Luwc 6
6
1-5Ar y Seibiaeth à elwid eilbrif, fel yr oedd Iesu yn myned drwy y meusydd ŷd, ei ddysgyblion á dỳnasant y twyseni, ac á’u rhwbiasant â’u dwylaw, ac á’u bwytasant. A rhyw Phariseaid á ddywedasant wrthynt, Paham y gwnewch yr hyn nid yw gyfreithlawn ei wneuthur àr y Seibiaeth? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed beth á wnaeth Dafydd a’i weinyddion, pan oedd arnynt chwant bwyd; pa wedd yr aeth efe i fewn i breswylfa Duw, ac y cymerodd ac y bwytaodd dorthau y cynnrychioldeb, ac y rhoddes hefyd o’r bara hwn iddei weinyddion; èr nas gellir yn gyfreithlawn ei fwyta gan neb ond yr offeiriaid? Efe á chwanegodd, Y mae Mab y Dyn yn feistr hyd yn nod àr y Seibiaeth.
6-11Bu hefyd àr Seibiaeth arall, iddo fyned i fewn i’r gynnullfa, ac athrawiaethu; ac yr oedd yno ddyn â’i law ddëau gwedi gwywo. A’r Ysgrifenyddion a’r Phariseaid á wylient, i edrych á iachâai efe àr y Seibiaeth, fel y caffent achos i achwyn yn ei erbyn ef. Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, á ddywedodd wrth y dyn â’r law gwedi gwywo, Cyfod, a saf yn y canol. Yntau á gyfododd ac á safodd. Yna Iesu á ddywedodd wrthynt, Myfi á ofynaf i chwi, Beth sy gyfreithlawn ei wneuthur àr y Seibiaeth? Da, ynte drwg? Achub einioes, ynte dinystrio? A, gwedi edrych oddamgylch arnynt oll, efe á ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law; ac wrth wneuthur hyn, ei law ef á wnaed yn iach fel y llall. Ond hwy á lanwyd o gynddaredd, ac á ymgynghorasant â’u gilydd, pa beth á wnaent i Iesu.
DOSBARTH V.
Enwad Apostolion.
12-16Yn y dyddiau hyny, Iesu á giliodd i fynydd i weddio, ac á dreuliodd yr holl nos mewn gweddifa. Pan aeth hi yn ddydd, efe á alwodd ato ei ddysgyblion, ac o honynt efe á ddewisodd ddeg a dau, y rhai á enwodd efe yn Apostolion. Simon, yr hwn hefyd á enwodd efe Pedr, ac Andreas ei frawd, Iago ac Ioan, Phylip a Bartholomëus, Matthew a Thomas, Iago mab Alphëus, a Simon à elwir yr Eiddus, a Iuwdas brawd Iago, a Iuwdas Iscariot, yr hwn á droes yn fradwr.
17-19Gwedi hyny, Iesu á aeth i waered gyda hwynt, ac á safodd àr wastadedd, lle yr oedd tyrfa o’i ddysgyblion, a lliaws mawr o bobl o bob parth o Iuwdea, Caersalem, ac arfordir Tyrus a Sidon, wedi dyfod i wrandaw arno, ac i gael eu hiachâu o’u clefydau. Y rhai hefyd à flinid gàn ysbrydion aflan, á ddaethant ac á iachâwyd. A phawb oedd yn ymdrechu cyfhwrdd ag ef, am fod rhinwedd yn dyfod allan o hono, ac yn eu hiachâu hwynt oll.
20-26Yna gwedi sefydlu ei olwg àr ei ddysgyblion, efe á ddywedodd, Gwỳn eich byd y tylodion, canys eiddoch chwi yw teyrnas Duw! Gwỳn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yn awr, canys chwi á ddigonir! Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yn awr, canys chwi á chwarddwch! Gwỳn eich byd pan ych casâo dynion, ac ych didolont o’u cymdeithas; ïe, pan ych gwaradwyddont ac ych enllibiont o achos Mab y Dyn! Byddwch lawen y dydd hwnw, a gorfoleddwch, gàn wybod mai mawr yw eich gobr yn y nef! oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i’r Proffwydi. Eithr gwae chwi y cyfoethogion; canys chwi á dderbyniasoch eich cysuron! Gwae chwi y rhai llawnion; canys chwi á ddygwch newyn! Gwae chwi y rhai á chwarddwch yn awr; canys chwi á alerwch ac á wylwch! Gwae chwi pan ddywedo dynion yn dda am danoch; canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt am y geubroffwydi.
27-36Ond yr wyf yn erchi i chwi, fy ngwrandaẅwyr, cerwch eich gelynion, gwnewch dda i’r rhai à ’ch casâant, bendithiwch y rhai á’ch melldithiant, a gweddiwch dros y rhai à’ch sarâant. I’r hwn à’th darawo àr y naill gern, cynnyg y llall hefyd; ac i’r hwn à ddygo ymaith dy fantell, na wahardd dy bais hefyd. Dyro i bob un à ofyno gènyt; a chàn y sawl à gymero ymaith dy eiddo, na chais yn ol. A fel y mỳnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud. Oblegid os cerwch y rhai à’ch carant chwithau, pa ddiolch sydd i chwi, gàn fod hyd yn nod pechaduriaid yn caru y sawl à’u carant hwythau? Ac os gwnewch dda i’r rhai à wnant dda i chwithau, pa ddiolch sydd i chwi, gàn fod pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth? Ac os rhoddwch fenthyg i’r rhai yr ydych yn gobeithio cael ganddynt, pa ddiolch sydd i chwi, gàn fod pechaduriaid yn rhoddi benthyg i bechaduriaid, fel y derbyniont gymaint yn ol? Eithr cerwch eich gelynion, gwnewch dda a rhoddwch fenthyg, heb mewn un modd anobeithio; a’ch gobr fydd mawr; a meibion fyddwch i’r Goruchaf; canys cymwynasgar yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg. Byddwch, gan hyny, drugarogion, fel y mae eich Tad yn drugarog.
37-38Na farnwch, a ni ’ch bernir; na chollfarnwch, a ni ’ch collfernir; gollyngwch yn rydd, a gollyngir chwi; rhoddwch, a chwi á gewch: mesur da, dwysedig a gwedi ei ysgwyd, ac yn myned drosodd, a dywelltir idd eich arffed; canys â’r un mesur ag y rhoddwch i ereill, y derbyniwch eich hunain.
39-45Efe á arferodd y gymhariaeth hon hefyd; A ddichon y dall dywys y llall? Oni syrthiant ill dau yn y clawdd? Nid yw y dysgybl uwchlaw ei athraw; ond pob dysgybl wedi ei berffeithio, á fydd fel ei athraw. A phaham yr wyt ti yn edrych àr y brycheuyn yn llygad dy frawd; ond heb ganfod y ddellten yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y gelli ddywedyd wrth dy frawd, Frawd, gad i mi dỳnu y brycheuyn allan o’th lygad, heb ysdyried bod dellten yn dy lygad dy hun? Ragrithiwr, tỳn y ddellten allan o’th lygad dy hun yn gyntaf: yna y gweli i dỳnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd. Nid yw hwnw bren da, sydd yn dwyn ffrwyth drwg; a nid yw hwnw bren drwg, sydd yn dwyn ffrwyth da. Oblegid pob pren á adwaenir wrth ei ffrwyth. Ni chesglir ffigys oddar ddrain; na gwinrawn oddar berth. Y dyn da o ddaionus drysor ei galon, á ddwg yr hyn sy dda: y dyn drwg o ddrygionus drysor ei galon, á ddwg yr hyn sy ddrwg; canys o gyflawnder y galon y llefara y genau.
46-49Ond paham yr ydych, wrth fy nghyfarch i, yn gwaeddi, Feistr, Feistr, a heb ufyddâu i’m gorchymynion? Pwybynag á ddelo ataf fi, ac á wrendy fy ngorchymynion, ac á’u gwnelo hwynt, mi á ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn debyg: tebyg yw i ddyn à adeiladodd dŷ, a gwedi cloddio yn ddwfn, á osododd ei sail àr y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y rhyferthwy á ymdòrodd àr y tŷ hwnw, a ni allai ei siglo; oblegid yr oedd wedi ei seilio àr y graig. Ond yr hwn á wrendy a ni wna, sy debyg i ddyn yr hwn, heb osod sail, á adeiladodd dŷ àr y ddaiar, yr hwn, pan ymdòrodd y rhyferthwy yn ei erbyn, á syrthiodd, ac á aeth yn bentwr o adfeiliau.
Dewis Presennol:
Luwc 6: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.