin hwn o deyrnlinell wahanol. Y deyrnlinell flaenorol oedd yr Hyksos, y ‘brenhin gwahanol’ oedd Ahmes, yr hwn a'u gyrodd allan. Yr oedd Joseph wedi marw er ys 60 mlynedd.. 19Yr hwn, gan ymddwyn yn ddichellgar#7:19 katasophizô, ymddwyn yn gyfrwys, yn ddichellgar, arfer cyfrwystra. at ein cenedl ni, a ddrwg‐driniodd ein Tadau, fel#7:19 Neu, fel y bwrient allan eu babanod, i fwrw allan, &c. i achosi i'w babanod gael eu bwrw allan fel na chedwid hwy yn fyw#7:19 zôogoneô, dwyn allan yn fyw, bywhau (1 Tim 6:13), cadw yn fyw (Luc 17:33). Mewn Groeg clasurol, cenhedlu, epilio [Gwel Gen 6:19; Ex 1:17, LXX].. 20Yn y tymhor hwn y ganwyd Moses, ac efe oedd dlws ddigymhar#7:20 Llyth: dlws i Dduw, ffordd Hebreig o fynegi y gradd uwchaf o beth. Yr oedd Ninefe yn ‘ddinas fawr i Dduw’ (Jon 3:11). Gweler Gen 10:9; 30:8; Salm 36:6. Gelwir Moses yn dlws yn Ex 2:2. Geilw Josephus ef ‘yn blentyn Dwyfol yn ei ffurf.’ Golyga asteios, ‘tlws’ (o astu, dinas) yr hyn a berthyn i'r ddinas, ceinwych, dillyn, telaid, destlus, coethedig, fel yn gyferbyniol i'r hyn sydd wladaidd, trwsgl, anfoesog, garw.; ac efe a fagwyd dri mis yn nhy ei dad. 21Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharaoh a'i cymerodd ef i fyny, ac a'i magodd ef yn fab iddi ei hun#7:21 Y mae hen draddodiad nad oedd gan Pharaoh fab. Dywed Josephus mai Thermuthis oedd enw ei ferch.#Ex 2:2, 5, 10. 22A Moses a addysgwyd yn holl ddoethineb#7:22 Yr hwn oedd ddiarebol (1 Br 4:30). Yr oedd yr offeiriaid yn enwedig yn hyddysg mewn Gwyddoniaeth Naturiol, Seryddiaeth, Meddyginiaeth, Mesuroniaeth, &c. Yr oedd yr olaf yn ddefnyddiol iawn o herwydd gorlifiadau y Nilus. Y mae yn deilwng o sylw fod dau arweiniwr mawr y Ddwy Oruchwyliaeth wedi cael addysg benaf y byd, Moses a Phaul. yr Aiphtiaid; ac yr oedd efe yn alluog yn ei eiriau a'i weithredoedd#7:22 Dywedodd efe ‘Ni bum ymadroddus, &c.’ Yr oedd yn ‘araf ei ymadrodd,’ ond er hyny yn rymus. Yr oedd mater pwysig ei ymadroddion yn fwy na gwneyd i fyny am unrhyw hyawdledd yn yr hwn yr oedd yn ddiffygiol. Ni chofnodir y gweithredoedd nerthol a gyflawnodd; ond cawn gipdrem arnynt pan y lladdodd yr Aiphtiwr.. 23A phan yr oedd efe ar gyrhaedd ei ddeugeinfed flwyddyn#7:23 Llyth: A phan oedd amser deugain mlynedd yn cael ei gyflawni iddo, h.y. pan yr oedd bron yn llawn ddeugain oed. Ni ddywedir hyn wrthym yn Exodus. Yr oedd yn 80 pan ymddangosodd o flaen Pharaoh, ac yn 120 pan yn marw (Ex 7:7; Deut 34:7)., daeth i'w galon#7:23 Llyth: cyfododd i'w galon. Fel rhyw feddwl mawr anwrthwynebol yn cyfodi o ddyfnder mor ei ymwybodolrwydd, ac yn sefydlu ei hun, heb ofn byth ei ddymchwelyd, ar orsedd y galon. (1 Cor 2:9). ef i ymweled#7:23 ymweled, gan gynwys y meddylddrych o gynorthwyo, hyfforddi, cysuro, gwareau (Luc 1:68, 71; Iago 1:27). a'i frodyr ef, meibion Israel. 24Ac yn gweled un yn cael cam, efe a amddiffynodd ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid#7:24 ‘Efe a gadwodd i ffwrdd ergydion yr ymosodydd ac a fynodd gyfiawnder i'r hwn a orthrymid,’ yr hwn oedd wedi ei dreulio allan gan galedwaith a lludded., gan daro yr Aiphtiwr. 25Ac yr oedd efe yn tybied fod ei frodyr yn deall fod Duw trwy ei law ef yn rhoddi#7:25 Yr oedd y cam cyntaf wedi ei gymeryd. Nid oedd lladd yr Aiphtiwr yn ddamwain ond yn arwydd. Ond nid oedd y genedl yn barod. Gwrthodasant Moses. Felly yr oedd yr Iuddewon wedi gwrthod Crist. iddynt ymwared; ond hwy ni ddeallasant. 26A'r dydd canlynol yr ymddangosodd#7:26 Fel cenad Duw. Daeth allan i fod yn arweinydd iddynt. efe iddynt a hwy yn ymrafaelio#7:26 cweryla. Dynoda y gair yn fynych rhyfel geiriau, ymdaadleu, ymgecru (Ioan 6:52; Iago 4:2); ond yn y LXX. dynoda fel rheol, ymdrech gorphorol, fel dau yn ymladd, cernodio, ymgodymu, &c., ac a#7:26 sunêllassen [yr oedd yn cymodi] א B C D Brnd. ond Al.; sunêlasen [a'u gyrai, anogai i heddwch] A E Al. ymdrechodd eu cymodi mewn heddwch#7:26 Llyth: Yr oedd efe yn eu cymodi i heddwch. Dengys yr amser anmherffaith yr ymdrech a wnaeth. Y darlleniad arall a olyga, Efe a'i gyrodd [anogodd yn ddifrifol] i heddwch., gan ddywedyd, O wyr, brodyr ydych: paham y gwnewch gam â'ch gilydd? 27Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam a'i gymydog a'i gwthiodd ef ymaith, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr#7:27 dikastês, un sydd yn barnu yn ol y gyfraith, ac felly yn gwahaniaethu oddiwrth kritês. Efallai y golyga llywodraethwr, gwneuthurwr y gyfraith, a barnwr, yr hwn sydd yn ei rhoi mewn gweithrediad. arnom ni? 28A fyni di fy lladd i, y modd y lleddaist yr Aiphtiwr ddoe#7:28 Wedi lladd yr Aiphtiwr, cuddiodd Moses ei gorph yn y tywod (Ex 2:12). Yr oedd y dyn hwn yn dadgan teimlad cyffredin yr Israeliaid at Moses.? 29A Moses a ffôdd ar#7:29 Llyth: yn y gair hwn, gan awgrymu fod Moses wedi ffoi ar unwaith, fel yr oedd y gair yn cael ei lefaru. y gair hwn, ac a fu ymdeithydd yn ngwlad Midian#7:29 Gr. Madiam, rhwng Moab, Sinai, a'r Môr Coch., lle y cenedlodd ddau o feibion#7:29 Gersom ac Eliezer. Zipporah, merch Jethro oedd eu mam (Ex 18:2–4).. 30Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, Angel#7:30 Nid angel creedig, ond Ail Berson gogoneddus y Drindod. Gelwir ef Arglwydd (Jehofa) yn yr adnod nesaf, Duw yn 32. Yn Ex 3:2, Angel Jehofa; yn 4, Jehofa. Aeth Angel Duw o flaen y gwersyll (Ex 14:19). Crist yw Jehofa yr Hen Destament.#7:30 yr Arglwydd D E.; gad. א A B C. a ymddangosodd iddo yn Anialwch Mynydd Sinai#7:30 Yn Ex 3:1, Horeb. Yn yr H.D. defnyddir un enw yn fynych am y llall. Horeb yw amgyrhaedd y mynyddoedd tra y dynodai Sinai yr anial‐diroedd lle y maent. Eraill a ddywedant mai Sinai yw y rhan o fynyddoedd Horeb lle y rhoddwyd y Ddeddf. Ni enwir Horeb yn y T. N. mewn fflam dân mewn perth#7:30 Batos, draenllwyn, llwyn draen, yr Acacia gwyllt, gan ddangos, efallai, waelder a gwendid, yr hyn oedd yn llosgi, ac eto heb ei ddifa.. 31A Moses, pan welodd, a ryfeddodd#7:31 Y mae y gair yn dynodi edmygu, ac hefyd synu. Yr oedd yr olygfa yn brydferth, ac yn oruwch‐naturiol ac arwyddocaol. at y weledigaeth: ac efe yn neshâu i sylwi#7:31 katanoeô, sefydlu'r meddwl ar, ystyried yn ddifrifol, deall ar ol sylwadaeth. yn fanwl, daeth llais yr Arglwydd#7:31 ato, Gad. א A B Brnd., 32Myfi yw Duw dy Dadau, Duw Abraham ac#7:32 Duw. Gad א A B C Brnd. Isaac a#7:32 Duw. Gad א A B C Brnd. Jacob. A Moses wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiodd sylwi#7:32 katanoeô, sefydlu'r meddwl ar, ystyried yn ddifrifol, deall ar ol sylwadaeth. yn fanwl. 33A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Datod sandalau dy draed: canys y lle yr wyt yn sefyll arno#7:33 arno א A B C D Brnd.; ynddo E Test. Derb. sydd dir sanctaidd#7:33 Presenoldeb Duw gyda'i bobl sydd yn gwneuthur lle yn gysegredig. Yr oedd y draenllwyn a'i amgylchedd mor sanctaidd a'r Deml.. 34Gan weled y gwelais#7:34 Ffordd Hebreig yn benaf o bwysleisio ymadrodd. Yr wyf wedi gwelea yn sicr, yn hir, &c. ddrwg‐driniaeth fy mhobl sydd yn yr Aipht, a mi a glywais eu griddfan, ac a ddisgynais i'w gwaredu#7:34 Llyth: cymeryd allan.. Ac yn awr tyred#7:34 Llyth: yma! Rhagferf mewn ffordd o orchymyn., mi a'th anfonaf di i'r Aipht. 35Y Moses hwn yr hwn a wadasant#7:35 Nad oedd yn genad oddiwrth Dduw., gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn Llywodraethwr a Barnwr? hwn y mae Duw wedi ei anfon#7:35 Yn yr amser perffaith. Y mae gan Moses ei genadwri heddyw ac i barhau. yn Llywodraethwr ac yn Waredwr#7:35 lutrôtês. llyth: Prynwr, i brynu yn ol o gaethiwed. Y mae Moses yn gysgod o Grist. Yr oedd gwaredu yr Israel o gaethiwed yr Aipht yn arwyddlun o waredigaeth y byd o gaethiwed pechod. Barnwr, i waredu un dyn o law dyn arall; Gwaredwr (lutrôtês), i waredu cenedl gyfan o dan iau cenedl arall. Lutrôtes (yn fynych yn y LXX.) yma yn unig yn y T. N. lle y defnyddir Sôtêr. gyda#7:35 mewn cymdeithas a'r Angel, gyda'i gyfarwyddid, amddiffyn, a'i gymhorth. llaw yr Angel a ymddangosodd iddo yn y Berth. 36Hwn a'u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn#7:36 yn yr Aipht B C Tr. WH. Diw.; yn ngwlad yr Aipht א A E Ti. Al. yr Aipht, ac yn#7:36 Nid yn yr ystyr o ar, ar lan, ond y wyrth a gyflawnwyd yn y Môr ei hun, a'r holl waredigaeth gyd‐fynedol. Y mae traddodiad Iuddewig fod Duw yn y Môr Coch wedi cospi yr Aiphtiaid a 50 o bläau. y Môr Coch#7:36 Eruthros. Yn ol rhai, ar ol Erythra, hen frenhin; eraill, o herwydd ei liw a roddir gan y chwyn a dyfant ynddo., ac yn yr Anialwch ddeugain mlynedd. 37Hwn yw y Moses a ddywedodd wrth feibion Israel, Prophwyd a gyfyd Duw#7:37 yr Arglwydd C E, eich Test. Derb.: ein EH. gad. א A B D Brnd. i chwi o'ch brodyr, fel myfi#7:37 Deut 18:15. Dyfynodd Petr y geiriau, 3:22. Fel myfi, mewn anrhydedd a gradd a dylanwad (Num 12:8; Deut 34:10), neu, fel myfi, ‘un o honoch chwi, o'm brodyr.’#7:37 arno ef y gwrandewch C (D) E. gad. א A B Brnd.. 38Hwn yw efe a fu yn yr Eglwys#7:38 Neu, gynulleidfa. Pobl Israel fel yn gynulledig. Yr oeddent yn ekklêsia, wedi eu galw allan o blith y cenhedloedd, ac yn awr o'r Aipht, ac yr oeddent wedi eu galw ynghyd i weled Duw yn rhoddi ei Gyfraith yn nghanol y golygfeydd mwyaf rhamantus a'r ymddangosiadau mwyaf dychrynllyd. Moses oedd y Cyfryngwr (Gal 3:19, 20), efe a ymddiddanodd wyneb yn wyneb ag Angel Jehofa, Duw ei hun. Safai rhyngddo ef ‘a'r Tadau.’ Yn yr Anialwch, nid yn Judea, ‘y Tir Sanctaidd.’ Gall Duw gael Eglwys yn yr Anialwch. A bu Moses farw yn yr Anialwch, ond cipiodd angelion Duw ef i Baradwys. Hyd eto, y wraig yn yr Anialwch yw yr Eglwys (Dad 12:1–6). Yno y meithrinir hi am 42 o fisoedd, rhifedi gorphwys‐leoedd yr Israeliaid yn yr Anialwch. yn yr Anialwch gyda yr Angel a ymddiddanodd ag ef yn Mynydd Sinai a chyda ein Tadau; yr hwn a dderbyniodd oraclau#7:38 Logia, dywediad byr; mewn Groeg clasurol, oracl neu ateb y duwiau (am eu bod yn wastad yn fyr). Yn y LXX. am choshen, dwyfroneg yr Arch‐offeiriad, oblegyd cysylltai â hi er cael allan ewyllys Duw; am imrah, unrhyw ddywediad o eiddo Duw, addewid neu fygythiad. Yn yr adnod hon, cynwysiad y Gyfraith; yn Heb 5:12, am sylwedd yr Efengyl. Bywiol, neu byw. Dywediadau nad ydynt wedi marw, ond y mae ynddynt allu effeithiol. Y mae yr hyn a ddywedodd Moses i gael ei gyflawni. bywiol i'w rhoddi i ni: 39i'r hwn nid ewyllysiai ein Tadau fod yn ufudd, eithr gwthiasant ef ymaith, a throisant yn ol yn eu calonau i'r Aipht#7:39 Nid yn gymaint eu bod am ddychwelyd i'r Aipht, ond eu bod yn hoffi arferiadau eilunaddolgar yr Aipht (Ez 20:7, 8); ond gweler Num 14:4; Ex 16:3; Num 11:4, 5., 40gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau y rhai a ant o'n blaen: canys y Moses hwn, yr hwn a'n harweiniodd ni allan o wlad yr Aipht, ni wyddom ni beth a ddygwyddodd iddo#7:40 Gan gyfeirio at ei arosiad am 40 niwrnod ar Fynydd Sinai gyda Duw.#Ex 32:1. 41A hwy a wnaethant lo#7:41 Neu, yn hytrach, darw, wedi dyfod i'w lawn dwf. Yr oedd hyn mewn efelychiad o addoliad yr Aipht. Addolid Apis yn Memphis. Yr oedd efe yn arwyddlun o Osiris, yr Haul. Addolid Mnevis yn Heliopolis, a Bacis yn Hermonthis, yn agos i Thebes. Y mae delwau o deirw (hedegog) wedi eu dwyn o Ninefe i'r Amgueddfa Brydeinig. Cymharer y lloi aur a wnaeth Jeroboam (1 Br 12:28). I gynnrychioli Jehofa y gwnaed y llo aur hwn. Cyhoeddodd Aaron ar yr achlysur wyl i'r Arglwydd (Ex 32:4), ond troisant ogoniant Duw ‘i lun eidion yn pori glaswellt’ (Salm 106:20). Gwel Neh 9:18. yn y dyddiau hyny, ac a ddygasant aberth#7:41 Torasant yr ail orchymyn, sef nad oeddent i wneuthur delw o unrhyw beth. Y mae delwau mewn eglwysi Cristionogol yn sawru o eilunaddoliaeth. Hen weddillion paganiaeth ydynt. i'r eilun, a llawenychasant#7:41 Gan efelychu yr Aiphtiaid yn eu gwyliau paganaidd. Duw yn unig sydd i lawenychu yn ngweithredoedd ei ddwylaw. yn ngweithredoedd eu dwylaw. 42A Duw a drôdd#7:42 Troisant hwy yn eu calonau yn ol i'r Aipht, felly trodd Duw yn ei ymddygiad tu ag atynt. ‘Trodd efe yn elyn iddynt’ (Es 63:10)., ac a'u rhoddodd hwy i fyny i wasanaethu llu#7:42 Yr Haul, y Lleuad, a'r Ser. Llu, o herwydd eu rhifedi. Dyma y ffurf henaf o eilunaddoliaeth (Job 31:26). Gweler 2 Br 17:16; 21:3–5. y nef, megys y mae yn ysgrifenedig yn Llyfr y Prophwydi#7:42 Sef y Prophwydi Bychain (yn hytrach, Byraf), y rhai a ffurfient un gyfrol. Y mae Stephan yn cyfuno amryw o ymadroddion., A offrymasoch i mi anifeiliaid lladdedig ac aberthau Ddeugain mlynedd yn yr Anialwch, O Dy Israel?
43A chymerasoch i fyny#7:43 Codi yn uchel, dyrchafu, dwyn yn ngwydd pawb. Rhyw gynllun o Deml neu Gysegr Moloch oedd y tabernacl hwn, wedi cymeryd lle Tabernacl Duw. Dabernacl Moloch#7:43 Moloch neu Molech a olyga brenhin. Eilun‐dduw yr Ammoniaid, i'r hwn yr offrymid plant. Yr oedd ganddo ben ych, gyda dwylaw estynedig yn y rhai y rhoddid y plant bychain, a chynheuid tan odditanynt, a llosgid hwy i farwolaeth. Gwnelai yr offeiriaid guro tabyrddau, &c., er mwyn boddi eu llefau torcalonus. Diameu mai duw yr haul oedd Moloch. Baal, Arglwydd, a addolid hefyd fel duw yr haul. Gwel Jer 32:35. Talodd Solomon warogaeth i Moloch, a chyfododd allor iddo (1 Br 11:7). Ni fu Israel yn hollol rydd oddiwrth ei addoliad hyd nes y caethgludwyd hwy.,
A Seren y duw Rephan#7:43 Y mae yr Hebraeg yn darllen Chiun yn lle Rephan. Tebygol mai yr un a Sadwrn yw. Dywedir mai gair Coptaeg (un o ieithoedd yr Aipht) yw Rephan ac Arabaeg yw Chiun, a'r ddau yn dynodi y duw Sadwrn. Cyfrifa hyn am Rephan yn y LXX. yn Amos, gan mai Iuddewon Aiphtaidd oedd ei gyfieithwyr. Seren oedd arwydd‐lun y duw hwn. Dywed Cyril mai dallineb yw ystyr Rephan. Addolid ef fel Seren Ddydd yr enaid, ond nid oedd ei oleuni ond tywyllwch; deillion oedd y rhai a'i haddolent. Tebygol mai Iuddewon duwiol a roddodd yr enw hwn arno, fel y rhoddasant yr enw Beelzeboul ar dduw yr Ekroniaid.#7:43 Rephan A C E Tr. Al. Diw.; Rempham D; Remphan, Test. Derb.; Rompha B WH.; Romphan א Ti.,
Y lluniau#7:43 Tupoi, lluniau, delwau. Defnyddir yr un gair gan Josephus am ddelwau Laban a ladratawyd gan Rahel. (Gen 31:19). Nid yw prydferthwch celfyddyd yn cyfiawnhau eilunaddoliaeth. a wnaethoch, i'w haddoli hwynt:
A mi a'ch caeth‐gludaf chwi tu hwnt i Babylon#7:43 Dywed Amos ‘tu hwnt i Damascus.’ Llefarai y Prophwyd am gaethgludiad Israel i Assyria (2 Br 17:6), nid am gaethgludiad Judah i Babylon. Ond enwa Stephan y lle pellaf er dangos mor llwyr y cyflawnwyd gair yr Arglwydd. Dygwyd hwy yn gaethion i'r wlad o'r hon y cawsant eu delwau.#Amos 5:26, 27 LXX.
44Tabernacl y Dystiolaeth#7:44 Lle yr addawodd Duw gyfarfod â hwynt trwy eu cynnrychiolwyr. Yr oedd yn Dabernacl y Dystiolaeth, am ei fod yn cynwys ‘Arch y Dystiolaeth’ (Ex 25:22), yn yr hon yr oedd y ddwy lech yn cynwys y Deng Air Deddf (Ex 31:7). oedd gan ein Tadau yn yr Anialwch, fel y trefnodd#7:44 Gwel Ex 25:9–40; 26:30. yr hwn a ddywedai wrth Moses i'w wneuthur yn ol y portreiad#7:44 tupos, cynllun, dull, cynddelw, egluryn. a welsai. 45Yr hwn hefyd a ddarfu i'n Tadau ni, wedi ei dderbyn yn olynol#7:45 diadechomai, derbyn trwy arall, (oddiwrth Moses), derbyn trwy olyniaeth neu ewyllys, etifeddu. Y Tabernacl hwn oedd etifeddiaeth benaf yr Israeliaid. Yr oedd yr oll a ddaethant allan o'r Aipht wedi marw yn yr Anialwch oddigerth Caleb a Josua., ddwyn i mewn gyda Josua#7:45 Groeg, Iesu, ac yn Heb 4:8. Yr oedd Iesu yn meddwl Stephan yr holl amser, ond ni enwodd ef, oblegyd rhoddai hyny daw ar ei leferydd. Y mae hyfedredd nef‐anedig yn neillduoli ei araeth. Iesu yw sylfaen ei holl ymadroddion, ond y mae y sylfaen o'r golwg. Efe hefyd fydd ei gogoniant coronog, a bydd yn amlwg iawn cyn y diwedd., pan yn cymeryd meddiant#7:45 Llyth: yn [pan] yn dal meddiant o'r Cenhedloedd, hyny yw, o'u tiriogaeth, gwlad. Y mae yn ymadrodd byr am: Pan yr aethant i mewn ac y cymerasant ac y daliasant feddiant o diriogaeth y Cenedloedd. Yn amser Dafydd y llwyr‐orchfygwyd y saith cenedl yn Nghanaan. o diriogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrodd Duw allan o flaen gwyneb ein Tadau, hyd ddyddiau Dafydd; 46yr hwn a gafodd#7:46 Cafodd ffafr Duw, a cheisiodd am gael ffafr iddo ei hun trwy adeiladu Teml iddo. Ni chafodd. Nid oedd adeiladu y Deml o gymaint pwys. Cafodd Solomon ganiatad, nid am ei fod yn well dyn na'i dad. ffafr gerbron Duw, ac a ofynodd am gael trigfa#7:46 skênoma, cryfach gair na skênê, tabernacl, trigfa, diddosfa, gwel Salm 132:5. i#7:46 i Dduw A C Tr. Al. WH. i dy א B D La. Ti. Dduw Jacob. 47Ond Solomon a adeiladodd iddo Dy. 48Ond nid yw y Goruchaf yn preswylio#7:48 Fel y cyfaddefodd Solomon yn ei weddi (2 Cr 6:18). Felly Paul yn Athen (17:24) gan, efallai, gofio geiriau Stephan. mewn tai#7:48 temlau Test. Derb.; gad. א A B C D E Brnd. o waith dwylaw: fel y mae y Prophwyd yn dywedyd#Es 66:1, 2,
49Y Nef yw fy Ngorsedd,
A'r Ddaear yw Troedfainc fy nhraed:
Pa fath dy a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd:
Neu pa beth yw lle fy Nghorphwysfa i?
50Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll?
51O rai gwar‐galed#7:51 Cyndyn, ystyfnig, gwrthnysig, fel yr ych yn gwrthod yr ïau. Gweler Ex 32:9; Lef 26:41. a dienwaededig#7:51 Yr enwaediad yn arwyddlun o burdeb a chysegriad i Dduw. Y mae eisieu y clustiau i wrando, y galon i gredu, a'r war i ufuddhau, i'r gwirionedd. o galonau#7:51 calonau א A C D Brnd.; calon E. a chlustiau, yr ydych chwi yn wastad#7:51 Y mae wedi profi eu bod wedi gwrthwynebu Duw trwy yr oesau. yn gwrthwynebu#7:51 antipiptô, syrthio yn erbyn neu ar, rhuthro, ymegnio yn erbyn. yr Yspryd Glân: megys eich Tadau, felly chwithau. 52Pa un o'r Prophwydi ni ddarfu i'ch Tadau chwi ei erlid? A lladdasant y rhai a ragfynegasant Ddyfodiad yr Un Cyfiawn#7:52 Ni enwodd Stephan Crist o gwbl, ond rhydd iddo yma deitl a ddengys fod yr Iuddewon wedi cyrhaedd isaf‐nod eu drygioni pan y rhoddasant ef i farwolaeth., i'r hwn y buoch chwi yn fradwyr a llofruddion; 53y rhai a dderbyniasoch y Gyfraith fel trefniadau angylion#7:53 Ymadrodd dyrus. Amryw farnau a chyfieithiadau. (1) wrth orchymyn angylion; (2) yn ol trefniad angylion; (3) fel yr ordeiniwyd hi gan angylion; (4) rhoddwyd hi yn mhresenoldeb rhengoedd o angylion; (5) rhai a gyfieithant angylion, cenadon, gan esbonio fod y gyfraith wedi ei gweinyddu gan brophwydi, &c., fel cenadon Duw. Efallai fod y cyfieithiad yn y testyn mor gywir ac eglur ag un. Yr ystyr yw: Derbyniasoch y Gyfraith gyda pharch gan ei hystyried yn drefniad Dwyfol wedi dyfod trwy law angylion, y rhai oedd yn bresenol pan y rhoddwyd hi ar Sinai. Ymddiriedwyd trefniadau ei rhoddiad iddynt hwy. Dywed Paul ei bod wedi ‘ei threfnu trwy angylion’ (Gal 3:19). Eis, am, fel ag i fod, fel. Gwel Heb 11:8, ‘i'w dderbyn yn (fel) etifeddiaeth.’ Am bresenoldeb angylion, gweler Deut 33:2. Yr oedd llawer o draddodiadau Rabbinaidd yn eu cylch. Gweision Duw yw yr angylion, ac felly y mae eu gwaith yn Ddwyfol., ac nis cadwasoch.
Merthyrdod Stephan, 54–60.
54Ac wrth glywed y pethau hyn, hwy a dorwyd i'r byw#7:54 Gwel 5:33. yn eu calonau, ac a ysgyrnygasant ddanedd arno. 55Ac o hyd#7:55 huparchôn, bod o'r dechreu, yn barhaus, o hyd. Dengys ei sefyllfa ysprydol flaenorol. Arddangosir Stephan fel yn wastad yn llawn o'r Yspryd. Arosai i'r lan yn yr awyrgylch oleu a phur lle y mae'r Yspryd yn teyrnasu. yn gyflawn o'r Yspryd Glân, ac yn edrych yn graff#7:55 Gwel 1:10. Edrychodd y Dysgyblion yn graff i'r Nef fel yr Esgynodd Crist hyd nes y collasant olwg arno. Edrychodd Stephan yn graff i'r Nef hyd nes y cafodd olwg arno. Y mae y Sanhedrin wedi diflanu o'i olwg. Y mae eu cynddaredd wedi ei guddio tu ol i Gwmwl Gwyn Gogoniant Duw, y Shecinah Dwyfol, yr hwn oedd wedi symud o'r ddaear, ac yn awr wedi ymgartrefu yn y Nef, ac yn enfys amryw‐liwiog gan arddangos ysplander Priodoleddau Duw, o gylch yr Orsedd Wen Fawr; ac yn nghanol y dwndwr ca Stephan ei hun gyda Christ yn unig. i'r Nef, efe a welodd Ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefyll#7:55 Desgrifir Iesu fynychaf fel yn eistedd ar Ddeheulaw Duw, ac weithiau, mewn ffordd fwy gyffredinol, ar Ddeheulaw Duw. Ond yma y mae yn ‘sefyll.’ Y mae Crist wedi codi oddiar ei orsedd i sylwi ar, i gynorthwyo, ac i dderbyn ato ei hun, ‘y tyst,’ y merthyr ‘ffyddlawn’ Stephan. Y mae moesgarwch Dwyfol wedi ei godi ar ei draed. Y mae y gair yn dangos dyddordeb, cydymdeimlad, parch. ar Ddeheulaw Duw, 56ac a ddywedodd, Wele, yr wyf yn gweled y Nefoedd wedi eu llawn‐agoryd#7:56 Y Nefoedd, uwchaf, benaf, i'r hon y cipiwyd Paul. Agorwyd y Nefoedd i Grist ar ddechreuad ei waith, i Stephan ar ei orpheniad. Efe yn unig ar y pryd a'i gwelodd. Yr oedd Yspryd y Nefoedd ynddo, ac felly yr oedd Gorsedd Duw yn ymyl. Y mae y byd ysprydol yn wastad yn agos, ac y mae Duw weithiau yn caniatau cipdrem iddo, gwas Eliseus (2 Br 6:17); Esaiah 6; Eseciel, Ioan, &c.#7:56 dienoigmenous א A B C Brnd.; wedi eu gwahanu, eu parthu yn hollol., a Mab y Dyn#7:56 Mab y Dyn. Dyma yr unig le y gelwir Iesu gan arall yn Fab y Dyn. Y maent bron yn ail‐adroddiad o eiriau Crist ei hun, pan yn sefyll yn yr un lle, o flaen yr un barnwyr anghyfiawn, ‘Ar ol hyn y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar Ddeheulaw y Gallu.’ (Mat 26:64). Gwelodd Stephan ef yno yn barod. Dygwydda y frawddeg ‘Mab y Dyn’ 82 o weithiau yn y T. N. Gweler Dan 7:13, 14. yn sefyll ar Ddeheulaw Duw. 57Ond hwy a waeddasant â llef uchel, ac a gauasant eu clustiau, ac a ruthrasant#7:57 Yr oedd Stephan yn llawn o'r Yspryd Glân, a hwythau yn llawn o'r Yspryd Drwg. Hwn oedd y gair a ddefnyddid am y moch a feddianid gan y Cythreuliaid, ‘A hwy a ruthrasant dros y dybyn, &c. (Mat 8:32). Ni chafodd Stephan ei ddedfrydu i farwolaeth mewn ffordd gyfreithlon, ond rhoddwyd ffordd i gynddaredd. yn unfryd arno, 58ac a'i bwriasant ef allan#7:58 Yn ol trefniad Moses (Lef 24:14). Dyoddefodd Crist tu allan i'r Ddinas. o'r Ddinas, ac a'i llabyddiasant#7:58 Am gabledd. Yr oedd y gareg gyntaf i gael ei thaflu gan un o'r tystion at y condemniedig, ac yna yr oedd pawb i uno hyd nes y lleddid ef. (Deut 17:7) Dywedir mai ar y 26ain o Ragfyr y llabyddiwyd Stephan — y dydd yr ysgrifenir y nodiadau hyn (1896).: a'r tystion a ddodasant eu llaes‐wisgoedd uchaf#7:58 Fel ag i fod yn fwy parod a rhydd i labyddio. wrth draed dyn ieuanc#7:58 Defnyddid y gair am wr o dan ddeugain oed. Geilw Josephus Dafydd yn ‘ddyn ieuainc’ pan y lladdodd Goliath, er ei fod yn 30 oed. Dywed Chrysostom fod Paul yn 35 oed ar y pryd. Geilw Paul ei hun yn ‘Paul yr henafgwr’ (os nad llys‐genad yw ystyr y gair) yn Philemon 9; felly yr oedd yn debygol, dros 30 oed ar y pryd hwn. Ni thaflodd ‘Saul gareg ato, ond yr oedd yn cydsynio i'w ladd’ (22:20). Y mae yr Actau yn rhoddi yn benaf hanes yr hyn a wnaeth dau o'r Apostolion, Petr yr hwn a ddangosodd wendid mawr pan y gwadodd Crist, a Phaul yr hwn a ddangosodd greulondeb mawr pan yr erlidiodd ei Eglwys. a elwid Saul. 59A hwy a labyddiasant Stephan, ac efe yn galw#7:59 Neu, galw ar yr Arglwydd, sef yr Arglwydd Iesu. Dysgodd Crist ni i weddio; dysgodd Stephan ni i weddio ar Iesu. Gweddiodd Crist ar y Groes ar ei Dâd i dderbyn ei yspryd; gweddiodd Stephan ar Grist i dderbyn ei yspryd. ‘Rhai yn galw ar enw yr Arglwydd’ yw enw Cristionogion (9:14, 20; 22:16; 1 Cor 1:2, &c). Profa yr oll Ddwyfoldeb Crist. ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy Yspryd. 60Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn#7:60 Ymddengys mai Stephan oedd y tebycaf i Iesu Grist. Gweddia yr un gweddiau. Ond nid yw gystal a'i Arglwydd. Gweddiodd Stephan drosto ei hun gyntaf. Gweddiodd Crist dros ei elynion, ac yna drosto ei hun. Golyga ‘Na ddod,’ bwyso, cyfrif; gweler Mat 26:16, ‘Na osod y pechod yn y glorian.’. Ac wedi dywedyd hyn, efe a hunodd#7:60 A hunoad. Y fath wahaniaeth rhwng y bobl gynddeiriog a'r gawod gerig a phlentyn Duw yn myned i gysgu. Dyma air y mae crefydd wedi ei gysegru. Nid marwolaeth, ond cwsg esmwyth yw diwedd y credadyn ar y ddaear. Cemetery [lle i huno] yw claddle plant Duw. Dystawer a thyner y gylchlen am orweddfa Stephan pan yn myned i huno yn mreichiau ei Geidwad a choron merthyrdod ar ei ben, gan wireddu geiriau Iesu, ‘Lle yr wyf fi yno y bydd fy Niacon hefyd.’ Ioan 12:26..

Dewis Presennol:

Actau 7: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda