Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luwc 9

9
1-6Iesu gwedi galw yn nghyd y deuarddeg, á roddes iddynt allu ac awdurdod àr yr holl gythreuliaid, ac i iachâu clefydau; ac á’u hanfonodd hwynt i gyhoeddi Teyrnasiad Duw, ac i iachâu y cleifion. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Na ddarperwch ddim i’r daith, na ffyn, nac ysgrepan, na bara, nac arian, na dwy bais bob un; a pha dŷ bynag ych derbynier iddo, aroswch yno hyd oni adawoch y lle. A pha le bynag ni ’ch derbyniant, ysgydwch hyd yn nod y llwch oddwrth eich traed, yn wrthdystiad yn eu herbyn. Hwythau yn ganlynol á aethant ymaith, ac á deithiasant drwy y pentrefydd, gàn gyhoeddi y Newydd da, ac iachâu yn mhob màn.
7-9A Herod y pedrarch wedi clywed am yr hyn oll à wnaethai Iesu, oedd mewn dyryswch, oblegid dywedai rhai, Ioan á gyfododd o feirw; ereill, Y mae Elias wedi ymddangos; ac ereill, Y mae un o’r Proffwydi gynt wedi adgyfodi. A Herod á ddywedodd, Iöan á dòrais i ei ben; ond pwy yw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau am dano? Ac efe á chwennychai ei weled ef.
10-11A’r Apostolion, wedi dychwelyd, á fynegasant i Iesu y cwbl à wnaethant: yntau, gàn eu cymeryd hwynt gydag ef, á giliodd yn ddirgel i le annghyfannedd yn perthynu i ddinas Bethsaida. Ond y bobloedd pan wybuant, á’i dylynasant ef; yntau, gwedi eu derbyn hwynt, á lefarodd wrthynt am Deyrnasiad Duw, ac á iachâodd y sawl oedd arnynt eisieu eu hiachâu.
12-17Pan ddechreuodd y dydd hwyrâu, y deuarddeg gàn ei gyfarch ef, á ddywedasant wrtho, Gollwng ymaith y bobl, fel yr elont i’r trefi a’r pentrefydd agosaf, a darparu iddynt eu hunain letty ac ymborth; canys yr ydym ni yma mewn lle annghyfannedd. Yntau á atebodd, Diwallwch hwynt eich hunain ag ymborth. Adatebasant hwythau, Nid oes genym ni ond pumm torth a dau bysgodyn; oddeithr i ni fyned a phrynu bwyd i’r bobl hyn oll. Canys yr oeddynt yn nghylch pumm mil o wyr. Yna y dywedodd efe wrth ei ddysgyblion, Gwnewch iddynt ledorwedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain. A felly y gwnaethant, gan wneyd iddynt oll ledorwedd. Yna y cymerodd efe y pumm torth a’r ddau bysgodyn; a chàn edrych i fyny i’r nef, efe á’u bendithiodd hwynt, ac á’u tòrodd, ac á’u rhoddes iddei ddysgyblion, iddeu gosod gèr bron y dyrfa. A hwy oll á fwytasant ac á ddigonwyd; ac á gymerasant i fyny ddeg a dwy fasgedaid o friwfwyd.
DOSBARTH VII.
Y Gweddnewidiad.
18-22Gwedi hyny, Iesu á giliodd oddwrth y dyrfa i weddio, o’r neilldu gyda ’i ddysgyblion, ac á ofynodd iddynt, gàn ddywedyd, Pwy y mae pobl yn dywedyd fy mod i? Hwythau á atebasant, Ioan y Trochiedydd; ereill á ddywedant, Elias; ac ereill, mai un o’r Proffwydi gynt sy gwedi adgyfodi. Efe á ddywedodd wrthynt, Ond pwy y dywedwch chwi fy mod i? Pedr á atebodd, Messia Duw. Yna gwedi gorchymyn iddynt yn gaeth, efe á waharddodd iddynt ddywedyd hyny i neb, gàn chwanegu, Y mae yn raid i Fab y Dyn ddyoddef llawer o bethau, a chael ei wrthod gàn yr henuriaid, yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a chael ei ladd, a chyfodi darchefn y trydydd dydd.
23-27Yn mhellach, efe á ddywedodd wrth yr holl bobl, Os mỳn neb ddyfod dàn fy arweiniad i, ymwrthoded ag ef ei hun, a chymered ei groes beunydd, a dylyned fi. Canys pwybynag á ewyllysio gadw ei einioes, á’i cyll; a phwybynag á gollo ei einioes, èr fy mwyn i, hwnw á’i ceidw hi. Pa lesâad i ddyn fyddai ennill yr holl fyd, a fforffedu neu ddyfetha ei hun? Canys pwybynag y byddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, hwnw y bydd cywilydd gàn Fab y Dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a’r eiddo y Tad, a’r angylion santaidd. Yr wyf yn gwirio i chwi, bod rhai yn sefyll yma, na phrofant angeu, hyd oni welont Deyrnasiad Duw.
28-36Yn nghylch wyth niwrnod wedi yr ymadroddiaeth hwn, efe á gymerodd gydag ef Bedr, ac Ioan, ac Iago, ac á aeth i fyny ar fynydd i weddio. Tra y gweddiai efe, gwedd ei wynebpryd ef á newidiwyd, a’i wisg oedd yn melltenu gàn wỳnder. Ac wele, dau wr, o ymddangosiad gogoneddus, Moses ac Elias, á ymddyddanent ag ef, ac á lefarent am yr ymadawiad oedd efe àr ei gyflawni yn Nghaersalem. A Phedr, a’r rhai oedd gydag ef, oeddynt wedi eu gorchfygu gàn gysgu; ond pan ddihunasant, hwy á welsant ei ogoniant ef, a’r ddau wr, à safent gydag ef. Fel yr oedd y rhai hyn yn ymadaw oddwrth Iesu, Pedr á ddywedodd wrtho, heb wybod beth oedd efe yn ei ddywedyd, Feistr, da yw i ni aros yma; gwnawn, gàn hyny, dri bwth, un i ti, un i Foses, ac un i Elias. Tra yr oedd efe yn llefaru, daeth cwmwl ac á’u cysgododd hwynt, a’r dysgyblion á ofnent, pan oeddynt yn myned i’r cwmwl. – O’r cwmwl y daeth llef, yr hon á ddywedai, Hwn yw fy Mab, yr anwylyd; gwrandewch arno ef. Tra y rhoddid y llef, cafwyd Iesu yn unig. A hyn á gelasant, heb fynegi i neb y dyddiau hyny, ddim o’r pethau à welsent.
37-43Tranoeth, pan ddaethant i waered o’r mynydd, tyrfa fawr á gyfarfu ag ef. Ac un o’r dyrfa á ddolefodd, gan ddywedyd, Rabbi, yr wyf yn attolwg i ti, tosturia wrth fy mab; canys fy unig blentyn ydyw. Ond wele! y mae ysbryd yn gafaelu ynddo, gàn wneuthur iddo yn ddisymwth lefain, a syrthio i ddirgryniadau, nes y byddo yn malu ewyn; a braidd yr ymedy oddwrtho, gwedi iddo ei ysigo ef. A mi á ddeisyfais àr dy ddysgyblion di fwrw y cythraul allan; ond nis gallasent. Yna Iesu gàn ateb, á ddywedodd, O genedlaeth annghrediniol a throfâus! pa hyd y byddaf gyda chwi, ac ych goddefaf? Dwg dy fab yma. A fel yr oedd efe yn dyfod, y cythraul á’i tarawodd ef i lawr mewn dirgryniadau. Ac Iesu á geryddodd yr ysbryd aflan, a gwedi iachâu y plentyn, efe á’i rhoddes ef iddei dad. A sỳnu á wnaethant oll wrth fawr allu Duw.
44-45Tra yr oedd pawb yn rhyfeddu am yr holl bethau à wnaethai Iesu, efe á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Sylẅwch yn fanwl àr y geiriau hyn, Y mae Mab y Dyn i gael ei draddodi i ddwylaw dynion. Ond hwy ni ddeallasant yr iaith hon; yr oedd wedi ei dylènu iddynt, fel nas gallent ei hamgyffred; ac yr oedd arnynt ofn gofyn iddo am dani.
46-48A chyfododd dadl yn eu plith, pa un o honynt fyddai y mwyaf. Eithr Iesu, yr hwn á ganfyddai feddwl eu calon, á gymerodd blentyn, a gwedi ei osod yn ei ymyl, á ddywedodd wrthynt, Pwybynag á dderbynio y plentyn hwn èr fy mwyn i, sydd yn fy nerbyn i; a phwybynag á’m derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn á’m hanfonodd i; canys yr hwn sy leiaf yn eich plith chwi oll á fydd mwyaf.
49-50Yna Ioan á atebodd, Feistr, ni á welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a ni á waharddasom iddo, am nad yw efe yn ymuno gyda ni. Iesu á atebodd, Na waherddwch i’r cyfryw; canys pwybynag nid yw yn ein herbyn, drosom ni y mae.
51-56A fel yr oedd amser ei ymadawiad yn nesâu, efe á roddes ei fryd àr fyned i Gaersalem, ac á ddanfonodd gènadau o’r blaen, y rhai á aethant i bentref i’r Samariaid, i wneuthur darpariad iddo. Ond nis derbynient hwy ef; oblegid eu bod yn canfod ei fod yn myned i Gaersalem. Ei ddysgyblion, Iago ac Ioan, pan welsant hyn, á ddywedasant, Feistr, a gawn ni alw am dân i lawr o’r nef, iddeu difa hwynt, fel y gwnaeth Elias? Yntau á drodd ac á’u ceryddodd hwynt, gàn ddywedyd, Oni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi? Yna hwy á aethant i bentref arall.
57-58Fel yr oeddynt àr y ffordd, dywedodd un wrtho, Feistr, mi á’th ganlynaf i ba le bynag yr elych. Iesu á atebodd, Y mae gàn y llwynogod dyllau, a chàn adar yr awyr ddiddosfëydd; ond gàn Fab y Dyn nid oes lle i roddi ei ben i lawr.
59-60Efe á ddywedodd wrth un arall, Canlyn fi. Yntau á atebodd, Sỳr, gad i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. Iesu á adatebodd, Gad i’r meirw gladdu eu meirw; ond dos di a chyhoedda Deyrnasiad Duw.
61-62Un arall hefyd á ddywedodd, Mi á’th ganlynaf, Sỳr; ond gad i mi yn gyntaf ganu yn iach i’m teulu. Iesu á atebodd, Nid oes neb à sydd, wedi iddo ddodi ei law àr yr aradr, yn edrych o’r tu ol, yn gymhwys i deyrnas Duw.

Dewis Presennol:

Luwc 9: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda