Ioan Marc 13
13
1-2Fel yr oedd efe yn myned allan o’r deml, un o’i ddysgyblion á ddywedodd wrtho, Rabbi, edrych pa fath feini gorfawrion, a pha fath adeiladau uchelwych sydd yma! Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Ti á weli yr adeiladau mawrion hyn. Hwy á lwyrddymchwelir, fel nas gadewir y naill gàreg àr y llall.
3-7Gwedi hyny, fel yr oedd efe yn eistedd àr fynydd yr Oleẅwydd, gyferbyn a’r deml, Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, á ofynasant iddo o’r neilldu, Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha beth fydd yr arwydd pan fyddo y pethau hyn oll àr gael eu cyflawni? Iesu gàn eu hateb hwynt, á gymerodd achlysur i ddywedyd, Edrychwch rhag twyllo o neb chwi; canys llawer á gymerant arnynt fy nodwedd i, gàn ddywedyd, Myfi yw y #13:3 Person.dyn ac á dwyllant lawer. Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffröer chwi; canys rhaid i hyn ddygwydd, ond nid yw y diwedd eto.
8-13Canys cenedl á gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas; a bydd daiargrynfëydd mewn amrai fànau, a bydd newynau a therfysgoedd. Dechreuad gofidiau yw y pethau hyn. Ond edrychwch chwi atoch eich hunain; canys hwy á’ch traddodant i gynghorau; a chwi á faeddir yn y cynnullfëydd, ac á ddygir gèr bron llywiawdwyr a breninoedd o’m hachos i, i ddwyn tystiolaeth iddynt. Ond y mae yn raid yn gyntaf gyhoeddi y Newydd da yn mhlith pob cenedl. Ond pan ych arweiniont èr eich traddodi, na ragbryderwch, a na ragfyfyriwch beth á ddywedoch; ond bethbynag á roddir yn eich meddwl y meidyn hwnw, hyny dywedwch; oblegid nid chychwi fydd yn dywedyd, ond yr Ysbryd Glan. Yna y brawd á draddoda y brawd i farwolaeth; a’r tad y plentyn; a phlant á godant yn erbyn eu rhieni, ac á berant eu marwolaeth. A chwi á gasêir yn gyffredinol èr fy mwyn i; ond y neb à barâo hyd y diwedd á fydd cadwedig.
14-20Ond pan weloch chwi y ffieidd‐dra annghyfanneddol yn sefyll àr dir gwaharddedig, (ddarllenydd, ysdyria!) yna y rhai fyddant yn Iuwdëa, fföant i’r mynyddoedd; a’r hwn fyddo àr ben y tŷ, na ddisgyned i’r tŷ, a nac eled i fewn i gymeryd dim o’i dŷ; a’r sawl fyddo yn y maes, na throed yn ei ol i gyrchu ei fantell. Ond gwae y rhai beichiogion a’r rhai yn rhoi brònau yn y dyddiau hyny. Gweddiwch, gàn hyny, na byddo eich fföad yn y gauaf; canys yn y dyddiau hyny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu y fath o ddechreu y byd à grëodd Duw, a ni bydd chwaith. Pe trefnasai yr Arglwydd iddo hir barâad, ni ddiangai un enaid; ond èr mwyn y bobl à etholodd, efe á wnaeth ei barâad yn fỳrach.
21-23Yna os dywed neb wrthych, Wele! y mae y Messia yma, neu Wele! y mae efe acw, na chredwch. Canys geu‐Fessiäau a geubroffwydi á gyfodant, y rhai á wnant arwyddion a rhyfeddodau, èr hudo ymaith, pe dichonadwy, hyd yn nod yr etholedigion eu hunain. Gochelwch chwi, gàn hyny: mi á’ch rhybyddiais chwi am bob peth.
24-27Ond yn y dyddiau hyny, gwedi y gorthrymder hwnw, y tywyllir yr haul, a’r lloer á ettyl ei goleuni, a sêr y nef á syrthiant; a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd á siglir. Yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda gallu mawr a gogoniant. Yna yr enfyn efe ei gènadau, ac y cynnull ei etholedigion o bedryfànoedd byd, o eithafon nef a daiar.
28-31Dysgwch yn awr gyffelybiaeth oddwrth y ffigysbren. Pan fyddo ei gangenau yn dyner, ac yn blaguro, gwyddoch bod yr hâf yn agos. Yr un modd, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, nod wrth y drws. Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, nid â y genedlaeth hon heibio, hyd oni chwblâer y pethau hyn oll. Canys nef a daiar á ballant; ond fy ngeiriau i ni phallant ddim.
32-37Ond am y dydd hwnw, neu yr awr hòno, ni ŵyr neb (na’r angylion, na’r Mab,) ond y Tad. Byddwch ochelgar, byddwch wyliadwrus, a gweddiwch; canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser hwnw. Pan fyddo dyn yn bwriadu myned i daith, y mae efe yn gadael ei dŷ o dàn ofal ei weision, yn pènu i bob un ei waith, ac yn peri i’r drysawr wylio. Gwyliwch chwithau, gàn hyny; canys ni wyddoch pa bryd y dychwela meistr y tŷ, (pa un ai yn yr hwyr, ai ganol nos, ai àr ganiad y ceiliog, neu yn y bore;) rhag iddo, drwy ddyfod yn ddisymwth, eich cael chwi yn cysgu. A’r hyn wyf yn ei ddywedyd wrthych chwi, yr wyf yn ei ddywedyd wrth bawb o honoch, Gwyliwch.
Dewis Presennol:
Ioan Marc 13: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.