Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd yr Apostolion 8

8
PEN. VIII.
Creulondeb Saul. 4 Gwascaru yr Apostolion. 15 Dodi yr Yspryd glân, 18 Am Simon Magus. 38 Philip yn bedyddio yr Efnuch.
1A Saul oedd yn cyduno iw ladd ef, a’r pryd hynny y bu erlid mawr ar yr eglwys yr hon oedd yn Ierusalem: a phawb a wascarwyd trwy wlâd Iudaea a Samaria, ond yr Apostolion.
2A gwŷr bucheddol a gyd-ddugasant Stephan, ac a wnaethant alar mawr am dano ef.
3Eithr Saul oedd yn anrheithio yr eglwys, gan fyned i mewn i bôb tŷ, a chan dynnu allan wŷr, a gwragedd, efe a’u rhoddes yng-harchar.
4A’r rhai a wascarasid, a drammwyasant gan bregethu y gair.
5Yna yr aeth Philip i ddinas Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt.
6A’r bobl yn gytunol a ddaliodd ar y pethau a ddywede Philip wrthynt, gan glywed a gweled yr ar wyddion a wnaethe efe.
7Canys yr ysprydion aflan a aethant allan o lawer o’r rhai yr oeddent yn eu perchennogi, gan lefain â llef vchel: a llawer yn gleifion o’r parlys, ac yn gloffion a iachawyd.
8Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno.
9Yna yr oedd rhyw ŵr a’i enw Simon, yr hwn a arferase o’r blaen swyno yn y ddinas honno, ac a hudase bobl Samaria: gan ddywedyd ei [fod] ei hun yn rhyw vn mawr.
10Ar yr hwn yr oedd pawb o’r lleiaf i’r mwyaf yn gwrando gan ddywedyd: mawr rinwedd Dduw yw hwn.
11Ac yr oeddynt a’u coel arno, o herwydd iddo yn hir o amser eu hudo hwy â swynion.
12Eithr, cyn gyflymmed, ac y credâsant i Philip yn pregethu y pethau a berthynent i deyrnas nef, ac i enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd yn wŷr, ac yn wragedd.
13Ac yntef Simon a gredodd hefyd, ac a fedyddiwyd, ac a ddilynodd Philip, ac fe synnodd arno wrth weled gwneuthur rhyfeddodau a gwyrthiau mawrion.
14 # 8.14-17 ☞ Yr Epystol ar ddydd Mawrth y Sul gwyn. A phan glybu yr Apostolion y rhai oeddynt yn Ierusalem dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonâsant attynt Petr ac Ioan.
15Y rhai wedi iddynt ddyfod a weddiasant trostynt, ar dderbyn o honynt yr Yspryd glân.
16O blegit ni ddaethe efe eto ar yr vn o honynt, ond hwy a fedyddiasid yn vnic yn enw yr Arglwydd Iesu.
17Yna y dodasant eu dwylaw arnynt, ac hwy a dderbyniasant yr Yspryd glân.
18A phan ganfu Simon mai trwy osodiad dwylaw’r Apostoliō y rhoddid yr Yspryd glân, efe a gynnygiodd iddynt arian:
19Gan ddywedyd, rhoddwch i minne hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynnac y gosodwyf fy nwylo y derbynio efe yr Yspryd glân.
20Eithr Petr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian gyd â thi, i ddestruw, am i ti dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian.
21Nid oes i ti na rhan, na chyfran yn y gorchwyl hyn: o blegit nid yw dy galon di yn iniawn ger bron Duw.
22Edifarhâ gan hynny am dy ddrygioni hyn, a gweddia Dduw, ac fê faddeuir ond odid i ti feddyl-fryd dy galon.
23Canys mi a’th welaf mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymedigaith anwiredd.
24A Simon gan atteb a ddywedodd, gweddiwch chwi drosof fi ar yr Arglwydd, na ddelo dim arnaf o’r hyn a ddywedâsoch.
25Eithr hwynt hwy wedi iddynt dystio a llefaru gair yr Arglwydd, a ddychwelasant i Ierusalem, ac a bregethâsant yr Efengyl yn llawer o drefi Samaria.
26Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip gan ddywedyd: cyfot, a dos tu a’r deau, i’r ffordd yr hon sydd yn myned i wared o Ierusalem i Gaza: yr hon sydd anghyfannedd.
27Ac efe a gyfododd ac a âeth, ac wele ryw efnuch o Ethiopia, rhaglaw Candaces brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd yn llywodraethu ei holl dryssor hi: ac a ddaethe i Ierusalem i addoli.
28Ac fel yr oedd efe yn dychwelyd gan eistedd yn ei gerbyd, efe a ddarllennodd Esay y prophwyd.
29Yna y dywedodd yr Yspryd wrth Philip, dos yn nês, ac ymwasc â’r cerbyd ymma.
30A Philip a redodd atto, ac a’i clybu yn darllen y prophwyd Esay, ac a ddywedodd: a wyt ti yn deall yr hyn yr wyt yn ei ddarllen?
31Ac efe a ddywedodd, pa wedd y gallaf oni bydd rhyw vn i’m cyfarwyddo? ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fynu, ac eistedd gyd ag ef.
32A’r lle o’r Scrythur yr oedd efe yn ei ddarllen oedd hwn.#Esai.53.7. Efe a arweinid fel dafad i’r lladdfa, ac fel oen mud ger bron ti gneifiwr, felly nid agorodd efe ei enau.
33Yn ei ostyngiad y derchafwyd ei farn, a phwy a draetha ei oes ef, canys dygir ei fywyd oddi ar y ddaiar.
34Yna yr attebodd yr efnuch wrth Philip, ac a ddywedodd, am bwy attolwg i ti y dywed y prophwyd hyn, ai am dano ei hun, ai am ryw vn arall?
35Yna yr agores Philip ei enau, ac a ddechreuodd ar y scrythur honno, ac a bregethodd iddo yr Iesu.
36Ac fel yr oeddynt yn myned ar hŷd y ffordd hwy a ddaethāt at ryw ddwfr, a’r efnuch a ddywedodd, wele ddwfr, beth sydd yn lluddio fy meddyddio?
37A Philip a ddywedodd, os wyt yn credu o’th holl galon, fe a ellir: a chan atteb y dywedodd; yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn Fab Duw.
38Ac efe a orchymynnodd attal y cerbyd, ac hwy a aethant i wared ill dau i’r dwfr, Philip a’r efnuch, ac efe a’i bedyddiodd ef.
39Ac wedi iddynt ddyfod i fynu or dwfr, Yspryd yr Arglwydd a gymmerth Philip ymmaith, ac ni welodd yr efnuch m’o honaw mwyach, ond efe a aeth ar hyd ei ffordd yn llawen.
40A Philip a gaed [eil-waith] yn Azotus, ac efe a aeth drwy y wlâd, ac a bregethodd ym mhob dinas oni ddaeth i Cæsarea.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda