ac wedi dyfod â rhyw faint, wrth draed yr apostolion y’i dodes. A dywedodd Petr, Chananiah, Paham y llanwodd Satan dy galon i gelwyddu o honot wrth yr Yspryd Glân, ac i ddodi heibio o werth y tir? Onid, tra yr arhosai, i ti yr arhosai; ac wedi ei werthu, yn dy feddiant di yr ydoedd? Paham y gosodaist y weithred hon yn dy galon? Ni chelwyddaist i ddynion, eithr i Dduw. Ac wedi clywed o Chananiah y geiriau hyn, syrthiodd a threngodd; a daeth ofn mawr ar bawb a’u clywsant.