Luc 5:5-6
Luc 5:5-6 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Meistr,” meddai Simon wrtho, “buon ni’n gweithio’n galed drwy’r nos neithiwr heb ddal dim byd! Ond am mai ti sy’n gofyn, gollynga i y rhwydi.” Dyna wnaethon nhw a dyma nhw’n dal cymaint o bysgod nes i’r rhwydi ddechrau rhwygo.
Luc 5:5-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Simon, “Meistr, drwy gydol y nos buom yn llafurio heb ddal dim, ond ar dy air di mi ollyngaf y rhwydau.” Gwnaethant hyn, a daliasant nifer enfawr o bysgod, nes bod eu rhwydau bron â rhwygo.
Luc 5:5-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd. Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a’u rhwyd hwynt a rwygodd.