Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan Marc 11

11
1-11Fel yr oeddynt yn nesâu at Gaersalem, wedi dyfod cybelled â Bethphage a Bethania, gerllaw Mynydd yr Oleẅwydd, efe á ddanfonodd ddau o’i ddysgyblion, ac á ddywedodd wrthynt, Ewch i’r pentref gyferbyn â chwi, ac àr eich mynediad iddo, chwi á gewch ebol wedi ei rwymo, àr yr hwn ni farchogodd neb erioed; gollyngwch, a dygwch ef. Ac os gofyn neb i chwi, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Y mae yn raid i’r Meistr wrtho; ac yn ebrwydd efe a’i denfyn ef yma. Yn ganlynol hwy á aethant, ac á gawsant ebol yn rwym o flaen drws, mewn croesffordd, a hwy á’i gollyngasant ef yn rydd. Rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno á ddywedasant wrthynt, Paham y gollyngwch yr ebol yn rydd? A gwedi iddynt ateb fel y gorchymynasai Iesu iddynt, gadawyd iddynt ei gymeryd ef. Yn ganlynol hwy á ddygasant yr ebol at Iesu, àr yr hwn wedi iddynt ddodi eu mantelli, efe á eisteddodd arno. A llawer á daenasant eu mantelli àr hyd y ffordd; ereill á dòrasant gangau o’r gwŷdd, ac á’u taenasant àr y ffordd. A’r rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod àr ol, á floeddiasant, gàn ddywedyd, Hosanna! bendigedig fyddo yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd! Gwynfydedig fyddo Teyrnasiad ein tad Dafydd sydd yn agosâu! Hosanna yn y goruchafion! Fel hyn yr aeth Iesu i fewn i Gaersalem, ac i’r deml; lle, gwedi iddo edrych àr bob peth o’i amgylch, a hi weithian yn hwyr, yr ymadawodd efe gyda ’r deuarddeg i Fethania.
12-14Tranoeth, wedi iddo adael Bethania, yr oedd arno chwant bwyd; a gwedi canfod ffigysbren o hirbell, yn llawn o ddail, efe á aeth i edrych am ffrwyth arno, oblegid nid oedd cynauaf y ffigys eto. A gwedi iddo fyned, ni chafodd efe ddim ond dail. Yna y dywedodd efe wrtho, O hyn allan na fwytäed neb byth ffrwyth oddarnat ti. A’i ddysgyblion á’i clywsant ef.
15-19Gwedi dychwelyd i Gaersalem, efe á aeth i’r deml, ac á ỳrodd allan y rhai à werthent, a’r rhai à brynent yn y deml, ac á ddymchwelodd fyrddau y newidwyr arian, ac ystalon y gwerthwyr colomenod; a ni adawai i neb ddwyn llestri drwy y deml. Efe á’u dysgodd hwynt hefyd, gàn ddywedyd, Onid yw yn ysgrifenedig, “Fy nhŷ i á elwir yn dŷ gweddi i bob cenedl?” ond chwi á’i gwnaethoch yn ffau ysbeilwyr. A’r ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid wedi clywed hyn, á geisiasant pa fodd y dyfethent ef; canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl liaws yn sỳnu wrth ei ddysgeidiaeth ef. Ac yn yr hwyr, efe á aeth allan o’r ddinas.
20-24Bore dranoeth, fel yr oeddynt yn dychwelyd, hwy á welent bod y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd. Pedr wedi adgofio, á ddywedodd wrtho ef, Rabbi, wele y ffigysbren à ddiofrydaist, wedi gwywo yn barod. Iesu á atebodd, Bydded gènych ffydd yn Nuw. Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwybynag á ddywedo wrth y mynydd hwn, Cyfoder di, a thafler di i’r môr; a nid ammheuo yn ei galon, ond credu y bydd yr hyn à ddywed efe; bethbynag á orchymyn efe, á wneir iddo; o herwydd paham yr wyf yn sicrâu i chwi, pa bethau bynag y gweddiwch am danynt, os credwch y bydd i chwi eu derbyn hwynt, hwy á fyddant yn eiddoch chwi.
25-26A phan weddioch, maddeuwch os bydd gènych gŵyn yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau. Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ni faddeua chwaith eich camweddau chwithau.
27-33Trachefn, hwy á gyrhaeddasant Gaersalem; a fel yr oedd efe yn rhodio yn y deml, yr archoffeiriaid, yr ysgrifenyddion, a’r henuriaid, á ddaethant ac á ddywedasant wrtho, Drwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy á’th alluogodd di iddeu gwneuthur hwynt? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Y mae genyf finnau hefyd holiad iddei ofyn; atebwch fi, a mi á ddywedaf i chwithau drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. Yr #11:27 Title.hawleb oedd gàn Ioan i drochi, ai o’r nef yr oedd, ynte o ddynion? Atebwch fi. Yna ymresymu á wnaethant fel hyn yn eu plith eu hunain; Os dywedwn, O’r nef; efe á etyb, Paham, gàn hyny, na chredasoch ef? Ond os dywedwn, O ddynion; yr ydym mewn perygl oddwrth y bobl, y rhai oll á goeliant mai Proffwyd oedd Ioan. Am hyny hwy á atebasant, ac á ddywedasant wrth Iesu, Nis gallwn ni ddywedyd. Iesu á atebodd, Nid wyf finnau chwaith yn dywedyd i chwithau drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

Dewis Presennol:

Ioan Marc 11: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda