Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yr Actau 2

2
1Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt oll ynghyd yn yr un lle. 2A daeth yn ddisymmwth o’r nef swn fel o wynt nerthol yn rhuthro, a llanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn aros: 3ac ymddangosodd iddynt dafodau yn ymhollti, fel o dân, ac eisteddodd efe ar bob un o honynt: 4a llanwyd hwy oll â’r Yspryd Glân, a dechreuasant lefaru â thafodau eraill fel yr oedd yr Yspryd Glân yn rhoddi ymadrodd iddynt.
5Ac yr oedd yn Ierwshalem Iwddewon a drigent yno, gwŷr crefyddus, o bob cenedl dan y nef. 6Ac wedi digwydd o’r llais hwn, daeth y lliaws ynghyd a dyryswyd hwynt, canys clywent, bob un, hwynt yn llefaru yn ei iaith ei hun. 7A synnasant oll, a rhyfeddasant, gan ddywedyd, Wele, onid yw yr holl rai hyn y sy’n llefaru, yn Galileaid? 8A pha fodd yr ydym ni yn clywed, bob un yn ein hiaith ein hun yn yr hon y’n ganed ni? 9Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, a’r rhai yn trigo yn Mesopotamia, ac Iwdea, a Cappadocia, Pontus, ac Asia, 10Phrugia a Phamphulia, yr Aipht, a pharthau Libua gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iwddewon a phroselytiaid, 11Cretiaid ac Arabiaid, clywn hwynt yn llefaru yn ein hieithoedd ni weithredoedd mawrion Duw. 12A synnasant oll, a dyryswyd hwynt, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Pa beth a fyn hyn fod? 13Ond eraill, gan watwar, a ddywedasant, A gwin newydd y gor-lanwyd hwynt.
14A Petr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gododd ei lais, ac a ddywedodd wrthynt, Gwyr o Iwddewon, a’r oll sy’n trigo yn Ierwshalem, bydded hyn yn hysbys i chwi, 15a rhoddwch glust i’m hymadroddion: canys nid yw y rhai hyn, fel yr ydych chwi yn tybied, yn feddwon, canys y drydedd awr o’r dydd yw hi: 16eithr hyn yw’r hyn a ddywedwyd trwy’r prophwyd Ioel,
17“A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Iehofah, y tywalltaf o’m Hyspryd ar bob cnawd,
A phrophwyda eich meibion ac eich merched
A’ch gwŷr ieuaingc, gweledigaethau a welant,
Ac eich henafgwyr, breuddwydion a freuddwydiant.
18Ac ar Fy ngweision a’m llawforwynion yn y dyddiau hyny
Y tywalltaf o’m Hyspryd, a phrophwydant.
19A rhoddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod,
Gwaed, a thân, a tharth mwg;
20Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed,
Cyn dyfod o ddydd Iehofah, y dydd mawr a hynod.
21A bydd, pob un a alwo ar enw Iehofah fydd gadwedig.”
22Gwŷr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu y Natsaread, Gŵr a gymmeradwywyd gan Dduw yn eich plith trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw Trwyddo Ef yn eich canol, fel y gwyddoch eich hunain; 23Hwn, wedi Ei roddi i fynu trwy derfynedig gynghor a rhagwybodaeth Duw, trwy ddwylaw dynion drygionus, 24gan Ei groes-hoelio, a laddasoch: Hwn, Duw a’i cyfododd, gan ddattod gofidiau angau, canys nid oedd bosibl Ei attal ganddo, canys Dafydd a ddywaid am Dano,
25“Gwelais Iehofah ger fy mron yn wastadol;
Canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgoger:
26Am hyny y llawenychodd fy nghalon, a gorfoleddodd fy nhafod,
Ac fy nghnawd hefyd a drig mewn gobaith,
27Gan na adewi fy enaid yn Hades
Ac na chaniattei i’th Sanct weled llygredigaeth.
28Hyspysaist i mi ffyrdd y bywyd;
Llenwi fi o lawenydd ger Dy fron.”
29Gwŷr frodyr, gan allu o honof ddweud yn hyderus wrthych am y patriarch Dafydd y bu efe farw a’i gladdu, ac ei feddrod sydd gyda ni hyd y dydd hwn; 30am hyny, gan fod yn brophwyd ac yn gwybod mai â llw y tyngasai Duw iddo i osod o ffrwyth ei lwynau ef ar ei orsedd, 31gan rag-weled y llefarodd am adgyfodiad Crist, “Ni adawyd Ef yn Hades,” 32ac “Ei gnawd Ef ni welodd lygredigaeth.” Yr Iesu Hwn a gyfododd Duw; o’r hyn yr ydym ni oll yn dystion. 33Gan hyny, wedi Ei ddyrchafu trwy ddeheulaw Duw, ac wedi derbyn addewid yr Yspryd Glân gan y Tad, tywalltodd allan y peth hwn yr ydych chwi yn ei weled ac yn ei glywed: 34canys nid Dafydd a esgynodd i’r nefoedd, ond dywaid ei hun,
“Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw,
35Hyd oni osodwyf Dy elynion yn droed-faingc i’th draed.”
36Gan hyny, sicr-wybydded holl dŷ Israel mai yn Arglwydd ac yn Grist y gwnaeth Duw Ef, yr Iesu Hwn, yr Hwn chwychwi a’i croes-hoeliasoch.
37Wedi clywed hyn, pigwyd hwy yn eu calon, a dywedasant wrth Petr a’r apostolion eraill, Pa beth a wnawn, frodyr? 38A Petr a ddywedodd, wrthynt, Edifarhewch, a bedyddier pob un o honoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant eich pechodau: a derbyniwch ddawn yr Yspryd Glân; 39canys i chwi y mae’r addewid, ac i’ch plant, ac i’r holl rai sydd ymhell, cynnifer ag a alwo yr Arglwydd ein Duw ni Atto. 40Ac â geiriau eraill lawer y tystiolaethodd efe, ac y’u cynghorodd, gan ddywedyd, Achubwch eich hunain oddiwrth y genhedlaeth wyrog hon. 41Rhai, gan hyny, wedi derbyn ei ymadrodd, a fedyddiwyd; ac ychwanegwyd attynt y dwthwn hwnw ynghylch tair mil o eneidiau: 42ac yr oeddynt yn parhau yn nysgad yr apostolion, ac ynghymmundeb, ac yn nhorriad y bara a’r gweddïau.
43Ac yr oedd ar bob enaid ofn; a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaed gan yr apostolion; 44a’r holl rai a gredent oeddynt ynghyd; ac yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin; 45ac eu meddiannau a’u heiddo a werthent, a rhannent hwynt i bawb, fel yr oedd neb ag eisiau arno. 46A pheunydd yn parhau ag un meddwl, yn y deml, ac yn torri bara gartref, y cymmerent eu lluniaeth mewn gorfoledd a symledd calon, 47gan foli Duw, ac yn cael ffafr gyda’r holl bobl. A’r Arglwydd a ychwanegodd attynt beunydd y rhai oedd yn cael eu hachub.

Dewis Presennol:

Yr Actau 2: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda