Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan Marc 12

12
1-12Yna gàn eu cyfarch hwynt àr ddamegion, efe á ddywedodd, Gwr á blànodd winllan, ac á ddododd gae o’i hamgylch, ac á gloddiodd le i wingafn, ac á adeiladodd dŵr, a gwedi ei gosod hi allan i lafurwyr, á aeth oddi cartref. Wedi dyfod y tymmor, efe á ddanfonodd was at y llafurwyr, i dderbyn ei gyfran o ffrwythau y winllan. Eithr hwy á’i daliasant ef, á’i baeddasant, ac á’i danfonasant ymaith yn waglaw. Trachefn, efe á ddanfonodd atynt was arall, yr hwn yr archollasant ei ben â chèryg, ac á’i gỳrasant ymaith yn anmharchus. Efe á ddanfonodd un arall, yr hwn á laddasant; ac o lawer ereill à ddanfonodd efe, y baeddasant rai, ac y lladdasant y lleill. O’r diwedd, â chanddo unig fab, ei anwylyd, efe á ddanfonodd hwnw hefyd atynt; canys efe á ddywedodd, Hwy á barchant fy mab i. Ond y llafurwyr hyny á ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd; deuwch, lladdwn ef, a’r etifeddiaeth fydd eiddom ni. Yna hwy á’i daliasant ef, a gwedi ei fwrw allan o’r winllan, hwy á’i lladdasant ef. Pa beth, gàn hyny, á wna perchenog y winllan? Efe á ddaw ac á ddyfetha y llafurwyr, ac á rydd y winllan i ereill. Oni ddarllenasoch y rhan hon o’r Ysgrythyr, “Maen à wrthododd yr adeiladwyr, á wnaed yn ben y gongl. Hyn á wnaethwyd gàn yr Arglwydd, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.” A hwy á geisiasant ei ddal ef, ond yr oedd arnynt ofn y lliaws; oblegid gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddameg.
DOSBARTH VII.
Y Broffwydoliaeth àr Fynydd yr Oleẅwydd.
13-17Yna yr archoffeiriaid, yr ysgrifenyddion, a’r henuriaid, gàn adael Iesu, á aethant ymaith, ac á ddanfonasant ato ryw Pharisëaid a Herodiaid, èr ei faglu ef yn ei eiriau. Y rhai hyn wedi dyfod i fyny, á ddywedasant wrtho, Rabbi, ni á wyddom mai cywir ydwyt, a nad wyt yn gofalu rhag neb; oblegid nid wyt yn derbyn wynebau dynion, ond yn dysgu ffordd Duw yn ffyddlawn. Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Gaisar, ai nid yw? A roddwn ni, ai ni roddwn ddim? Yntau yn canfod eu dichell hwynt, á atebodd, Paham y mỳnech fy maglu i? Dygwch i mi geiniog, fel y gwelwyf hi. Pan ddygasent hi, efe á ofynodd iddynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon, a’r argraff? Hwy á atebasant, Eiddo Caisar. Iesu á atebodd, Rhoddwch i Gaisar, yr hyn sydd eiddo Caisar; ac i Dduw, yr hyn sydd eiddo Duw. A hwy á ryfeddasant ato.
18-27Yna Saduwcëaid á ddaethant ato, y rhai á ddywedant nad oes bywyd dyfodol, ac á gynnygiasant yr holiad hwn; Rabbi, y mae Moses wedi deddfu, os bydd marw brawd neb, a gadael ei wraig àr ei ol heb blant, bod iddei frawd briodi ei weddw ef, a chodi eppil iddei frawd. Yn awr, yr oedd saith o frodyr. Y cyntaf á gymerodd wraig, a phan fu farw, ni adawodd eppil. Yr ail á’i priododd hi, ac á fu farw, ac yntau ni adawodd eppil; felly hefyd y gwnaeth y trydydd. Felly hwy á’i priodasant hi ill saith, a ni adawsant eppil. Yn ddiweddaf oll, bu farw y wraig hefyd. Yn yr adgyfodiad, gàn hyny, pàn gyfodant, i ba un o’r saith y bydd hi yn perthyn; oblegid hi á fu yn wraig i bob un o honynt? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Onid dyma weiddyn eich cyfeiliornad, eich bod heb wybod yr Ysgrythyrau, na gallu Duw? Oblegid yn mhlith y rhai à gyfodant oddwrth y meirw, ni bydd na gwreica na gŵra. Byddant y pryd hwnw yn gyffelyb i’r angylion. Ond am y meirw, yr adgyfodir hwynt, oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gàn ddywedyd, “Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob.” Nid yw Duw yn Dduw y meirw, ond y rhai byw. Am hyny, yr ydych yn cyfeiliorni yn fawr.
28-34Ysgrifenydd, yr hwn á’u clywsai hwynt yn dadleu, wrth ganfod cymhwysder ei atebiad, á ddaeth ato ef, ac á gynnygiodd yr holiad hwn; Pa un yw y gorchymyn pènaf o’r cwbl? Iesu á atebodd, Y pènaf o’r holl orchymynion yw, “Clyw, Israel, yr Arglwydd yw ein Duw ni. Yr Arglwydd sydd un:” a “Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth.” Hwn yw y gorchymyn cyntaf. Yr ail sy gyffelyb iddo: “Ceri dy gymydog fel ti dy hun.” Nid oes un gorchymyn mwy na’r rhai hyn. Yr ysgrifenydd á atebodd, Yn wir, Rabbi, ti á atebiast yn dda. Y mae un, a dim ond un; a’i garu ef â’r holl galon, ac â’r holl ysbryd, ac â’r holl enaid, ac â’r holl nerth; a charu cymydog un fel ef ei hun, sy fwy na’r holl boethoffrymau a’r aberthau, Iesu gwedi dàl sylw mòr synwyrol yr atebasai efe, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddwrth deyrnas Duw. Gwedi hyny, ni feiddiodd neb osod holiadau iddo.
35-37Fel yr oedd Iesu yn dysgu yn y deml, efe á ofynodd iddynt, Paham yr heura yr ysgrifenyddion, bod yn raid i’r Messia fod yn fab i Ddafydd? Er hyny y mae Dafydd ei hun, pan yn llefaru drwy yr Ysbryd Glan, yn dywedyd, “Yr Arglwydd á ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd àr fy neheulaw, hyd oni wnelwyf dy elynion yn droedfainc i ti.” Y mae Dafydd ei hun, gàn hyny, yn ei ef alw ef ei Arglwydd; pa fodd ynte y gall efe fod yn fab iddo? A’r bobl gyffredin á’i gwrandawent ef gyda hyfrydwch.
38-40Yn mhellach, wrth ddysgu, efe á ddywedodd wrthynt, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion y rhai á chwennychant rodio mewn gwisgoedd llaesion; y rhai á garant gyfarchiadau mewn lleoedd cyhoeddus, a’r prif-eisteddleoedd yn y cynnullfëydd, a’r lleoedd uchaf mewn gwestfëydd; y rhai ydynt yn llwyrddifa teuluoedd gwrag-gweddwon, ac yn arfer gweddiau hirion yn ffugesgus. Hwy á gant ddyoddef y gosb lèmaf.
41-44Ac Iesu gwedi eistedd gyferbyn a’r drysorfa, á edrychodd àr y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa; a chyfoethogion lawer á fwriasant lawer. Yna y daeth gwraig weddw dlawd, ac á fwriodd i fewn ddwy hatling, (yr hyn á wna ffyrling.) Iesu gwedi galw ei ddysgyblion, á ddywedodd wrthynt, Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi, roddi o’r wraig weddw dlawd hon fwy na’r rhai oll à fwriasant i’r drysorfa; oblegid hwynthwy oll á fwriasant o’r hyn oedd yn ngweddill ganddynt; ond hon o’i heisieu á fwriodd i fewn yr hyn oll à feddai – ei holl fywioliaeth.

Dewis Presennol:

Ioan Marc 12: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda