Gwedi iddo orphen llefaru, efe á ddywedodd wrth Simon, Gwthia allan i’r dyfnddwr, a bwriwch eich rhwydau am helfa. Simon á atebodd, Feistr, yr ydym wedi bod yn ymboeni àr hyd y nos, a heb ddal dim; èr hyny, ar dy air di, mi á fwriaf y rhwyd. Wedi gwnenthur hyny, hwy á ddaliasant y fath liaws o bysgod, nes oedd y rhwyd yn dechreu rhwygo. A hwy á amneidiasant àr eu cyfeillion yn y llong arall, i ddyfod a’u cynnorthwyo hwynt. A hwy á ddaethant, ac á lwythasant y ddwy long, nes oeddynt yn mron soddi. Simon Pedr, pan welai hyn, á syrthiodd wrth liniau Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddwrthyf, O Arglwydd, canys dyn pechadurus wyf fi. Oblegid yr helfa bysgod à ddaliasent, á’i llanwasai ef a’i holl gymdeithion â dychryn, yn enwedig Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, y rhai oeddynt gyfranogion â Simon. A dywedodd Iesu wrth Simon, Nac ofna; o hyn allan y déli ddynion. A gwedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy á adawsant bob peth, ac á’i dylynasant ef.