Matthew Lefi 15
15
1-9Yna rhyw ysgrifenyddion a Phariseaid o Gaersalem, á’i cyfarchasant ef, gàn ddywedyd, Paham y mae dy ddysgyblion di yn troseddu traddodiad yr henuriaid? Canys nid ydynt yn golchi eu dwylaw o flaen prydiau. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych chwi eich hunain, drwy eich traddodiad, yn troseddu gorchymyn Duw? Canys Duw á orchymynodd, gàn ddywedyd, “Anrhydedda dad a mam;” a “Pwybynag á ddifenwo dad neu fam, cosber ef â marwolaeth.” Ond yr ydych chwi yn haeru, Os dywed dyn wrth dad neu fam, “Yr wyf yn diofrydu bethbynag o’r eiddof á wna les i ti,” ni bydd iddo gwedi hyny anrhydeddu, drwy ei gynnorthwy, ei dad neu ei fam. Fel hyn, drwy eich traddodiad, yr ydych yn diddymu gorchymyn Duw. Ragrithwyr, da yr ydych yn ateb i’r nodwedd à roddodd Isaia i chwi, gàn ddywedyd, “Y bobl hyn á’m hanrhydeddant â’u gwefusau, èr bod eu calon wedi ymddyeithro oddwrthyf. Ond yn ofer yr addolant fi, tra y maent yn dysgu sefydliadau dynol yn unig.”
10-20Yna, gwedi galw y dyrfa, efe á ddywedodd wrthynt, Clyẅwch, a chymerwch addysg. Nid yr hyn sydd yn myned i fewn i’r genau, sydd yn halogi y dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau, sydd yn halogi y dyn. Ar hyny, ei ddysgyblion, gàn ei gyfarch ef, á ddywedasant, A sylwaist ti fel y tramgwyddodd y Phariseaid, pan glywsant y dywediad yna? Yntau á atebodd, Pob planigyn yr hwn ni phlànodd fy Nhad nefol, á ddiwreiddir. Gadewch iddynt. Arweinyddion deillion i’r deillion ydynt; ac os y dall á arwain y dall, y ddau á syrthiant i’r ffos. Yna Pedr gàn ei gyfarch ef, á ddywedodd, Eglura i ni y ddameg hòna. Iesu á atebodd, A ydych chwithiau hefyd yn ddiddëall? Onid ydych chwi yn dëall eto, bod yr hyn oll sydd yn myned i’r genau yn cilio i’r cylla, ac y bwrir ef allan i’r geudy? Eithr yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau, sydd yn tarddu o’r galon, a felly yn halogi y dyn. Canys o’r galon y deillia dyfeisiau drwg, llofruddiaethau, godinebau, puteiniadau, lladradau, geudystiolaethau, athrodau. Dyma y pethau à halogant y dyn; ond bwyta â dwylaw heb eu golchi ni haloga y dyn.
21-28Yna Iesu à giliodd i gyffiniau Tyrus a Sidon, ac wele! gwraig Ganaanëaidd o’r tiriogaethau hyn á ddaeth ato, gàn lefain, Feistr, Fab Dafydd, tosturia wrthyf; y mae fy merch yn cael ei blino yn dost gàn gythraul. Ond ni roddes efe un ateb iddi. Yna ei ddysgyblion á gyfryngasant, ac à attolygasant iddo, gàn ddywedyd, Gollwng hi ymaith, canys y mae hi yn llefain àr ein hol ni. Yntau gàn ateb, á ddywedodd, Fy anfoniad i sydd yn unig at ddefaid colledig cyff Israel. Er hyny, hi á ddynesodd, ac á ymgrymodd o’i flaen ef, gàn ddywedyd, O Arglwydd, cymhorth fi. Yntau á atebodd, Nid gweddus yw cymeryd bara y plant, a’i daflu i’r cwn. Gwir, Syr, meddai hithau, Er hyny, gadewir i’r cwn gael y briwsion à ddisgynant oddar fwrdd eu meistr. Yna Iesu, gàn ateb, á ddyweddodd wrthi, O wraig! mawr yw dy ffydd. Bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A’i merch á iachâwyd y cythrym hwnw.
29-31Gwedi i Iesu adael y lle hwnw, efe á ddaeth yn agos i fôr Galilea, ac á giliodd i fynydd, lle yr eisteddodd efe i lawr: a thyrfeydd mawrion á ymgynnullasant ato, gàn ddwyn gyda hwynt y cloffion, y deillion, y mudanod, yr anafusion, ac amrai ereill, y rhai á ddodasant wrth ei draed ef; ac efe á’u hiachâodd hwynt; nes yr oedd y bobl yn sỳnu wrth weled y mudanod yn siared, yr anafusion yn ddianaf, y cloffion yn cerdded, a’r deillion yn gweled; a hwy á ogoneddasant Dduw Israel.
32-39Yna Iesu á alwodd ei ddysgyblion ato, ac á ddywedodd, Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, canys y maent weithian wedi bod gyda mi dri diwrnod, a nid oes ganddynt ddim iddei fwyta; nis gollyngaf hwynt ymaith àr eu cythlwng, rhag iddynt lewygu àr y ffordd. Ei ddysgyblion á atebasant, O ba le y cawn ni ddigon o fara, yn y lle annghyfannedd hwn, i ddiwallu y fath dyrfa? Yntau a ofynodd iddynt, Pa sawl torth sy genych? Dywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain. Yna, gàn orchymyn i’r bobl ledorwedd àr y llawr, efe á gymerodd y saith dorth a’r pysgod, y rhai, gwedi iddo ddiolch, á dòrodd efe, ac á roddes iddei ddysgyblion, y rhai á’u rhànasant rhwng y bobl. Wedi i bawb fwyta, a chael eu digoni, hwy á ddygasant ymaith saith lawfasgedaid o’r briwfwyd gweddill. A’r rhai à fwytasent oeddynt bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
Yna gwedi gollwng ymaith y dyrfa, efe à aeth i long, ac á fordwyodd i gost Magdala.
Dewis Presennol:
Matthew Lefi 15: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.