Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd yr Apostolion 7

7
PEN. VII.
Atteb Stephan. 58 A’i labyddiad.
1Yna y dywedodd yr arch-offeiriad, A ydyw y pethau hyn felly?
2Yntef a ddywedodd: ha-wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch: #Gene.12.4. Duw y gogoniant a ymddangosodd i’n tad Abraham pan oedd ym Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Charran,
3Ac a ddywedodd wrtho: dôs allan o’th wlâd, ac oddi wrth dy dylwyth, a thyret i’r tîr yr hwn a ddangoswyf i ti.
4Yna y daeth efe allan o dir y Caldeaid, ac y presswyliodd yn Charran: yn ôl hynny wedi marw ei dad, efe a’i dug ef oddi yno i’r tir ymma yn yr hwn yr ydych chwi yn presswylio yr awr hon.
5Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, naddo led troed, ac efe a addawodd ei ddodi iddo iw feddiannu, ac iw hâd yn ei ôl, pryd nad oedd plentyn iddo.
6A Duw a lefarodd fel hyn, dŷ #Gene.15.13. hâd ti a fydd drigiannol mewn tir estron, lle y caethiwir, ac y drygir ef bedwar cant mhlynedd.
7Eithr y genhedlaeth yr hon a wasanaethant a gospaf fi (medd Duw,) ac wedi hynny yr ânt allan, ac a’m gwasanaethant i yn y lle hwn.
8 # Gene.17.9. & 21.3. Ac efe a roddes iddo gyfammod yr enwaediad, ac felly [Abraham] a genhedlodd #Gene.25.24. Isaac, ac a’i henwaedodd ef yn yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd #Gen.29.33. Iacob, ac Iacob a genhedlodd y deuddec Patriarch.
9A’r Patrieirch gan genfigennu a werthâsant #Gen.30.5. Ioseph i’r Aipht: ond yr oedd Duw gyd ag ef,
10Ac a’i hachubodd ef o’i holl gyfyngderau, ac a #Gen.35.23. gen.37 28. gen.41.37. roes iddo hawddgarwch a doethineb yng-olwg Pharao brenin yr Aipht, ac efe a’i gwnaeth ef yn llywodraethwr ar yr Aipht, ac ar ei holl dy.
11Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aipht a Chanaan, a gorthrymder mawr, a’n tadau ni chaent lynniaeth.
12Ond pan #Gene.42.1. glybu Iacob fod yd yn yr Aipht, yn gyntaf efe a ddanfonodd ein tadau ni:
13 # Gen.45.4. A’r ail waith yr adnabuwyd Ioseph gan ei frodyr, a chenedl Ioseph a aeth yn hyspys i Pharao.
14Yna yr anfonodd Ioseph, ac a gyrchodd ei dad Iacob a’i holl genedl, pymthec enaid a thrugain.
15Yna y daeth #Gen.46.5. gen.49.33. Iacob i wared i’r Aipht, ac efe a fu farw a’n tadau hefyd.
16Ac hwy a symmudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd yr hwn a brynase Abraham #Gen.23.16. er arian gan feibion Emor [tad] Sichem.
17A phan nesaodd amser yr addewid yr hwn a dyngase Duw i Abraham, y bobl a #Exod.1.7. gynnyddodd, ac a amlhâodd yn yr Aipht:
18Hyd oni gyfodes brenin arall, yr hwn nid adwaene m’o Ioseph.
19Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant fel na heppilient.
20 # Exod.2.2. Y pryd hyn y ganwyd Moses yr hwn oedd hawddgar gan Dduw, ac a fagwyd dri mîs yn nhy ei dâd.
21Ac wedi ei fwrw allan, merch Pharao a’i cyfodes ef i fynu, ac a’i magodd ef yn fab iddi ei hun.
22A Moses oedd ddyscedic yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau a gweithredoedd.
23A phan oedd efe yn ddeugain mlwydd llawn o oed, daeth yn ei feddwl ef ymweled â’i frodyr plant yr Israel.
24A phan welodd efe vn yn cael cam, #Exod.2.11. efe a’i hamddeffynnod, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymmasid, gan daro yr Aipht-wr.
25Ac efe a dybiase fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn dodi iechydwriaeth iddynt trwy ei law ef, eithr hwynt ni ddeallasant.
26 # Exod.2.13. A’r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwynt yn cynhennu, ac a fynnase wneuthur cymmod rhyngddynt, gan ddywedyd, ha wyr, brodyr ydych chwi, pa ham y gwnewch gam â’i gylydd?
27Eithr yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymmydog, ar cilgwthiodd ef gan ddywedyd, pwy a’th osododd di yn dywysog, ac yn farn-wr arnom ni?
28A leddi di fyfi, fel y lleddaist yr Aiphtiwr ddoe?
29Yna y ffoes Moses ar y gair hwnnw, ac y bu ddieithr yn nhir Madian: lle y cenhedlodd efe ddau o feibion.
30Ac wedi cyflawni daugain mhlynedd yr ymddangosodd Angel yr Arglwydd iddo mewn fflam dân [mewn] perth yn #Exo.3.2. anialwch mynydd Sina.
31A Moses pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg, a phan nessaodd efe i ystyried, fe a ddaeth llef yr Arglwydd atto ef [gan ddywedyd]
32Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abrahan, Duw Isaac, a Duw Iacob, a Moses a ddychrynnwyd; ac ni feiddie ei ystyried.
33Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, dattot dy escidiau oddi am dy draed, canys y lle yn yr hwn yr wyt yn sefyll sydd dir sanctaidd.
34Gan weled y gwelais ddryg-fyd fy mhobl y rhai sy yn yr. Aipht, ac mi a glywais eu griddfan, ac mi a ddescynnais iw gwared hwy, tyrer tithe yn awr mi a’th anfonaf di i’r Aipht.
35Y Moses ymma yr hwn a wrthodâsant gan ddywes yn, pwy a’th roddes di yn dywysog, ac yn farn wr? hwn a anfonodd Duw yn dywysog, ac yn waredwr trwy law yr angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth.
36Hwn a’u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau a gwyrthiau yn nhîr yr Aipht, ac yn y môr côch, ac yn y diffaethwch #Exo.7.8, ddeugain mhlynedd.
37Dymma y Moses, yr hwn a ddywedodd wrth feibion yr Israel: #Pen.3.22. deut.18.15. yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi brophwyd o’ch brodyr, fol myfi, gwrandewch hwnnw.
38 # Exod.19.2. Hwn yw efe a fu yn y gynnulleidfa yn y diffaethwch, gyd a’r angel yr hwn a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Sina, ac a’n tadau ni, yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol iw rhoddi i ni.
39Yr hwn ni fynne ein tadau fod yn vfudd iddo, eithr gwrthodasant [ef,] a throasant yn eu calonnau i’r Aipht:
40Gan ddywedyd wrth Aaron: #Exod.32.1. gwna i ni dduwiau i’n blaenori ni, o blegit ni ŵyddom ni beth a ddarfu i’r Moses ymma yr hwn a’n dug ni allan o wlâd yr Aipht.
41Ac hwy a wnaethant lô yn y dyddiau hynny, ac a offrymmasant aberth i’r ddelw, ac a ymlawenhasant yng-weithredoedd eu dwylo.
42Yna y trôdd Duw, ac a’u rhoddes hwy i fynu i wasanaethu llu y nef, fel y mae yn scrifennedic yn llyfr y prophwydi: a offrymmasoch chwi i mi ebyrth, ac offrymmau yn yr anialwch ddeugain mhlynedd, [chwi] #Amos.5.25. tŷ Israel?
43A chwy-chwi a gymmerasoch babell Moloch, a seren eich Duw Remphan, lluniau y rhai a wnaethoch iw haddoli, minne a’th symmudaf chwi tu hwnt i Babilon.
44Yr oedd Tabernacl y destiolaeth ym mhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchymynnase yr hwn a ddywedase wrth #Exod.25.40. heb.8.5. Moses am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welse.
45Yr hwn a ddarfu i’n tadau ni ei gymmeryd, #Iosua. 3.14. a’i ddwyn i mewn gyd ag Iesu i berchennogaeth y cenhedloedd, y rhai a ddarfu i Dduw eu taflu allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd,
46 # 2.Sam.7.2. psal.132.5. 1.cron.17.12.|1CH 17:12 1.bren.6.1. Yr hwn a gafodd ffafor ger bron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Iacob.
47Eithr Salomon a adailadodd dŷ iddo ef.
48Ond nid yw y Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo, fel y dywed y prophwyd:
49Y nef [yw] fyng-orsedd-faingc, #Pen.17.24. isai.66.1. a’r ddaiar yw troedfaingc fy nhraed. Pa dŷ a adailedwch i mi, medd yr Arglwydd, a pha le fydd i’m gorphwysfa i?
50Ond fy llaw i a wnaeth hyn oll?
51 # Iere.9.26. ezech.44.9. O chwi a’r gwarrau sythion, a’r galon, ac a’r clustiau ddienwaedol, yr ydych chwi yn oestad yn gwrthwynebu yr Yspryd glân, megis eich tadau, felly chwithau.
52Pa vn o r prophwydi ni ddarfu i’ch tadau chwi ei erlid? ac hwy a laddâsant y rhai oeddynt yn rhagfynegu dyfodiad y Cyfiawn, i’r hwn y buoch chwi frad-wŷr a llofruddion.
53 # Exod.19.16. galat.3.19. Y rhai a gymmerasoch y gyfraith drwy ordinhâd angelion, ac ni’s cadwasoch.
54A phan glywsant y pethau hyn ffrommasant yn eu calonnau, ac escyrnygâsant ddannedd arno.
55 # 7.55-60 ☞ Yr Epystol ar ddigwyl Stephan. Ac efe yn gyflawn o’r Yspryd glân, a edrychodd yn ddyfal tu â’r nef, ac a welodd ogoniant Duw, ac Iesu yn sefyll ar ddehau-law Duw.
56Ac efe a ddywedodd: wele, mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mab y dyn yn eistedd ar ddehau-law Duw.
57Yna y gwaeddasant â llef fawr, ac y caeasant eu clustiau, ac y rhuthrasant ar vn-waith arno.
58Ac a’i bwriasant allan o’r ddinas, ac a’i labyddiasant: a’r tystion a roddâsant eu dillad wrth draed dyn ieuangc a elwid Saul.
59A hwy a labyddiasant Stephan, ac efe yn galu ar [Dduw,] ac yn dywedyd: Arglwydd Iesu derbyn fy Yspryd.
60Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef vchel: #Math.5.45. luc.23.34. 1.cor.4.12. Arglwydd na ddod y pechod hyn yn eu herbyn, ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda