Fel yr oeddynt yn nesâu at Gaersalem, wedi dyfod cybelled â Bethphage a Bethania, gerllaw Mynydd yr Oleẅwydd, efe á ddanfonodd ddau o’i ddysgyblion, ac á ddywedodd wrthynt, Ewch i’r pentref gyferbyn â chwi, ac àr eich mynediad iddo, chwi á gewch ebol wedi ei rwymo, àr yr hwn ni farchogodd neb erioed; gollyngwch, a dygwch ef. Ac os gofyn neb i chwi, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Y mae yn raid i’r Meistr wrtho; ac yn ebrwydd efe a’i denfyn ef yma. Yn ganlynol hwy á aethant, ac á gawsant ebol yn rwym o flaen drws, mewn croesffordd, a hwy á’i gollyngasant ef yn rydd. Rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno á ddywedasant wrthynt, Paham y gollyngwch yr ebol yn rydd? A gwedi iddynt ateb fel y gorchymynasai Iesu iddynt, gadawyd iddynt ei gymeryd ef. Yn ganlynol hwy á ddygasant yr ebol at Iesu, àr yr hwn wedi iddynt ddodi eu mantelli, efe á eisteddodd arno. A llawer á daenasant eu mantelli àr hyd y ffordd; ereill á dòrasant gangau o’r gwŷdd, ac á’u taenasant àr y ffordd. A’r rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod àr ol, á floeddiasant, gàn ddywedyd, Hosanna! bendigedig fyddo yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd! Gwynfydedig fyddo Teyrnasiad ein tad Dafydd sydd yn agosâu! Hosanna yn y goruchafion! Fel hyn yr aeth Iesu i fewn i Gaersalem, ac i’r deml; lle, gwedi iddo edrych àr bob peth o’i amgylch, a hi weithian yn hwyr, yr ymadawodd efe gyda ’r deuarddeg i Fethania.