Luwc 8
8
1-3Gwedi hyny efe á ymdeithiodd drwy ddinasoedd a phentrefydd, gan gyhoeddi Newydd da Teyrnasiad Duw; a’r deuarddeg oeddynt gydag ef, a gwragedd rai, à iachesid oddwrth ysbrydion drwg a chlefydau: Mair à elwid Magdalëad, o’r hon yr aethai saith gythraul allan: Ioanna, gwraig Chuwsa, goruchwyliwr Herod; Suwsanna, a llawer ereill, y rhai á’i cynnorthwyent â’u meddiannau.
4-8A gwedi i dyrfa fawr ymgynnull yn nghyd, a’r bobl yn ymdỳru ato o’r dinasoedd, efe á lefarodd drwy ddameg, Yr heuwr á aeth allan i hau ei rawn; ac wrth hau, peth á syrthiodd àr ymyl y ffordd, ac á fathrwyd, neu á bigwyd i fyny gàn yr adar; peth á syrthiodd àr graig, a gwedi iddo egino, efe á wywodd o eisieu lleithineb; peth arall á syrthiodd yn mysg drain, a’r drain á dyfasant ac a’i tagasant; a pheth arall á syrthiodd i dir da, ac á eginodd, ac á ddyg ffrwyth àr ei gànnfed. Wedi dywedyd hyn, efe á lefodd, Pwybynag sydd â chlustiau ganddo i wrandaw, gwrandawed.
9-10A’i ddysgyblion á ofynasant iddo, gàn ddywedyd, Beth yw ysdyr y ddameg hon? Yntau á atebodd, Eich braint chwi yw gwybod cyfrinion Teyrnasiad Duw, y rhai iddynt hwy á lènir mewn damegion; fel, èr iddynt edrych, na chanfyddont; èr iddynt glywed, na ddeallont.
11-15A dyma ysdyr y ddameg. Yr had yw gair Duw. Wrth ymyl y ffordd y meddylir y gwrandaẅwyr hyny, y rhai y mae y diafol yn dyfod ac yn dwyn ymaith y gair o’u calonau hwynt, rhag iddynt gredu a bod yn gadwedig. Wrth y graig y meddylir y rhai hyny pan glywant, á dderbyniant y gair yn llawen, eto heb ei fod wedi gwreiddio ynynt, nid ynt ond credinwyr dros amser; canys yn amser profedigaeth y maent yn cilio. Wrth y tir dreiniog y meddylir y gwrandaẅwyr hyny y rhai á ymddyrysant â helynt, erlyniadau, a melyswedd bywyd, y rhai á dagant y gair, fel nad yw yn dwyn ffrwyth i addfedrwydd. Ond wrth y tir da y meddylir y rhai, gwedi clywed y gair, ydynt yn ei gadw mewn calon dda a didwyll, ac yn parâu i ddwyn ffrwyth da.
16-18Nid ydys byth yn goleu llusern iddei guddio â llestr, neu ei ddodi dàn wely; ond iddei osod àr ddaliadur, fel y gallo y rhai à elant i fewn weled y goleuni. Canys nid oes dim dirgel, na ddadguddir; na dim cuddiedig, na wybyddir, a na ddaw yn gyhoeddus. Edrychwch, gan hyny, pa fodd y clywoch; canys i’r neb sy ganddo, y rhoddir chwaneg; ond oddar yr hwn nid oes ganddo, y dygir, hyd yn nod yr hyn y tybia fod ganddo.
19-21Yna ei fam a’i frodyr á ddaethant i ymddyddan ag ef; ond nis gallent ddyfod hyd ato gàn y dorf. A mynegwyd iddo gàn rywrai, Y mae dy fam a’th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled. Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Fy mam i a fy mrodyr i yw y rhai à wrandawant air Duw, ac á ufyddâant iddo.
22-26Ar ryw ddiwrnod wedi i Iesu fyned i long gyda ’i ddysgyblion, efe á ddywedodd wrthynt, Croeswn y llyn. Yn ganlynol hwy á gychwynasant. Ond tra yr oeddynt yn hwylio, efe á hunodd; a chwythodd y fath dymhestl àr y llyn, nes llanw y llong â dwfr, a pheryglu eu bywydau. A hwy á ddaethant ato, ac á’i deffroisant ef, gàn ddywedyd, Feistr, Feistr, darfu am danom. Yntau á gyfododd ac á geryddodd y gwynt, a dygyfor y dwfr, a hwy á beidiasant; a hi á aeth yn dawel. Ac Iesu á ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? Hwythau á ddywedasant wrth eu gilydd, gydag ofn a rhyfeddod, Pwy yw hwn sydd yn gorchymyn hyd yn nod i’r gwyntoedd a’r dwfr, a hwythau yn ufyddâu iddo? A hwy á gyrhaeddasant wlad y Gadareaid, yr hon sydd o’r tu arall àr gyfer Galilea.
27-40Gwedi dyfod o hono i’r lan, cyfarfu ag ef ryw wr o’r ddinas, yr hwn á feddiannesid èr ys talm gàn gythreuliaid, a ni wisgai ddillad, a ni feddai drigfa namyn y beddrodau. Pan welodd efe Iesu, efe á ddolefodd, ac a syrthiodd i lawr wrth ei draed ef, gàn waeddi, Beth sydd à wnelych â mi, Iesu, Fab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn attolwg i ti, na phoenych fi. (Canys efe á orchymynasai i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn; canys mynych y cipiasai efe ef, fel pan gadwynid ac y llyffetheirid ef, y drylliai y rhwymau, ac y gỳrid ef gan yr ellyll i’r diffeithwch.) Yna Iesu á ofynodd iddo, gàn ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntau á atebodd, Lleng; canys llawer o gythreuliaid á aethent i fewn iddo. A hwy á ddeisyfasant arno, na orchymynai iddynt fyned i’r anoddyfn, ond gàn fod yno genfaint fawr o foch yn pori ar y mynydd, àr iddo ganiatâu iddynt fyned i’r moch. Yntau á ganiatâodd iddynt. Yna y cythreuliaid, wedi myned allan o’r dyn, á aethant i fewn i’r moch; a’r genfaint á ruthrodd dros ddibyn i’r llyn, ac á foddwyd. Pan welodd y mychiaid hyn, hwy á ffoisant, ac á fynegasant y newydd yn y ddinas ac yn y pentrefydd. A’r trigolion á ymdỳrent allan i weled yr hyn á ddygwyddasai. Pan ddaethant at Iesu, a chael y dyn, o’r hwn yr aethai y cythreuliaid allan, yn eistedd wrth draed Iesu, gwedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll, hwy á ofnasant. Ond wedi eu hysbysu gàn yr edrychwyr, pa wedd y gwaredasid y cythreulig, holl bobl gwlad y Gadareaid, á ddymunasant arno fyned ymaith oddwrthynt; oblegid tarawyd hwynt â dychryn. Yn ganlynol efe á aeth i fewn i’r llong drachefn, ac á ddychwelodd. A’r dyn o’r hwn yr aethai y cythreuliaid allan, á ddeisyfodd gènad ganddo i fyned gydag ef. Eithr Iesu á’i danfonodd ef ymaith, gàn ddywedyd, Dychwel adref, ac adrodd pa fawrion bethau á wnaeth Duw erot. Yna efe á aeth ymaith, ac á gyhoeddodd drwy yr holl ddinas, pa fawrion bethau á wnaethai Iesu erddo. Iesu, ar ei ddychweliad, á resawyd gàn y dyrfa, y rhai oeddynt oll yn dysgwyl am dano.
41-42Yn y cyfamser daeth gŵr â’i enw Iairus, pènaeth y gynnullfa, yr hwn, wedi iddo syrthio wrth draed Iesu, á attolygodd arno ddyfod iddei dŷ ef; oblegid yr oedd ganddo unig ferch, yn nghylch deg a dwy flwydd oed, yr hon oedd yn marw.
43-48Fel yr oedd Iesu yn myned, y bobl á’i gwasgent ef; a gwraig yr hon á fuasai dros ddeg a dwy flynedd yn cael ei blino gàn ddyferlif gwaed, ac á dreuliasai àr feddygon ei holl fywioliaeth, y rhai ni allent neb o honynt ei hiachâu hi, á ddaeth o’r tu cefn, ac á gyfhyrddodd â siobyn ei fantell ef, ac yn y fàn y safodd dyferlif ei gwaed hi. Yna y dywedodd Iesu, Pwy á gyfhyrddodd â mi? Ac â phawb yn gwadu, dywedodd Pedr, a’r rhai oedd gydag ef, Feistr, y mae y lliaws yn ymdỳru arnat, ac yn dy wasgu, ac á ddywedi di, Pwy á gyfhyrddodd â mi? Iesu á atebodd, Rhywun á gyfhyrddodd â mi; canys yr wyf yn ymwybodol ddarfod i’m gallu yr awrhon gael ei ymarferyd. Yna y wraig pan ganfu ddarfod ei dadguddio, á ddaeth dàn grynu, a, gwedi syrthio i lawr gèr ei fron ef, á fynegodd iddo, yn ngwydd yr holl bobl, paham y cyfhyrddasai hi ag ef, a pha wedd yr iachesid hi yn ebrwydd: yntau á ddywedodd wrthi, Ferch, cỳmer gysur, dy ffydd á’th iachâodd; dos mewn heddwch.
49-56Ac efe eto yn llefaru, daeth un o dŷ llywodraethwr y gynnullfa, yr hwn á ddywedodd, Bu farw dy ferch; na phoena mo’r Athraw. Iesu gwedi clywed hyn, á ddywedodd wrth Iairus, Nac ofna; cred yn unig, a hi a fydd iach. Wedi ei ddyfod i’r tŷ, ni adawai efe i neb fyned i fewn gydag ef, ond Pedr, ac Ioan, ac Iago, a thad a mam yr eneth. A phawb oedd yn wylo ac yn galaru am dani. Ond efe á ddywedodd, Nac wylwch; nid yw hi gwedi marw, eithr cysgu y mae. Hwythau á’i gwatwarasant ef, gàn wybod ei bod wedi marw. Yntau, gwedi peru iddynt oll fyned o’r neilldu, á’i cymerodd hi erbyn ei llaw ac á alwodd, gàn ddywedyd, Forwynig, cyfod. A’i hysbryd hi á ddychwelodd, a hi á gyfododd yn ebrwydd, ac efe á orchymynodd roddi bwyd iddi. A’i rhieni á sỳnasant, ac efe á archodd iddynt, na ddywedent i neb beth á ddygwyddasai.
Dewis Presennol:
Luwc 8: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.