Yn ardal Bethlehem roedd bugeiliaid allan drwy’r nos yn yr awyr agored yn gofalu am eu defaid. Yn sydyn dyma nhw’n gweld un o angylion yr Arglwydd, ac roedd ysblander yr Arglwydd fel golau llachar o’u cwmpas nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.