Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yr Actau 4

4
1A hwy yn llefaru wrth y bobl daeth arnynt yr offeiriaid, a chadben y deml, 2a’r Tsadwceaid, gwedi eu poeni am ddysgu o honynt y bobl, a chyhoeddi, yn yr Iesu, yr adgyfodiad o feirw. 3A dodasant eu dwylaw arnynt, a rhoisant hwynt mewn cadwraeth, erbyn trannoeth, canys yr oedd hi weithian yn hwyr. 4Ond llawer o’r rhai a glywsant y Gair, a gredasant; a gwnaed rhifedi y gwŷr ynghylch pum mil.
5A bu drannoeth y casglwyd ynghyd eu pennaethiaid ac yr henuriaid a’r ysgrifenyddion yn Ierwshalem, 6ac Annas yr archoffeiriad, a Caiaphas ac Ioan ac Alecsander, a chynnifer ag oedd o’r genedl archoffeiriadol. 7Ac wedi eu gosod hwy yn y canol, gofynasant. Trwy ba awdurdod neu ym mha enw y gwnaethoch chwi y peth hwn? 8Yna Petr, wedi ei lenwi â’r Yspryd Glân, a ddywedodd wrthynt, 9Pennaethiaid y bobl, ac henuriaid, os ni a holir heddyw am y weithred dda i’r dyn claf, trwy bwy yr iachawyd ef, bydded hysbys i chwi oll, 10ac i holl bobl Israel, mai yn enw Iesu Grist y Natsaread; yr Hwn, chwi a’i croes-hoeliasoch; yr Hwn, Duw a’i cyfododd o feirw, Trwyddo Ef y mae hwn yn sefyll ger eich bron yn iach. 11Efe yw’r maen a ddiystyrwyd genych chwi yr adeiladwyr, wedi Ei wneud yn ben y gongl; 12ac nid oes yn neb arall iachawdwriaeth, canys nid oes o gwbl enw arall tan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae rhaid i ni fod yn gadwedig.
13Ac wedi gweled hyfder Petr ac Ioan, a chanfod mai dynion anllythrennog oeddynt ac heb addysg, rhyfeddasant, a chymmerasant wybodaeth o honynt mai gyda’r Iesu y buasent, 14a chan weled y dyn yn sefyll gyda hwynt, sef yr hwn a iachesid, nid oedd ganddynt ddim i wrth-ddywedyd. 15Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned ymaith allan o’r Cynghor, 16ymresymmasant â’u gilydd, gan ddywedyd, Pa beth a wnawn i’r dynion hyn? canys yn wir bod arwydd hynod wedi ei wneuthur trwyddynt, i bawb sy’n trigo yn Ierwshalem y mae’n amlwg, 17ac nis gallwn ei wadu: eithr fel na thaner ym mhellach ym mhlith y bobl, bygythiwn hwynt na lefaront mwyach yn yr enw hwn i un dyn. 18Ac wedi eu galw hwynt, gorchymynasant iddynt beidio ag ynganu o gwbl na dysgu yn enw yr Iesu. 19Ond Petr ac Ioan, gan atteb iddynt, a ddywedasant, Ai cyfiawn yw ger bron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch: 20canys nis gallwn ni beidio â llefaru y pethau a welsom ac a glywsom. 21Eithr hwy, wedi eu bygwth hwynt ym mhellach, a’u gollyngasant yn rhyddion, heb gael dim fel y cospent hwynt, o achos y bobl, canys pawb a ogoneddent Dduw am y peth a wnaethpwyd; 22canys mwy na deugain oed oedd y dyn ar yr hwn y gwnaethpwyd yr arwydd hwn o iachad.
23Ac wedi eu gollwng yn rhyddion, aethant at yr eiddynt, a mynegasant cynnifer o bethau y bu i’r archoffeiriaid a’r henuriaid eu dywedyd wrthynt. 24A hwy, wedi clywed hyn, o un fryd a godasant eu llais at Dduw, a dywedasant, Arglwydd, Tydi, yr Hwn a wnaethost y nef a’r ddaear a’r môr ac oll y sydd ynddynt, 25yr Hwn trwy enau ein tad Dafydd Dy was, trwy’r Yspryd Glân, a ddywedaist,
“Paham y terfysgodd cenhedloedd,
A phobloedd a fyfyriasant wegi;
26Y safodd brenhinoedd y ddaear,
A’r pennaethiaid a gasglwyd ynghyd,
Yn erbyn Iehofah, ac yn erbyn Ei Grist?”
27canys casglwyd mewn gwirionedd, yn y ddinas hon, yn erbyn Dy Sanct Fab Iesu, yr Hwn a enneiniaist, Herod a Pontius Pilat, 28gyda’r cenhedloedd a phobloedd Israel, i wneuthur cynnifer o bethau ag y bu i’th law Di a’th gynghor eu rhag-ordeinio i ddigwydd. 29Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a dyro i’th weision lefaru, 30gyda phob hyfder, Dy Air Di, gydag estyn allan o Honot Dy law er iachad, a thrwy i arwyddion a rhyfeddodau ddigwydd trwy enw Dy Sanct Fab Iesu. 31Ac wedi gweddïo o honynt, siglwyd y fan lle yr oeddynt wedi eu casglu ynghyd, a llanwyd hwy oll o’r Yspryd Glân, a llefarasant Air Duw gyda hyfder.
32Ac i liaws y rhai a gredasant yr oedd un galon ac enaid; ac nid oedd hyd yn oed un a ddywedai fod dim o’i dda yn eiddo ef ei hun, eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin. 33Ac â gallu mawr y rhoddai yr apostolion eu tystiolaeth o adgyfodiad yr Arglwydd Iesu; a gras mawr oedd ar yr oll o honynt: 34canys nid oedd chwaith neb mewn eisiau yn eu plith, canys cynnifer ag oeddynt berchenoedd tiroedd neu dai, gan eu gwerthu hwynt, deuent â gwerth y pethau a werthid, 35a dodent ef wrth draed yr apostolion, a rhennid i bob un yn ol yr hyn oedd arno eisiau.
36Ac Ioseph, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion, (yr hwn, o’i gyfieithu yw Mab Annogiad), yn Lefiad ac yn Cupriad o genedl, 37a maes ganddo, ac wedi ei werthu ef daeth a’r arian ac a’i dododd wrth draed yr apostolion.

Dewis Presennol:

Yr Actau 4: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda