Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luwc 7

7
1-10Gwedi gorphen o hono ei ymadrawdd yn nghlywedigaeth y bobl, efe á aeth i fewn i Gapernäum. A gwas i ganwriad, yr hwn oedd anwyl gàn ei feistr, oedd yn glaf, yn mron marw. A’r canwriad wedi clywed sôn am Iesu, á ddanfonodd ato henuriaid Iuddewig, i attolygu arno ddyfod ac achub ei was ef. Pan ddaethant at Iesu, hwy á attolygasant arno yn daer, gàn ddywedyd, Y mae efe yn deilwng o’r gymwynas yma; oblegid y mae yn caru ein cenedl ni; ac efe á adeiladodd ein cynnullfa ni. Yna Iesu á aeth gyda hwynt; a phan oedd efe heb fod nebpell oddwrth y tŷ, y canwriad á anfonodd gyfeillion ato i ddywedyd, Feistr, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod o honot dàn fy nghronglwyd; ac yn wir ni thybiais fy hun yn gymhwys i ddyfod i’th ŵydd: dywed ond y gair a’m gwas á iachêir. Canys hyd yn nod myfi, yr hwn wyf dàn awdurdod ereill, â chenyf filwyr danaf, á ddywedaf wrth un, Dos, ac efe á â; wrth arall, Dyred, ac efe á ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe á’i gwna. Iesu gwedi clywed y pethau hyn á ryfeddodd wrtho, a gwedi troi, á ddywedodd wrth y dyrfa oedd yn canlyn, Yr wyf yn sicrâu i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, hyd yn nod yn Israel. A’r rhai à ddanfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i’r tŷ, á gawsant y gwas à fuasai glaf, yn holliach.
11-17Tranoeth, efe á aeth i ddinas à elwid Näin, yn cael ei ddylyn gàn ei ddysgyblion yn nghyd â thyrfa fawr. Fel yr oedd efe yn agosâu at borth y ddinas, y bobl oedd yn dwyn allan un marw, unig fab ei fam, a hòno yn weddw; a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi. Yr Arglwydd pan y gwelodd hi, á gymerodd drugaredd arni, ac á ddywedodd wrthi, Nac wyla. Yna y daeth efe yn mlaen, ac á gyfhyrddodd â’r elor (wedi i’r rhai oedd yn ei dwyn sefyll), ac á ddywedodd, Y mab ieuanc, cyfod, yr wyf yn gorchymyn i ti. Yna yr hwn à fuasai farw, á gyfododd yn ei eistedd, ac á ddechreuodd lefaru, ac efe á’i rhoddes iddei fam. A phawb oedd yn bresennol á darawyd ag arswyd, ac á ogoneddasant Dduw, gàn ddywedyd, Proffwyd mawr á gyfododd yn ein plith; ac ymwelodd Duw â’i bobl. A’r gair hwn, am dano ef, á aeth allan drwy Iuwdea, a’r holl wlad gymydogaethol.
18-23A dysgyblion Ioan á fynegasant iddo yr holl bethau hyn, ac efe á alwodd ddau o honynt ac á’u hanfonodd at Iesu i ofyn iddo, Ai ti yw yr Hwn sydd yn dyfod? ai un arall sy raid i ni ei ddysgwyl? Wedi iddynt ddyfod ato, hwy á ddywedasant, Ioan y Trochiedydd á’n hanfonodd ni i ofyn i ti, Ai ti yw yr Hwn sydd yn dyfod? ai un arall sy raid i ni ei ddysgwyl? Ar yr awr hòno yr oedd Iesu yn gwaredu llawer oddwrth glefydau a heintiau, ac ysbrydion drwg, ac yn rhoddi eu golwg i lawer o ddeillion. Ac efe á roddes yr atebiad hwn, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau à welsoch ac á glywsoch: gwneir i’r deillion weled, i’r cloffion rodio, i’r byddariaid glywed; y gwahangleifion á lanêir, y meirw á gyfodir, newydd da á ddygir i’r tylodion. A dedwydd yw yr hwn ni byddaf yn dramgwyddfa iddo.
24-30Gwedi i gènadau Ioan fyned ymaith, Iesu á ddywedodd wrth y dyrfa, Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch iddei weled? Ai corsen yn ysgwyd gàn wynt? Ond beth yr aethoch allan iddei weled? Ai dyn wedi ei ddilladu yn fwythus? Mewn palasau breninol y ceir y rhai à wisgant ddillad ceinwych, ac ydynt yn byw mewn moethineb. Beth ynte yr aethoch iddei weled? ai proffwyd? Ië, meddaf i chwi, a rhywbeth uwchlaw proffwyd. Oblegid dyma yr hwn yr ysgrifenwyd am dano, “Wele, yr wyf yn anfon fy angel o’th flaen, yr hwn á barotöa dy ffordd.” Canỳs yr wyf yn sicrâu i chwi, yn mhlith y rhai à aned o wragedd, nid oes broffwyd mwy nag Ioan y Trochiedydd; èr hyny y lleiaf yn Nheyrnasiad Duw sy fwy nag ef. Yr holl bobl, hyd yn nod y tollwyr, y rhai á glywsant Ioan, drwy gymeryd eu trochi ganddo, á anrhydeddasant Dduw; eithr y Phariseaid a’r cyfreithwyr, drwy beidio cymeryd eu trochi ganddo, á wrthodasant gynghor Duw, gyda golwg arnynt eu hunain.
31-35I ba beth y cymharaf ddynion y genedlaeth hon? I bwy y maent yn debyg? Tebyg ydynt i blant yn y farchnadfa, oblegid y rhai y cwyna eu cymdeithion, ac y dywedant, Canasom i chwi àr y bibell, ond ni chorelwasoch; canasom alargerddi i chwi, ond ni wylasoch. Canys daeth Ioan y Trochiedydd, yn ymattal oddwrth fara a gwin; a chwi á ddywedwch, Y mae cythraul ganddo. Daeth Mab y Dyn yn arfer pob un o’r ddau; ac yr ydych yn dywedyd, Carwr gwleddau a gwin ydyw, cydymmaith tollwyr a phechaduriaid. Ond doethineb á gyfiawnêir gan bawb o’i phlant.
DOSBARTH VI.
Gwyrthiau hynod ac Addysgiadau.
36-50Ac un o’r Phariseaid á ofynodd i Iesu fwyta gydag ef: yntau á aeth i dŷ y Pharisead, ac á osododd ei hun wrth y bwrdd. Ac, wele, gwraig o’r ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi ei fod ef yn bwyta yn nhŷ y Pharisead, á ddyg flwch gleinfaen o enaint, a chàn sefyll wrth ei draed ef o’r tu ol dàn wylo, á’u baddiodd hwynt â dagrau, ac á’u sychodd â gwallt ei phen, ac á gusanodd ei draed ef, ac á’u hirodd â’r enaint. Y Pharisead, yr hwn á’i gwahoddasai, pan welodd hyn, á ddywedodd ynddo ei hun, Pe buasai hwn broffwyd, efe á wybuasai pwy yw y ddynes hon sydd yn cyfhwrdd ag ef, ac o ba nodwedd; oblegid pechadures yw hi. Yna Iesu á ddywedodd wrtho, Simon, y mae genyf rywbeth iddei ddywedyd wrthyt. Yntau á atebodd, Rabbi, dywed. Dau ddyledwr oedd i’r un echwynwr; y naill oedd arno bùmm cànn ceiniog o ddyled, a’r llall ddeg a deugain. A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe á faddeuodd iddynt ill dau. Dywed, gàn hyny, pa un o honynt á’i câr ef yn fwyaf? Simon á atebodd, Yr wyf fi yn tybied mai yr hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Iesu á atebodd, Uniawn y bernaist. Yna gwedi troi at y wraig, efe á ddywedodd wrth Simon, A weli di y wraig hon? Pan ddaethym i’th dŷ, ni roddaist ti i mi ddwfr i’m traed; ond hon á olchodd fy nhraed â dagrau, ac á’u sychodd â’i gwallt. Ni roddaist ti i mi gusan; ond hon èr pan ddaeth i fewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed. Ti nid iraist fy mhen ag olew; ond hon á irodd fy nhraed ag enaint. Am hyny, yr wyf yn dywedyd wrthyt, maddeuwyd ei phechodau hi, y rhai ydynt lawer; am hyny, ei chariad sy fawr. Ond y sawl y maddeuir ychydig iddo, á gâr ychydig. Yna y dywedodd efe wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau. Y rhai oedd gydag ef wrth y bwrdd, á ddywedasant ynynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd hyd yn nod yn maddau pechodau? Ond efe á ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd á’th gadwodd; dos mewn heddwch.

Dewis Presennol:

Luwc 7: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda