Pan oedd efe yn un o’r dinasoedd cymydogaethol, dyn wedi ei orchuddio â gwahanglwyf, wedi ei weled ef, á syrthiodd àr ei wyneb, ac á ddeisyfodd arno gàn ddywedyd, Feistr, os ewyllysi, ti á elli fy nglanâu. Iesu, gwedi estyn ei law a chyfhwrdd ag ef, á ddywedodd, Yr wyf yn ewyllysio; glanâer di. Y cythrym hwnw ei wahanglwyf á ymadawodd ag ef. Ac efe á orchymynodd iddo na ddywedai i neb. Ond dos, meddai efe dangos dy hun i’r offeiriad, a chyflwyna yr offrwm à bènodwyd gàn Foses èr hysbysu i’r bobl ddarfod dy lanâu. Eto, o gymaint â hyny yn fwy y sonid am Iesu yn mhob màn, nes yr ymgasglai tyrfëydd mawrion i wrandaw arno, ac i gael eu hiachâu o’u clefydau. Ac efe á giliai i leoedd annghyfannedd, ac á weddiai.
Darllen Luwc 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 5:12-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos