Matthew Lefi 16
16
1-4Yno y daeth rhyw Phariseaid a Saduwceaid, y rhai, iddei brofi ef, á ddymunasant arno ddangos iddynt arwydd yn yr wybren. Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Yn yr hwyr y dywedwch, E fydd yn dywydd teg, canys y mae yr wybr yn goch; ac yn y bore, E fydd tymhestl heddyw, canys y mae yr wybr yn goch a chuchiog. Medrwch farnu yn iawn am ymddangosiad yr wybren, eithr oni fedrwch chwi ddirnad arwyddion yr amseroedd? Cenedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd, ond ni roddir arwydd iddi, ond arwydd y proffwyd Iona. Yna efe á’u gadawodd hwynt, ac á aeth ymaith.
5-12A’i ddysgyblion ef, cyn eu dyfod drosodd, á annghofiasent gymeryd torthau gyda hwynt. Iesu á ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Saduwceaid. Ar hyn dywedasant, gàn resymu yn eu plith eu hunain, Hyn sydd am na ddygasom dorthau gyda ni. Iesu yn canfod hyny, á ddywedodd, Beth ydych yn ei resymu yn eich plith eich hunain, O chwi rai anymddiriedus! ddarfod i mi ddywedyd fel hyn, am na ddygasoch dorthau? A ydych chwi ddim yn dëall eto? nac yn cofio y pumm torth rhwng y pumm mil, a pha sawl basged á lanwasoch â’r briwfwyd? na’r saith dorth rhwng y pedair mil, a pha sawl llawfasged á lanwasoch? Pa fodd nad ydych yn dëall, nad oeddwn yn dywedyd am fara, pan berais i chwi ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a’r Saduwceaid? Yna y dëallasant, ddarfod iddo eu rhybyddio hwynt, nid rhag y surdoes à ddefnyddiai y Phariseaid a’r Saduwceaid mewn bara, ond rhag eu hathrawiaeth hwynt.
DOSBARTH IX.
Y Gweddnewidiad.
13-20Fel yr oedd Iesu yn myned i dalaeth Caisarea Philippi, efe á ofynodd iddei ddysgyblion, gàn ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd yw Mab y Dyn? Hwythau á atebasant, Rhai a ddywedant, Iöan y Trochiedydd; ereill, Elias; ereill Ieremia, neu un o’r proffwydi. Ond pwy, meddai efe, y dywedwch chwi fy mod i? Simon Pedr gàn ateb, á ddywedodd, Ti yw y Messia, Mab y Duw byw. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Gwỳn dy fyd di, Simon ab‐Iona; canys nid cig a gwaed á ddadguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Yr wyf finnau yn dywedyd i ti, Ti á elwir Càreg; ac àr y graig hon yr adeiladaf fy nghynnulleidfa, yn erbyn yr hon ni lwydda pyrth #16:13 Y byd anweledig.Hades. Heblaw hyny, mi á roddaf i ti allweddau teyrnas y nefoedd; bethbynag á rwymych ár y ddaiar, á fydd rwymedig yn y nefoedd; a phethbynag á ryddâych àr y ddaiar, á fydd wedi ei ryddâu yn y nefoedd. Yna y gwaharddodd efe iddei ddysgyblion ddywedyd i neb mai efe yw y Messia.
21-23O’r pryd hwnw y dechreuodd Iesu #16:21 Amlygu dirgelwch.ddadrin iddei ddysgyblion, bod yn raid iddo fyned i Gaersalem a dyoddef llawer yno oddwrth yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a chael ei ladd, a bod yn raid iddo gyfodi y trydydd dydd. Ar hyny Pedr, wedi ei gymeryd ef o’r neilldu, á’i ceryddodd ef, gàn ddywedyd, Pell fyddo hyn oddwrthyt, Feistr; ni ddygwydd hyn i ti. Yntau á drôdd ac á ddywedodd wrth Bedr, Dos ymaith, wrthwynebydd, rhwystr ydwyt yn fy ffordd i; oblegid nid ydwyt yn synied pethau Duw, ond pethau dynion.
24-28Yna y dywedodd Iesu wrth ei ddysgyblion, Os mỳn neb ddyfod dàn fy nhywysiaeth i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. Canys pwybynag a fỳno gadw ei fywyd, á’i cyll; a phwybynag á gollo ei fywyd èr fy mwyn i, á’i caiff. Pa lesâad i ddyn, ped ennillai efe yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? neu pa beth na ddyry dyn yn bridwerth am ei fywyd? Canys Mab y Dyn, wedi ei wisgo â gogoniant ei Dad, á ddaw àr ol hyn, gyda ’i gènadau nefol, ac á dâl i bob dyn yn ol ei weithredoedd. Yn wir, meddaf i chwi, rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma yn bresennol, ni phrofant angeu, hyd oni welont Fab y Dyn yn cychwyn ei deyrnasiad.
Dewis Presennol:
Matthew Lefi 16: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.