Ioan Marc 14
14
DOSBARTH VIII.
Y Cwynos diweddaf.
1-2Gwedi deuddydd yr oedd gwyl y pasc, a’r bara croew. Ac yr oedd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion yn dyfeisio pa fodd y dalient Iesu drwy ddichell, ac y lladdent ef. Ond dywedasant, Nid àr yr wyl, rhag bod terfysg yn mhlith y bobl.
3-9A phan oedd efe wrth y bwrdd yn Methania, yn nhŷ Simon, gynt y gwahanglwyfus, daeth gwraig â chanddi flwch alabastr o enaint ysbignard, yr hwn oedd dra drudfawr; a hi á dòrodd y blwch, ac á dywalltodd y gwylybwr àr ei ben ef. Yr oedd yno rai yn anfoddlawn ynynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethwyd y golled hon o’r enaint? Oblegid gallasid ei werthu am fwy na thri chann ceiniog, y rhai y gallasid eu rhoddi i’r tylodion. A hwy á rwgnachasant yn ei herbyn hi. Ond Iesu á ddywedodd, Gadewch iddi. Paham yr ydych yn ei blino hi. Hi á wnaeth gymwynas i mi. Oblegid bydd gènych y tylodion bob amser gyda chwi, a gellwch wneuthur daioni iddynt pan y mynoch; ond myfi ni bydd gènych bob amser. Yr hyn à allai hon, hi á’i gwnaeth. Hi á eneiniodd fy nghorff yn mlaen llaw erbyn y claddedigaeth. Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, yn mha gongl bynag o’r byd y cyhoeddir y Newydd da, yr hyn á wnaeth y wraig hon yn awr a grybwyllir èr anrhydedd iddi.
10-11Yna Iuwdas Iscariot, un o’r deuarddeg, á aeth ymaith at yr archoffeiriaid, i fradychu Iesu iddynt. A hwy á wrandawsant arno gyda llawenydd, ac á addawsant roddi árian iddo. Gwedi hyny y ceisiai efe gyfleusdra addas iddei fradychu ef.
12-16Ac àr ddydd cyntaf y bara croëw, pan aberthir y pasc, ei ddysgyblion á ddywedasant wrtho, I ba le yr awn ni i barotoi i ti i fwyta y pasc? Yna yr anfonodd efe ddau o’i ddysgyblion, gàn ddywedyd wrthynt, Ewch i’r ddinas, lle y cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr; dylynwch ef; a pha le bynag yr el i fewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Pa le y mae y gwestle, lle y gallwyf fwyta y pasc gyda ’m dysgyblion? Ac efe á ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei dodrefnu yn barod, yno parotowch i ni. Yn ganlynol ei ddysgyblion á aethant ymaith, a gwedi dyfod i’r ddinas, á gawsant bob peth fel y dywedasai efe wrthynt, ac á barotoisant y pasc.
17-21Yn yr hwyr efe á aeth yno gyda ’r deuarddeg. Fel yr oeddynt yn bwyta wrth y bwrdd, Iesu á ddywedodd, Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, Un o honoch, yr hwn sydd yn bwyta gyda mi, á’m bradycha i. Ar hyn hwy á aethant yn drist iawn, ac á ofynasant iddo bob yn un ac un, Ai myfi yw? Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Un o’r deuarddeg yw efe, yr hwn sydd yn gwlychu ei damaid gyda mi yn y ddysgl. Y mae Mab y Dyn yn myned ymaith y modd y rhagddywedwyd yn yr Ysgrythyr am dano; ond gwae y dyn hwnw! drwy yr hwn y bradychir Mab y Dyn: gwell fuasai i’r dyn hwnw pe nas ganesid ef erioed.
22-26A fel yr oeddynt yn bwyta, Iesu á gymerodd fara, a gwedi y fendith, á’i tòrodd, ac á’i rhoddodd iddynt, gàn ddywedyd, Cymerwch; hwn yw fy nghorff. Yna y cymerodd efe y cwpan, a gwedi rhoddi diolch, efe á’i rhoddodd iddynt, a hwy oll á yfasant o hono. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed, gwaed y sefydliad newydd, tywalltedig dros lawer. Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf mwy o gynnyrch y winwydden, hyd y dydd hwnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Duw. A gwedi yr emyn, hwy á aethant i fynydd yr Oleẅwydd.
27-31A dywedodd Iesu wrthynt, Y nos hon y byddaf yn dramgwyddfa i chwi oll; canys ysgrifenedig yw, “Tarawaf y Bugail, a’r defaid á wasgerir.” Er hyny, gwedi i mi adgyfodi, mi á âf o’ch blaen chwi i Alilëa. Yna Pedr á ddywedodd wrtho, Pe byddent oll yn tramgwyddo, nis gwnaf fi byth. Iesu á’i hatebodd ef, Yn wir, yr wyf yn dywedyd i ti, mai heddyw, o fewn y nos hon, cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, y gwedi di fi deirgwaith. Ond Pedr á daerodd, gàn chwanegu, Pe gorfyddai i mi farw gyda thi, ni ’th wadaf byth. A’r lleill oll á ddywedasant yr un modd,
32-42Yna y daethant i le a’i enw Gethsemane, lle y dywedodd efe wrth ei ddysgyblion, Aroswch yma tra byddwyf yn gweddio. Ac efe á gymerodd gydag ef Bedr, ac Iago, ac Ioan, a chan gael ei daro â gofid a dychryn, efe á ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid wedi ei orchwyo â gloes angeuol; aroswch yma, a gwyliwch. A gwedi myned ychydig yn mlaen, efe á syrthiodd àr y ddaiar, ac á weddiodd, pe dichonadwy fuasai, àr iddo gael ei waredu o’r awr hòno, ac á ddywedodd, Abba (hyny yw Tad,) pob peth sy ddichonadwy i ti; cymer y cwpan hwn ymaith oddwrthyf; èr hyny nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr wyt ti. Yna y dychwelodd efe, a gwedi eu cael hwynt yn cysgu, á ddywedodd wrth Bedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? Oni allesit fod yn effro un awr? Gwyliwch a gweddiwch, na orchfyger chwi gàn brofedigaeth; yr ysbryd yn ddiau sy barod, ond y cnawd sydd wan. Trachefn, efe á giliodd, ac á weddiodd, gàn ddywedyd yr un geiriau. Gwedi iddo ddychwelyd, efe á’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; oblegid yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymâu, a ni wyddent beth i ateb iddo. Efe á ddaeth y drydedd waith, ac á ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn cysgu yn awr, ac yn gorphwyso? Y mae pob peth drosodd; daeth yr awr; a Mab y Dyn á draddodir i ddwylaw pechaduriaid. Cyfodwch, Awn. Wele! y mae yr hwn sydd yn fy mradychu yn agosâu.
43-50Yn ddiannod, cyn gorphen o hono lefaru, yr ymddangosodd Iuwdas, un o’r deuarddeg, gyda thyrfa fawr wedi eu harfogi â chleddyfau a ffyn, y rhai á ddanfonasid gàn yr archoffeiriaid, yr ysgrifenyddion, a’r henuriaid. A’r bradychwr á roddasai iddynt yr arwydd hwn: Yr hwn á gusanwyf, hwnw yw efe; deliwch ef, a dygwch ef ymaith yn ddiogel. Cygynted ag y daeth, efe á gyfarchodd Iesu, gàn ddywedyd, Rabbi, Rabbi, ac á’i cusanodd ef. Yna y rhoddasant ddwylaw arno, ac y daliasant ef. Ond un o’r rhai oedd yn bresennol á dỳnodd ei gleddyf, ac á darawodd was yr archoffeiriad, ac à dòrodd ymaith ei glust ef. Yna Iesu gàn eu cyfarch hwynt, á ddywedodd, A ydych chwi yn dyfod â chleddyfau a ffyn i’m dala i, fel rhai yn ymlid àr ol ysbeiliwr? Yr oeddwn i beunydd yn eich plith, yn athrawiaethu yn y deml, a ni ddaliasoch fi. Ond drwy hyn y cyflawnir yr ysgrythyrau. Yna hwy oll á’i gadawsant ef ac á ffoisant.
