Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan Marc 10

10
1Yna y cyfododd efe ac y daeth i gyffiniau Iuwdëa, drwy y wlad y tu hwnt i’r Iorddonen. A thyrfëydd á gyrchasant ato drachefn; a thrachefn, fel yr oedd ei arfer, efe á’u dysgodd hwynt.
2-9A daeth rhyw Phariseaid, y rhai, èr ei brofi, a ofynasant iddo, Ai cyfreithlawn i ŵr ysgaru ei wraig? Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Pa orchymyn á roddes Moses i chwi àr y mater hwn? Hwythau á atebasant, Moses á ganiataodd i ni ysgrifenu iddi lythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, O herwydd eich tuedd anhydrin y rhoddes Moses i chwi y caniatâad hwn. Ond o’r dechreuad, àr y crëad, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt. O herwydd hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy ill dau fyddant un cnawd. Nid ydynt, gàn hyny, mwy yn ddau, ond un cnawd. Y peth, gàn hyny, á gyssylltodd Duw, na wahaned dyn.
10-12Ac yn y tý, ei ddysgyblion á ofynasant iddo drachefn am y peth hwn. Yntau á ddywedodd wrthynt, Pwybynag á ysgaro ei wraig, ac á briodo un arall, y mae efe yn godinebu yn ei herbyn hi; ac os gwraig á ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae hi yn godinebu.
13-16Yna y dygasant blant ato, fel y cyfhyrddai â hwynt; ond y dysgyblion á geryddasant y sawl oedd yn eu dwyn hwynt. Iesu gwedi canfod hyn, á fu anfoddlawn, ac á ddywedodd, Gadewch i’r plant ddyfod ataf fi, na rwystrwch hwynt; canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Duw. Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, pwybynag ni dderbynio deyrnas Duw fel plentyn, nid â efe byth i fewn iddi. Yna gwedi eu cymeryd yn eu freichiau, a gosod ei ddwylaw arnynt, efe á’u bendithiodd.
17-22Fel yr oedd efe yn myned allan i’r ffordd, daeth un ato dàn redeg, yr hwn, gàn ostwng àr ei liniau, á ofynodd iddo, Athraw da, pa beth sy raid i mi ei wneuthur, fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol? Iesu á atebodd, Paham y gelwi fi yn dda? Duw yn unig sy dda. A wyddost ti y gorchymynion? Na wna odineb; na lofruddia; na ladrata; na chamdystiolaetha; na chamgolleda; anrhydedda dy dad a’th fam. Y llall á atebodd, Rabbi, mi á gedwais y rhai hyn oll o’m plentyndod. Iesu, gwedi edrych arno, á’i hoffodd ef, ac á ddywedodd wrtho, Yr wyt, ti, èr hyny, yn ddiffygiol mewn un peth. Dos, gwerth yr hyn oll sy genyt, a dyro y gwerth i’r tylodion, a thi á gai drysor yn y nef; yna dyred a chanlyn fi, gàn ddwyn y groes. Yntau á bruddâodd wrth yr atebiad hwn, ac á aeth ymaith yn athrist; oblegid yr oedd ganddo feddiannau lawer.
23-27Yna Iesu, gwedi edrych o’i amgylch, á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Mòr anhawdd yw i’r rhai goludog fyned i fewn i deyrnas Duw! Y dysgyblion á sỳnasant wrth ei eiriau ef; ond Iesu á atebodd drachefn, ac á ddywedodd wrthynt, O blant, mòr anhawdd yw i’r rhai à ymddiriedant mewn golud, fyned i fewn i deyrnas Duw! Wrth hyn hwy á sỳnasant yn fwy fyth, ac á ddywedasant y naill wrth y llall, Pwy, gàn hyny, á all fod yn gadwedig? Iesu gwedi edrych arnynt, á ddywedodd, I ddynion annichon yw, ond nid i Dduw; canys i Dduw pob peth sy ddichonadwy.
28-31Yna y cymerodd Pedr achlysur i ddywedyd, Am danom ni, nyni á adawsom bob peth, ac á’th ganlynasom di. Iesu gàn ateb, á ddywedodd, Yn wir, meddaf i chwi, nid oes neb à adawo ei dỳ, neu ei frodyr, neu ei chwiorydd, neu ei dad, neu ei fam, neu ei wraig, neu ei blant, neu ei diroedd, èr fy mwyn i a’r efengyl, à’r nas derbyn yn awr yn y byd hwn y cànn cymaint, yn dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, gydag erlidiau; ac yn y byd à ddaw, fywyd tragwyddol. Ond llawer fyddant gyntaf y rhai ydynt ddiweddaf; a diweddaf y rhai ydynt gyntaf.
DOSBARTH VI.
Y Mynediad i fewn i Gaersalem.
32-34Fel yr oeddynt àr y ffordd i Gaersalem, ac Iesu yn cerdded o’u blaen hwynt, dychryn á’u daliodd, a hwy á’i dylynasant ef gydag ofn. Yna gwedi cymeryd y deuarddeg o’r neilldu, efe á fynegodd iddynt drachefn beth á ddygwyddai iddo. Wele, meddai efe, yr ydym yn myned i Gaersalem, lle y traddodir Mab y Dyn i’r archoffeiriaid, y rhai á’i heuogfarnant ef i farw, ac á’i traddodant ef i’r Cenedloedd; y rhai á’i gwatwarant ef, ac á’i fflangellant, ac á boerant arno, ac á’i lladdant; ond y trydydd dydd efe á gyfyd drachefn.
35-40Yna Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, a’i cyfarchasant ef, gàn ddywedyd, Rabbi, yr ydym yn deisyfu àr i ti ganiatâu yr hyn yr ydym àr fedr ei ofyn. Yntau á ddywedodd wrthynt, Beth á fỳnech i mi ei ganiatâu i chwi? Hwy á atebasant, Bod, pan gyrhaeddot dy ogoniant, i un o honom gael eistedd àr dy ddeheulaw, a’r llall àr dy aswy. Iesu á atebodd, Ni wyddoch beth ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed y fath gwpan ag yr wyf fi iddei hyfed; a myned o dàn y fath drochiad ag y rhaid i mi fyned o dano? Hwythau á atebasant, Gallwn. Iesu á ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch y fath gwpan ag yr wyf fi iddei hyfed; ac yr ewch o dàn drochiad fel yr hwn y mae yn raid i mi fyned o dano; ond eistedd àr fy llaw ddëau, a’m haswy, nis gallaf ei roddi, ond i’r sawl y darparwyd iddynt.
41-45Y deg wedi clywed hyn, á sòrasant wrth Iago ac Ioan. Ond Iesu gwedi eu galw hwynt yn nghyd, á ddywedodd wrthynt, Gwyddoch bod y rhai à gyfrifir yn dywysogion y cenedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt; a’u mawrion hwynt yn tra‐awdurdodi arnynt; ond nid felly y bydd yn eich plith chwi. Yn y gwrthwyneb; pwybynag á fỳno fod yn fawr yn eich plith chwi, á fydd yn weinidog i chwi; a phwybynag á fỳno fod yn bènaf, á fydd yn was i bawb. Canys hyd yn nod Mab y Dyn ni ddaeth i gael ei wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
46-52Yna y daethant i Iericho. Gwedi hyny, fel yr oedd efe yn ymadael oddyno, gyda ’i ddysgyblion, a thyrfa fawr, Bartimëus ddall, mab Timëus, yr hwn á eisteddai wrth ymyl y ffordd yn cardota, gwedi clywed mai Iesu y Nasarethiad oedd, á lefodd, gàn ddywedyd, Iesu, mab Dafydd, tosturia wrthyf! Llawer á’i dwrdiasant ef i dewi, ond efe á lefodd yn uwch o lawer, Mab Dafydd, tosturia wrthyf! Iesu á safodd, ac á archodd iddynt ei alw ef. Yn ganlynol hwy á alwasant y dall, gàn ddywedyd wrtho, Cymer galon; cyfod, y mae efe yn dy alw di. Yna gwedi taflu ei fantell ymaith, efe á neidiodd i fyny, ac á aeth at Iesu. Iesu gàn ei gyfarch ef, a ddywedodd, Beth á fỳni di i mi ei wneuthur i ti? Rabboni, atebai y dall, rhoddi i mi fy ngolwg. Iesu á ddywedodd wrtho, Dos; dy ffydd á’th iachâodd. Yn y fàn efe á gafodd ei olwg, ac á ddylynodd Iesu àr y ffordd,

Dewis Presennol:

Ioan Marc 10: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda