Pa beth, gàn hyny, á ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tad ni ei gael, o ran y cnawd? canys os Abraham á gyfiawnâwyd drwy weithredoedd, efe á allai ymffrostio; ond nid gèr bron Duw. Canys pa beth á ddywed yr ysgrythyr? “A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.” Yn awr, i’r neb sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gobr megys rhadrodd, ond megys dyled. Eithr i’r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnâu yr annuwiol, ei ffydd ef á gyfrifir yn gyfiawnder. Megys y mae Dafydd, hefyd, yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gàn ddywedyd, “Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau. Dedwydd yw y gwr yr hwn ni chyfrif yr Arglwydd bechod iddo.” A ydyw y dedwyddwch hwn, gàn hyny, yn dyfod àr yr enwaediad yn unig, ynte àr y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder. Pa fodd, gàn hyny, y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynte yn y dienwaediad? Nid yn yr enwaediad, ond yn y dienwaediad. Ac efe á gymerodd nod yr enwaediad fel insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad; fel y byddai efe yn dad i bob credadyn dienwaededig, fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd. Ac yn dad i’r rhai enwaededig, y rhai ydynt nid yn unig yn enwaededig, ond hefyd yn cerdded llwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo tra mewn dienwaediad.