51-52A rhyw ẁr ieuanc á’i dylynodd ef, heb ddim ond llian wedi ei droi am ei gorff, yr hwn, wedi i’r milwyr ymaflyd ynddo, á adawodd y llian, ac á ffodd rhagynt yn noeth.
DOSBARTH IX.
Y Croeshoeliad.
53-54Yna hwy á ddygasant Iesu ymaith at yr archoffeiriad, gyda ’r hwn yr oedd yr holl archoffeiriaid, yr henuriaid, a’r ysgrifenyddion wedi ymgynnull yn nghyd. A Phedr á’i canlynodd ef o hirbell, hyd gyntedd tŷ yr archoffeiriad, ac á eisteddodd yno gyda ’r swyddogion, gan ymdwymo wrth y tân.
55-65Yn y cyfamser, yr archoffeiriaid a’r holl Sanhedrim á geisient dystiolaeth yn erbyn Iesu, èr ei gollfarnu ef i farw, ond ni chawsant yr un; oblegid llawer á ddygasant eudystiolaeth yn ei erbyn, ond yr oedd eu tystiolaethau yn annghyson. Yna rhywrai á gyfodasant, ac á gamdystiasant yn ei erbyn ef, gàn ddywedyd, Ni á’i clywsom ef yn dywedyd, Mi á ddinystriaf y deml hon o waith dwylaw, a mewn tridiau yr adeiladaf un arall heb fod o waith llaw. Ond yma hefyd yr oedd eu tystiolaeth yn ddiffygiol. Yna yr archoffeiriad, gàn sefyll i fyny yn y canol, á holodd Iesu, gàn ddywedyd, Onid atebi di ddim i’r peth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu i’th erbyn? Ond efe à fu ddystaw, a ni roddes un ateb. Trachefn, yr archoffeiriad gàn ei holi ef, á ddywedodd, Ai tydi yw y Messia, Mab y Bendigedig? Iesu á atebodd, Myfi yw; a chwi á gewch weled Mab y Dyn yn eistedd àr ddeheulaw yr Hollalluog, ac yn dyfod yn nghymylau y nef. Yna yr archoffeiriad á rwygodd ei ddillad, gàn ddywedyd, Pa raid i ni mwy wrth dystion? Chwi á glywsoch y cabledd. Beth yw eich barn chwi? A hwy oll á’i dyfarnent ef yn haeddu marwolaeth. Yna y dechreuodd rhai boeri arno; ereill guddio ei wyneb ef á’i gernodio, gàn ddywedyd wrtho, Dewinia pwy ydyw. A’r swyddogion á’i tarawsant ef àr ei fochau.
66-72A fel yr oedd Pedr yn y llys i waered, un o forwynion yr archoffeiriad á ddaeth yno, yr hon wedi canfod Pedr yn ymdwymo, á edrychodd arno, ac á ddywedodd, Yr oeddit tithau hefyd gyda ’r Iesu o Nasareth. Ond efe á wadodd, gàn ddywedyd, Nid adwaen i ef; a nid wyf yn dëall beth yr wyt ti yn ei feddwl. Yn ebrwydd efe á aeth allan i’r porth, a chanodd y ceiliog. Y llances wedi ei weled ef drachefn, á ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un o honynt. Yntau á wadodd drachefn. Ac yn mhen ychydig wedi, y rhai oedd yn bresennol á ddywedasant wrth Bedr, Yr wyt ti yn sicr yn un o honynt; oblegid Galilëad wyt ti, y mae dy lafarwedd yn dangos hyny. Ar hyny efe á daerodd gyda rhegfëydd a llwon, nad adwaenai efe mo’r hwn y sonient am dano. Y ceiliog á ganodd yr ail waith; a Phedr á gofiodd y gair á ddywedasai Iesu wrtho, Cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, ti a’m gwedi deirgwaith. A chan ystyried hyny, efe á wylodd.
Dewis Presennol:
Ioan Marc 14: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.