Ond am y dydd hwnw, neu yr awr hòno, ni ŵyr neb (na’r angylion, na’r Mab,) ond y Tad. Byddwch ochelgar, byddwch wyliadwrus, a gweddiwch; canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser hwnw. Pan fyddo dyn yn bwriadu myned i daith, y mae efe yn gadael ei dŷ o dàn ofal ei weision, yn pènu i bob un ei waith, ac yn peri i’r drysawr wylio. Gwyliwch chwithau, gàn hyny; canys ni wyddoch pa bryd y dychwela meistr y tŷ, (pa un ai yn yr hwyr, ai ganol nos, ai àr ganiad y ceiliog, neu yn y bore;) rhag iddo, drwy ddyfod yn ddisymwth, eich cael chwi yn cysgu. A’r hyn wyf yn ei ddywedyd wrthych chwi, yr wyf yn ei ddywedyd wrth bawb o honoch, Gwyliwch.