Ioan Marc 15
15
1Yn gynnar yn y bore, yr archoffeiriaid, gyda’r henuriaid, yr ysgrifenyddion, a’r holl Sanhedrim, wedi ymgynghori â’u gilydd, á rwymasant Iesu, á’i dygasant ef ymaith, ac á’i traddodasant at Bilat.
2-5Pilat á ofynodd iddo, gàn ddywedyd, Ti yw brenin yr Iuddewon? Yntau á atebodd, Yr wyt ti yn dywedyd yn iawn. A’r archoffeiriaid á’i cyhuddasant ef o lawer o bethau. Pilat á ofynodd iddo drachefn, gàn ddywedyd, Onid atebi di ddim? Gwel faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn. Ond nid atebodd Iesu mwy, fel y rhyfeddodd Pilat.
6-15Ac àr yr wyl y gollyngai efe yn rydd iddynt yn wastad ryw un carcharor, yr hwn á ofynent. Ac yr oedd yno un Barabbas, yr hwn á garcharasid gyda ’i gyd-derfysgwyr, y rhai yn y terfysg á wnaethant lofruddiaeth. A’r lliaws gyda chrochfloedd á ddeisyfodd àr Bilat wneuthur fel y gwnai bob amser iddynt. Yntau á’u hatebodd hwynt, gàn ddywedyd, A fỳnwch chwi i mi ollwng yn rydd i chwi frenin yr Iuddewon? (Canys efe á wyddai mai o genfigen y traddodasai yr archoffeiriaid ef.) Ond yr archoffeiriaid á gynhyrfasant y lliaws i bwyso am ryddâu Barabbas yn hytrach nag Iesu. Pilat drachefn á gyfryngai, gàn ddywedyd, Beth gàn hyny á fỳnwch i mi ei wneuthur i’r hwn yr ydych yn ei alw yn frenin yr Iuddewon? Hwythau á lefasant, Croeshoelia ef. Pilat á ofynodd iddynt, Paham? Pa ddrwg á wnaeth efe? A hwythau á lefasant yn daerach fyth, Croeshoelia ef. Yna Pilat, yn chwennych boddloni y dorf, á ryddâodd iddynt Farabbas, a gwedi peru fflangellu Iesu, efe á’i traddododd ef iddei groeshoelio.
16-20A’r milwyr á’i dygasant ef i’r llys à elwir Pretorium, lle, gwedi galw yn nghyd yr holl fyddin, y gwisgasant ef â phorphor, ac y coronasant ef â phlethdorch o ddrain, a chyfarchasant iddo, gàn ddywedyd, Hanbych well, brenin yr Iuddewon! Yna hwy á’i tarawsant ef àr ei ben â chorsen, ac á boerasant arno, ac á warogaethasant iddo àr eu gliniau. A gwedi iddynt ei watwar ef, hwy á ddyosgasant y porphor oddam dano, ac á’i gwisgasant ef â’i ddillad ei hun, ac á’i dygasant allan iddei groeshoelio.
21-28A hwy á gymhellasant un Simon, Cyreniad, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o’r wlad, tad Alecsander a Ruwfus, i ddwyn y groes. A hwy á’i dygasant ef i Golgotha, (hyny yw, y Benglogfa,) lle y rhoddasant iddo iddei yfed win wedi ei gymysgu â mỳr, yr hwn ni chymerai efe. Gwedi iddynt ei hoelio wrth y groes, hwy á rànasant ei ddillad ef, gàn fwrw coelbren beth á gymerai pob un, A’r drydedd awr oedd hi pan hoeliasant ef wrth y groes. A’r graifft, yn dynodi yr achos o’i farwolaeth ef, oedd yn y geiriau hyn, Brenin yr Iuddewon. Croeshoeliasant hefyd ddau ysbeiliwr gydag ef, un àr ei law ddeau, a’r llall àr ei aswy. A’r ysgrythyr hòno á gyflawnwyd, yr hon á ddywed, “Efe á gyfrifwyd yn mhlith drygweithredwyr.”
29-32Yn y cyfamser, y rhai á elent heibio á’i cablasant ef, gàn ysgwyd eu pènau, a dywedyd, Ha! tydi yr hwn á allasit ddinystrio y deml, a’i hailadeiladu mewn tridiau! gwared dy hun, a disgyn oddar y groes! Yr archoffeiriaid yr un modd, gyda’r ysgrifenyddion, gàn ei watwar ef, á ddywedasant wrth eu gilydd, Efe á waredodd ereill, oni all efe waredu ei hun? Disgyned y Messia, brenin Israel, yr awrhon oddar y groes, fel y gwelom, ac y credom. Nod y rhai á groeshoeliasid gydag ef, á’i difenwasant ef.
33-37Ac o’r chwechfed awr hyd y nawfed, bu tywyllwch dros yr holl dir. Ar y nawfed awr y dolefodd Iesu, gàn ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabachthani! yr hyn á arwydda, Fy Nuw, fy Nuw, paham ym gadewaist! Rhai oedd yn bresennol, pan glywsant hyn, á ddywedasant, Clywch! y mae efe yn galw àr Elias. Un àr yr un pryd á redodd, ac á wlychodd ysbwng mewn gwinegr, a gwedi ei rwymo wrth gorsen, á’i cynnygiodd iddo iddei yfed, gàn ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Elias iddei dỳnu ef i lawr. Ac Iesu gan lefain â llef uchel, á ymadawodd â’r ysbryd.
38-39Yna y rhwygwyd llen y deml yn ddwy oddi fyny hyd i waered. A phan welodd y canwriad, yr hwn á safai gyferbyn ag ef, ddarfod iddo, gyda llef mòr uchel, ymadaw â’r ysbryd, efe á ddywedodd, Yn wir, mab i dduw oedd y dyn hwn.
40-41Yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell, yn mhlith y rhai yr oedd Mair y Fagdalëad, a Mair mam Iago yr Ieuach, a Iose a Salome, (y rhai hyn á’i dylynasant ef ac á weiniasant iddo pan oedd efe yn Ngalilëa,) a llawer ereill, y rhai á ddaethent gydag ef i Gaersalem.
DOSBARTH X.
Yr Adgyfodiad.
42-47Gwedi ei myned hi yn hwyr (am ei bod yn ddarparwyl, sef y dydd cyn y Seibiaeth), daeth Ioseph o Arimathea, seneddwr anrhydeddus, yr hwn oedd yntau yn dysgwyl am Deyrnasiad Duw, ac á aeth yn hyf i fewn at Bilat, ac á ddeisyfodd gorff Iesu. Pilat, gàn ryfeddu ddarfod iddo farw cygynted, á alwodd am y canwriad, ac á ofynodd iddo á oedd efe gwedi marw èr ys meityn. A gwedi ei hysbysu gàn y canwriad, efe á roddes y corff i Ioseph; yr hwn wedi prynu llian main, a thynu Iesu i lawr, á’i hamdôdd yn y llian main, ac á’i dododd ef mewn tomawd à naddasid o’r graig, ac á dreiglodd faen àr y drws. A Mair y Fagdalëad a Mair mam Iose á welsant pa le y dodid ef.
Dewis Presennol:
Ioan Marc 15: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.