Roedd yn union fel mae’n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia:
“Llais yn gweiddi’n uchel yn yr anialwch,
‘Paratowch y ffordd i’r Arglwydd ddod!
Gwnewch y llwybrau’n syth iddo!
Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi,
pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu.
Bydd y ffyrdd troellog yn cael eu gwneud yn syth,
a’r lonydd anwastad yn cael eu gwneud yn llyfn.
Bydd y ddynoliaeth gyfan yn gweld Duw yn achub.’”