Yr Actau 3
3
1A Petr ac Ioan a aethant i fynu i’r deml ar awr weddi, sef y nawfed. 2Ac rhyw ddyn, cloff o groth ei fam, a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a aent i mewn i’r deml. 3Ac efe, gan weled Petr ac Ioan ar fedr myned i mewn i’r deml, a ofynodd gael elusen. 4A chan edrych yn graff arno, Petr ynghydag Ioan a ddywedodd, Edrych arnom. 5Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt. 6A dywedodd Petr, Arian ac aur nid oes genyf; ond yr hyn y sydd genyf, hyny i ti y’i rhoddaf. 7Yn enw Iesu Grist y Natsaread, rhodia. Ac wedi ei gymmeryd erbyn ei law ddehau, cyfododd ef; 8ac yn uniawn y cadarnhawyd ei draed ef a’i fferau: a chan neidio i fynu, safodd, a rhodiodd, ac aeth i mewn ynghyda hwynt i’r deml, yn rhodio a neidio a moli Duw. 9A gwelodd yr holl bobl ef yn rhodio ac yn moli Duw; 10ac adnabyddent ef, mai efe oedd yr hwn a eisteddai, am elusen, wrth borth Prydferth y deml; a llanwyd hwy o syndod a dychryn am yr hyn a ddigwyddasai iddo.
11Ac efe yn dal ei afael ar Petr ac Ioan, attynt y cyd-redodd yr holl bobl yn y cyntor a elwir Cyntor Shalomon, mewn syndod mawr. 12A Petr, gan weled hyn, a attebodd i’r bobl, Gwŷr Israel, paham y rhyfeddwch wrth hyn, neu arnom ni y craffwch, fel pe bai trwy ein gallu neu ein duwioldeb ni ein hunain y gwnaethom i hwn rodio? 13Duw Abraham ac Itsaac ac Iacob, Duw ein tadau, a ogoneddodd Ei Fab Iesu, yr Hwn, chwi yn wir a’i traddodasoch ac a’i gwadasoch ger bron Pilat, ac efe wedi barnu ei ollwng Ef yn rhydd; 14ond chwychwi, y Sanct a Chyfiawn a wadasoch, a gofynasoch am i ddyn llofruddiog gael ei roddi i chwi, 15a Thywysog y Bywyd a laddasoch, yr Hwn a gododd Duw o feirw; o’r hyn yr ydym ni yn dystion. 16A thrwy ffydd yn Ei enw Ef, yr hwn a welwch ac a adnabyddwch, Ei enw Ef a’i cadarnhaodd; ac y ffydd y sydd Trwyddo Ef, a roddes i hwn yr iechyd perffaith hwn yn eich gwydd chwi oll. 17Ac yn awr, frodyr, gwn mai trwy anwybod y gwnaethoch, fel y gwnaeth eich pennaethiaid hefyd. 18Ond Duw felly a gyflawnodd y pethau a rag-fynegasai Efe trwy enau Ei holl brophwydi, y dioddefai Ei Grist Ef. 19Edifarhewch, gan hyny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, fel y delo amseroedd dadebriad oddi ger bron yr Arglwydd, 20ac y danfono’r Crist a rag-ordeiniwyd i chwi, 21yr Iesu, yr Hwn y mae rhaid i’r nef Ei dderbyn hyd amseroedd adferiad yr holl bethau a lefarodd Duw trwy enau Ei brophwydi sanctaidd erioed. 22Mosheh yn wir a ddywedodd, “Prophwyd i chwi a gyfyd Iehofah Duw o’ch brodyr, fel myfi. Arno Ef y gwrandewch, yn yr holl bethau, cynnifer ag a lefara Efe wrthych; 23a bydd pob enaid na wrandawo ar y Prophwyd hwnw, a lwyr-ddifethir o blith y bobl.” 24A’r holl brophwydi o Shamuel a’r rhai canlynol, cynnifer ag a lefarasant, fynegasant hefyd y dyddiau hyn. 25Chwychwi ydych feibion y prophwydi a’r cyfammod yr hwn a ammododd Duw â’n tadau, gan ddywedyd wrth Abraham, “Ac yn dy had y bendithir holl dylwythau’r ddaear.” 26Attoch chwi yn gyntaf, y bu i Dduw, gwedi cyfodi Ei Fab, Ei ddanfon Ef yn eich bendithio trwy droi pob un o honoch oddiwrth eich anwireddau.
Dewis Presennol:
Yr Actau 3: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.