Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yr Actau 5

5
1A rhyw ddyn, Chananiah wrth ei enw, ynghyda Shappira ei wraig, 2a werthodd berchenogaeth, ac a ddodes heibio beth o’r gwerth, gyda gwybodaeth o ran ei wraig, 3ac wedi dyfod â rhyw faint, wrth draed yr apostolion y’i dodes. A dywedodd Petr, Chananiah, Paham y llanwodd Satan dy galon i gelwyddu o honot wrth yr Yspryd Glân, 4ac i ddodi heibio o werth y tir? Onid, tra yr arhosai, i ti yr arhosai; ac wedi ei werthu, yn dy feddiant di yr ydoedd? Paham y gosodaist y weithred hon yn dy galon? 5Ni chelwyddaist i ddynion, eithr i Dduw. Ac wedi clywed o Chananiah y geiriau hyn, syrthiodd a threngodd; a daeth ofn mawr ar bawb a’u clywsant. 6Ac wedi cyfodi o’r gwŷr ieuaingc, cyd-rwymasant ef; ac wedi ei ddwyn ef allan, claddasant ef.
7A bu yspaid oddeutu tair awr, ac ei wraig, heb wybod yr hyn a ddigwyddasai, 8a ddaeth i mewn: ac wrthi yr attebodd Petr, Dywaid wrthyf ai er cymmaint y gwerthasoch y tir? 9A hi a ddywedodd, Ië, er cymmaint. A Petr a ddywedodd wrthi, Paham y cyttunwyd genych i demtio Yspryd yr Arglwydd? Wele, traed y rhai a gladdasant dy ŵr, wrth y drws y maent, a dygant allan dithau. 10A syrthiodd hi yn uniawn wrth ei draed, a threngodd: ac wedi dyfod i mewn y gwŷr ieuaingc a’i cawsant hi yn farw; ac wedi ei dwyn allan, claddasant hi yn ymyl ei gŵr. 11A daeth ofn mawr ar yr holl eglwys ac ar bawb a glybu y pethau hyn.
12A thrwy ddwylaw yr apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau ym mhlith y bobl, ïe, llawer; ac yr oeddynt, o un fryd, i gyd yn nghyntor Shalomon. 13Ond o’r lleill nid oedd neb a feiddiai ymlynu wrthynt; eithr eu mawrhau hwynt a wnaeth y bobl, 14ac i radd mwy yr ychwanegwyd attynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliosydd yn gystal o ddynion ac o wragedd, 15hyd onid i’r llydanfeydd y dygent allan y cleifion ac y’u gosodent ar welyau a gorweddfëydd, fel wrth ddyfod o Petr y byddai, beth bynnag, i’w gysgod gysgodi ar ryw un o honynt. 16A daeth ynghyd hefyd y lliaws o’r dinasoedd o amgylch Ierwshalem, yn dwyn cleifion a rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll.
17Ac wedi cyfodi o’r archoffeiriad a’r holl rai oedd gydag ef (yr hon yw sect y Tsadwceaid), llanwyd hwy o genfigen, 18a dodasant eu dwylaw ar yr apostolion, a rhoisant hwynt mewn cadwraeth gyffredin: 19ac angel yr Arglwydd liw nos a agorodd ddrysau’r carchar, ac wedi eu dwyn hwynt allan, 20dywedodd, Ewch, a sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau’r Bywyd hwn. 21Ac wedi clywed hyn, aethant i mewn, tua’r wawr, i’r deml, ac yr oeddynt yn dysgu. Ac wedi dyfod o’r archoffeiriad a’r rhai oedd gydag ef, galwasant ynghyd y Cynghor a holl senedd meibion Israel, a danfonasant i’r carchardy i’w dwyn hwynt ger bron. 22A’r gweinidogion wedi dyfod, ni chawsant hwynt yn y carchar; 23ac wedi dychwelyd, mynegasant, gan ddywedyd, Y carchar a gawsom wedi ei gau gyda phob sicrwydd, a’r ceidwaid yn sefyll wrth y drysau; ond wedi agor ni chawsom neb i mewn. 24A phan glywsant y geiriau hyn, cadben y deml a’r archoffeiriaid a ddyrysid yn eu cylch, pa beth a ddeuai o hyn. 25Ac wedi dyfod o ryw un, mynegodd iddynt, Wele, y gwŷr a ddodasoch yn y carchar, y maent yn y deml yn sefyll ac yn dysgu’r bobl. 26Yna, wedi myned ymaith o gadben y deml ynghyda’r gweinidogion, daeth â hwynt, nid gyda thrais, canys ofnent y bobl, rhag eu llabyddio. 27Ac wedi dyfod â hwynt, gosodasant hwynt yn y Cynghor; 28a gofynodd yr archoffeiriad iddynt, gan ddywedyd, A gorchymyn y gorchymynasom i chwi beidio â dysgu yn yr enw hwn: ac wele, llanwasoch Ierwshalem â’ch dysgad, a mynnech ddwyn arnom waed y dyn hwn. 29A chan atteb, Petr a’r apostolion a ddywedasant, Ufuddhau i Dduw sydd raid yn hytrach nag i ddynion. 30Duw ein tadau a gyfododd i fynu yr Iesu, yr Hwn, chwi a’i lladdasoch gan Ei grogi ar bren. 31Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw, yn Dywysog ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau. 32A nyni ydym dystion o’r pethau hyn, a’r Yspryd Glân, yr Hwn y mae Duw yn Ei roddi i’r rhai sy’n ufuddhau Iddo.
33A hwy, wedi clywed hyn, a dorrid i’r byw, a mynnent eu lladd hwynt. 34Ac wedi cyfodi o ryw un yn y Cynghor, Pharishead a’i enw Gamaliel, dysgawdwr y Gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, archodd osod y dynion allan am ychydig, 35a dywedodd wrthynt, Gwŷr Israel, cymmerwch ofal ym matter y dynion hyn, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur: 36canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas, gan ddywedyd ei fod efe yn rhyw un, â’r hwn yr ymgysylltodd rhifedi o ddynion, ynghylch pedwar cant; ac efe a laddwyd, a’r holl rai cynnifer ag a ufuddhasant iddo, a wasgarwyd ac a wnaed yn ddiddym. 37Ar ol hwn y cyfododd Iwdas y Galilead yn nyddiau’r rhestriad, ac a dynnodd bobl ar ei ol; ac am dano ef y darfu; a’r holl rai, cynnifer ag a ufuddhasant iddo, a chwalwyd. 38Ac yr awr hon dywedaf wrthych, Sefwch draw oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt, canys os o ddynion y mae’r cynghor hwn neu’r gwaith hwn, diddymmir ef; 39ond os o Dduw y mae, nis gellwch eu diddymmu hwynt; rhag ysgatfydd eich cael yn ymladd yn erbyn Duw. 40Ac ufuddhasant iddo; ac wedi galw yr apostolion attynt, ar ol eu curo hwynt, gorchymynasant iddynt beidio â llefaru yn enw’r Iesu, a gollyngasant hwynt yn rhyddion. 41Hwy, yn wir, gan hyny, a aethant, oddi ger bron y Cynghor, yn llawenychu am eu cyfrif yn deilwng o’u hammerchu dros yr Enw. 42A pheunydd yn y deml a chartref ni pheidiasant â dysgu ac ag efengylu Crist Iesu.

Dewis Presennol:

Yr Actau 5: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda