Yn ddiannod efe á ddirgymhellodd y dysgyblion i fyned i long, a myned drosodd o’i flaen ef, tra y byddai yntau yn gollwng ymaith y dyrfa. Gwedi iddo ollwng y dyrfa, efe á enciliodd wrtho ei hun i fynydd i weddio, ac á arosodd yno yn unig, nes ydoedd yn hwyr. Erbyn hyny, yr oedd y llong hanner y ffordd drosodd, yn cael ei lluchio gàn y tònau, o herwydd bod y gwynt yn groes. Yn y pedwerydd gwylbryd o’r nos, Iesu á aeth atynt, gàn gerdded àr y môr. Pan welodd y dysgyblion ef yn cerdded àr y môr, hwy á waeddasant, mewn dychryn, Drychiolaeth! ac á lefasant gàn ofn. Iesu yn ddiannod á siaredodd â hwynt, gàn ddywedyd, Cymerwch gysur, Myfi yw, nac ofnwch. Pedr gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Feistr, os tydi yw, par i mi ddyfod atat àr y dwfr. Iesu á ddywedodd, Dyred. Yna Pedr wedi dyfod i lawr o’r llong á gerddodd àr y dwfr tuagat Iesu. Ond wrth ganfod bod y gwynt yn dymhestlog, efe á ddychrynodd; a phan yn dechreu suddo, efe á waeddodd, Feistr, achub fi. Iesu yn ebrwydd gàn estyn ei law, á’i daliodd ef; ac á ddywedodd wrtho, Ddyn anymddiriedus! paham yr ammheuaist? Wedi llongi o honynt, peidiodd y gwynt. Yna y rhai oedd yn y llong á ddaethant, ac á ymgrymasant o’i flaen ef, gàn ddywedyd, Yn ddiau Mab Duw wyt ti.