Yna rhyw ysgrifenyddion a Phariseaid o Gaersalem, á’i cyfarchasant ef, gàn ddywedyd, Paham y mae dy ddysgyblion di yn troseddu traddodiad yr henuriaid? Canys nid ydynt yn golchi eu dwylaw o flaen prydiau. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych chwi eich hunain, drwy eich traddodiad, yn troseddu gorchymyn Duw? Canys Duw á orchymynodd, gàn ddywedyd, “Anrhydedda dad a mam;” a “Pwybynag á ddifenwo dad neu fam, cosber ef â marwolaeth.” Ond yr ydych chwi yn haeru, Os dywed dyn wrth dad neu fam, “Yr wyf yn diofrydu bethbynag o’r eiddof á wna les i ti,” ni bydd iddo gwedi hyny anrhydeddu, drwy ei gynnorthwy, ei dad neu ei fam. Fel hyn, drwy eich traddodiad, yr ydych yn diddymu gorchymyn Duw. Ragrithwyr, da yr ydych yn ateb i’r nodwedd à roddodd Isaia i chwi, gàn ddywedyd, “Y bobl hyn á’m hanrhydeddant â’u gwefusau, èr bod eu calon wedi ymddyeithro oddwrthyf. Ond yn ofer yr addolant fi, tra y maent yn dysgu sefydliadau dynol yn unig.”
Darllen Matthew Lefi 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Matthew Lefi 15:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos