Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan Marc 13:8-13

Ioan Marc 13:8-13 CJW

Canys cenedl á gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas; a bydd daiargrynfëydd mewn amrai fànau, a bydd newynau a therfysgoedd. Dechreuad gofidiau yw y pethau hyn. Ond edrychwch chwi atoch eich hunain; canys hwy á’ch traddodant i gynghorau; a chwi á faeddir yn y cynnullfëydd, ac á ddygir gèr bron llywiawdwyr a breninoedd o’m hachos i, i ddwyn tystiolaeth iddynt. Ond y mae yn raid yn gyntaf gyhoeddi y Newydd da yn mhlith pob cenedl. Ond pan ych arweiniont èr eich traddodi, na ragbryderwch, a na ragfyfyriwch beth á ddywedoch; ond bethbynag á roddir yn eich meddwl y meidyn hwnw, hyny dywedwch; oblegid nid chychwi fydd yn dywedyd, ond yr Ysbryd Glan. Yna y brawd á draddoda y brawd i farwolaeth; a’r tad y plentyn; a phlant á godant yn erbyn eu rhieni, ac á berant eu marwolaeth. A chwi á gasêir yn gyffredinol èr fy mwyn i; ond y neb à barâo hyd y diwedd á fydd cadwedig.