Yna y dywedodd yr Yspryd wrth Philip, dos yn nês, ac ymwasc â’r cerbyd ymma.
A Philip a redodd atto, ac a’i clybu yn darllen y prophwyd Esay, ac a ddywedodd: a wyt ti yn deall yr hyn yr wyt yn ei ddarllen?
Ac efe a ddywedodd, pa wedd y gallaf oni bydd rhyw vn i’m cyfarwyddo? ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fynu, ac eistedd gyd ag ef.