Mathew 15:18-19
Mathew 15:18-19 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ond mae’r pethau dych chi’n eu dweud yn dod o’r galon, a dyna sy’n eich gwneud chi’n ‘aflan’. O’ch calon chi mae meddyliau drwg yn dod, a phethau fel llofruddio, godinebu, anfoesoldeb rhywiol, dwyn, rhoi tystiolaeth ffug, a hel straeon cas.
Mathew 15:18-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond y mae'r pethau sy'n dod allan o'r genau yn dod o'r galon, a dyna'r pethau sy'n halogi rhywun. Oherwydd o'r galon y daw cynllunio drygionus, llofruddio, godinebu, puteinio, lladrata, camdystiolaethu, a chablu.
Mathew 15:18-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr y pethau a ddeuant allan o’r genau, sydd yn dyfod allan o’r galon; a’r pethau hynny a halogant ddyn. Canys o’r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, torpriodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaethau, cablau