Yna, gwedi galw y dyrfa, efe á ddywedodd wrthynt, Clyẅwch, a chymerwch addysg. Nid yr hyn sydd yn myned i fewn i’r genau, sydd yn halogi y dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau, sydd yn halogi y dyn. Ar hyny, ei ddysgyblion, gàn ei gyfarch ef, á ddywedasant, A sylwaist ti fel y tramgwyddodd y Phariseaid, pan glywsant y dywediad yna? Yntau á atebodd, Pob planigyn yr hwn ni phlànodd fy Nhad nefol, á ddiwreiddir. Gadewch iddynt. Arweinyddion deillion i’r deillion ydynt; ac os y dall á arwain y dall, y ddau á syrthiant i’r ffos. Yna Pedr gàn ei gyfarch ef, á ddywedodd, Eglura i ni y ddameg hòna. Iesu á atebodd, A ydych chwithiau hefyd yn ddiddëall? Onid ydych chwi yn dëall eto, bod yr hyn oll sydd yn myned i’r genau yn cilio i’r cylla, ac y bwrir ef allan i’r geudy? Eithr yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau, sydd yn tarddu o’r galon, a felly yn halogi y dyn. Canys o’r galon y deillia dyfeisiau drwg, llofruddiaethau, godinebau, puteiniadau, lladradau, geudystiolaethau, athrodau. Dyma y pethau à halogant y dyn; ond bwyta â dwylaw heb eu golchi ni haloga y dyn.