Yna Ananias a aeth ymmaith, ac a aeth i mewn i’r tŷ, ac a osododd ei ddwylo arno, ac a ddywedodd, y brawd Saul, yr Arglwydd Iesu am hanfonodd (yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd wrth ddyfod) fel y gwelech eil-waith ac i’th lanwer â’r Yspryd glân.
Ac yn ebrwydd y descynnodd oddi wrth ei olwg megis cenn, ac efe a gafodd ei olwg yn y man, ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd.