Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd yr Apostolion 9

9
PEN. IX.
Saul yn troi i’r ffydd. 33 Petr yn iachau Aeneas. 40 Ac yn cyfodi Tabitha.
1 # 9.1-22 ☞ Yr Epistol ar ddygwyl Pawl. A #Rufei.9.5. gala.1.33.(sic.)Saul etto yn chwythu bygythiadau a chelanedd yn erbyn dyscyblion yr Arglwydd, a aeth at yr arch-offeiriad:
2Ac a deisyfiodd lythyrau ganddo i Ddamascus at y Synagogau, fel o chae efe na gwŷr na gwragedd yn bôd o’r ffydd hon, y galle efe eu dwyn yn rhwym i Ierusalem.
3Ac fe ddarfu (fel yr oedd efe ar ei daith) iddo ddyfod yn gyfagos i Ddamascus, ac fe a lewyrchodd o’i amgylch yn #Pen.22.6. 1.cor.15.18. ddisymmwth oleuni o’r nef.
4Ac efe a syrthiodd ar y ddaiar, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, pa ham yr ydwyt yn fy erlid i?
5Yntef a ddywedodd, pwy wyt ti Arglwydd? a’r Arglwydd a ddywedodd: myfi yw Iesu yr hwn yr wyt ti yn ei erlid, anhawdd yw i ti wingo yn erbyn y swmbwl.
6Yntef yn crynnu, ac yn ofni a ddywedodd, Arglwydd beth a fynni di i mi ei wneuthur? a’r Arglwydd a ddywedodd, cyfot dos i’r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth a fydd rhaid i ti ei wneuthur.
7A’r gwŷr y rhai oeddynt yn cyd-teithio ag ef, a safasant yn synn, gan glywed y llais, ac heb weled neb.
8A Saul a gyfododd oddi ar y ddaiar, a phan agorodd efe ei lygaid, ni wele efe neb: eithr hwy a’i tywysasant ef erbyn ei law, ac a’i dugasant ef i mewn i Ddamascus.
9Ac efe a fu dri-diau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed.
10Ac yr oedd yn Damascus ryw ddiscybl a’i enw Ananias, wrth yr hwn y dywedodd yr Arglwydd mewn gweledigaeth: Ananias, ac yntef a ddywedodd, wele fi Arglwydd.
11A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, cyfot a dos i’r heol a elwir Iniawn, a chais yn nhŷ Iudas vn ai enw Saul o Tharsus: canys wele, y mae yn gweddio.
12Ac yntef a wele drwy weledigaeth ŵr a’i enw Ananias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei ddwylaw arno, fel y gwele eil-waith.
13Yna yr attebodd Ananias, ô Arglwydd, clywais gan lawer am y gŵr hwnnw, faint o ddrygau a wnaeth efe i’th sainct di yn Ierusalem.
14Hefyd y mae ganddo ymma awdurdod oddi wrth yr arch-offeiriaid i rwymo pawb a alwo ar dy enw.
15A dywedodd yr Arglwydd wrtho: dos ymmaith, canys y mae hwn yn llestr etholedic i mi, i ddwyn fy enw ger bron y cenhedloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel.
16Canys mi a ddangosaf iddo, pa bethau eu maint y bydd rhaid iddo ef eu dioddef er mwyn fy enw i.
17Yna Ananias a aeth ymmaith, ac a aeth i mewn i’r tŷ, ac a osododd ei ddwylo arno, ac a ddywedodd, y brawd Saul, yr Arglwydd Iesu am hanfonodd (yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd wrth ddyfod) fel y gwelech eil-waith ac i’th lanwer â’r Yspryd glân.
18Ac yn ebrwydd y descynnodd oddi wrth ei olwg megis cenn, ac efe a gafodd ei olwg yn y man, ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd.
19Ac wedi iddo gymmeryd bwyd, efe a gryfhâodd, yna y bu Saul ennyd o ddyddiau gyd â’r discyblion y rhai oedd ynt yn Damascus.
20Ac efe yn ebrwydd a bregethodd Grist yn y Synagogau, mai Mab Duw ydoedd efe.
21A phawb a’r a’i clybu ef a synnasant, ac a ddywedasant, ond dymma efe yr hwn oedd yn difetha y rhai a alwent ar yr enw hwn yn Ierusalem, ac a ddaeth ymma er mwyn hyn [sef] iw dwyn hwynt yn rhwym at yr arch-offeiriaid?
22Eithr, Saul a gynnyddodd fwy-fwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon y rhai oeddynt yn presswylio yn Damascus, gan gadarnhau mai hwn yw Crist.
23Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau, y cyd ymgynghorodd yr Iddewon am ei ladd ef:
24Eithr eu cydfwriad hwy a ŵybu Saul, a hwy a* ddisgwiliasant y pyrth ddydd a nôs iw ladd ef.
25Yna y discyblion a’i cymmerâsant ef o hŷd nôs, ac a’i danfonasant dros y mur gan ei ollwng i wared mewn basced.
26A phan ddaeth Saul i Ierusalem, efe a geisiodd ymwascu a’r discyblion, ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb gredu ei fod efe yn ddiscybl.
27Eithr Barnabas a’i cymmerodd ef, ac ai dug at yr Apostolion, ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelse efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan o honaw ag ef: ac mor hyderus fuase efe yn Damascus yn enw yr Iesu.
28Ac yr oedd efe yn myned i mewn, ac allan gyd â hwynt yn Ierusalem:
29Ac a lefarodd yn eofn yn enw yr Arglwydd Iesu, ac efe a ymddiddanodd, ac a ymddadleuodd yn erbyn y Grog-wŷr, a hwynt a geisiasant ei ladd ef:
30Yr hwn beth pan ŵybu y brodyr, hwy a’i dugasant ef i Cæsarea, ac a’i gyrrasant ef i Tharsus.
31Yna yr oedd yr eglwysi yn cael heddwch trwy holl Iudaea, Galilæa, a Samaria, a hwy a adailadwyd gan rodio yn yr Arglwydd, ac a amlhauwyd drwy ddiddanwch yr Yspryd glân.
32Bu hefyd i Petr, fel yr oedd yn trammwy trwy bob [gwlâd] iddo ef ddyfod hefyd at y sainct y rhai oeddynt yn trigo yn Lyda.
33Ac yno y cafodd efe ryw ŵr a’i enw Aeneas, yr hwn a fuase wyth mlynedd yn gorwedd yn ei wely, ac oedd yn glaf o’r parlys.
34A Phetr a ddywedodd wrtho, Ananias: Iesu Grist sydd i’th iachau, cyfot, a gwna dy wely, ac efe a gyfododd yn ebrwydd.
35A phawb a’i gwelodd o’r rhai a bresswylient yn Lyda a Saron, ac a ymchwelasant ac yr Arglwydd.
36Hefyd yr oedd yn Ioppa ryw ddiscybles a’i henw Tabitha, (yr hon os cyfieithir a elwir Dorcas) yr hon oedd gyfoethog o weithredoedd da, ac elusenau y rhai a wnaethe hi.
37Ac fe a ddarfu y dyddiau hynny iddi hi o glefyd farw, ac wedi iddynt ei golchi, hwy a’i dodasant mewn lloft.
38Ac o herwydd bod Lyda yn agos i Ioppa, y discyblion (yn clywed fod Petr yno) a anfonasant ddau ŵr atto ef, i ddeisyf, nad oede efe ddyfod hyd attynt hwy.
39A Phetr a gyfodes, ac a ddaeth gyd â hwynt, ac wedi iddo ddyfod, hwy a’i ddugasant i’r lloft, ac yr oedd yr holl wragedd gweddwon yn sefyll o’i amgylch yn ŵylo, ac yn dangos y peisiau a’r gwiscoedd a wnaethe Dorcas tra ydoedd hi gyd â hwynt.
40Yna Petr a’u bwriodd hwy allan oll, ac o ostyngodd ar ei liniau, ac a weddiodd: ac a droes at y corph, ac a ddywedodd, Tabitha, cyfot, ac hi a agorodd ei llygaid, o phan welodd hi Petr, hi a eisteddodd i fynu.
41Ac efe a roddodd ei law iddi, ac a’i cyfododd hi i fynu, ac efe a alwodd y sainct, a’r gwragedd gweddwon, ac efe a’i dangosodd hi yn fyw,
42A [hyn] fu hyspys dros holl Ioppa, a llawer a gredasant yn yr Arglwydd.
43A bu i Petr aros yn Ioppa lawer o ddyddiau gyd ag vn Simon barcer.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda