Ond yr wyf yn erchi i chwi, fy ngwrandaẅwyr, cerwch eich gelynion, gwnewch dda i’r rhai à ’ch casâant, bendithiwch y rhai á’ch melldithiant, a gweddiwch dros y rhai à’ch sarâant. I’r hwn à’th darawo àr y naill gern, cynnyg y llall hefyd; ac i’r hwn à ddygo ymaith dy fantell, na wahardd dy bais hefyd. Dyro i bob un à ofyno gènyt; a chàn y sawl à gymero ymaith dy eiddo, na chais yn ol. A fel y mỳnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud. Oblegid os cerwch y rhai à’ch carant chwithau, pa ddiolch sydd i chwi, gàn fod hyd yn nod pechaduriaid yn caru y sawl à’u carant hwythau? Ac os gwnewch dda i’r rhai à wnant dda i chwithau, pa ddiolch sydd i chwi, gàn fod pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth? Ac os rhoddwch fenthyg i’r rhai yr ydych yn gobeithio cael ganddynt, pa ddiolch sydd i chwi, gàn fod pechaduriaid yn rhoddi benthyg i bechaduriaid, fel y derbyniont gymaint yn ol? Eithr cerwch eich gelynion, gwnewch dda a rhoddwch fenthyg, heb mewn un modd anobeithio; a’ch gobr fydd mawr; a meibion fyddwch i’r Goruchaf; canys cymwynasgar yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg. Byddwch, gan hyny, drugarogion, fel y mae eich Tad yn drugarog.