Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yr Actau 6

6
1Ac yn y dyddiau hyn, a’r disgyblion yn amlhau, y bu grwgnach gan yr Iwddewon Groegaidd yn erbyn yr Hebreaid, o herwydd diystyru eu gwragedd gweddwon yn y ministriad beunyddiol. 2Ac wedi galw attynt liaws y disgyblion, y deuddeg a ddywedasant, Nid yw’n dda genym i ni, gan ymadael â Gair Duw, wasanaethu byrddau. 3Edrychwch, gan hyny, frodyr, am seithwyr o’ch plith i’r rhai y tystiolaethir, yn llawn o’r Yspryd a doethineb, y rhai a osodom ar y gorchwyl hwn; 4ond nyni, mewn gweddi ac yn ngweinidogaeth y Gair y parhawn. 5A boddhaol oedd yr ymadrodd yngolwg yr holl liaws; ac etholasant Stephan, gŵr llawn o ffydd a’r Yspryd Glân, a Philip, a Prochorus, a Nicanor, a Timon, a Parmenas, 6a Nicolas, proselyt o Antiochia; y rhai a osodasant hwy ger bron yr apostolion: ac wedi gweddïo o honynt hwy, dodasant eu dwylaw arnynt. 7A gair Duw a gynnyddodd, ac amlhaodd rhifedi y disgyblion yn Ierwshalem yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd.
8A Stephan, yn llawn o ras a gallu, oedd yn gwneuthur rhyfeddodau ac arwyddion mawrion ym mhlith y bobl; 9a chyfododd rhai o’r sunagog a elwir eiddo’r Libertiniaid, ac o’r Cureniaid, ac o’r Alecsandriaid, ac o’r rhai o Cilicia ac Asia, 10gan ymddadleu â Stephan: ac ni allent wrth-sefyll y doethineb a’r Yspryd trwy’r Hwn y llefarai. 11Yna y danfonasant i mewn ddynion yn dywedyd, Clywsom ef yn llefaru ymadroddion cablaidd yn erbyn Mosheh a Duw; 12a chynhyrfasant y bobl a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, cipiasant ef, a dygasant ef i’r Cynghor, 13a gosodasant au dystion yn dywedyd, Y dyn hwn ni pheidia â llefaru ymadroddion yn erbyn y lle sanctaidd hwn a’r Gyfraith, 14canys clywsom ef yn dywedyd y bydd i’r Iesu y Natsaread hwn ddistrywio y lle hwn, a newid y defodau a draddododd Mosheh i ni. 15A chan graffu arno gan bawb oedd yn eistedd yn y Cynghor, gwelent ei wyneb fel pe bai yn wyneb angel.

Dewis Presennol:

Yr Actau 6: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda